Telsa Gwynne (1969 – 2015)
I gystudd fe ddaeth gosteg – rhoi heddwch
A rhyddid i geindeg;
I ni, er melltith annheg
Ei hud ddeil i ehedeg.
Wedi salwch hir bu ergyd drom o golli Telsa ddoe. Ni fu’n fwriad gen i erioed i sgwennu teyrngedau ar y blog hwn a gobeithio na fydd raid gwneud hynny eto am amser hir, ond weithiau does dim dewis.
Dywedodd cyfaill wrthyf am Gwglo ei henw bore yma i gael gweld yr holl deyrngedau Saesneg a gyfansoddwyd a gwneuthum hynny. Mae’r Trydarfyd, Gweplyfr a’r blogiau yn llawn negeseuon a chofiannau, i’r fath raddau fel ei fod yn syndod o’r mwyaf i mi. Achos, i mi gael esbonio, er fy mod yn ei hadnabod yn weddol dda, ni sylweddolais erioed ei bod mor adnabyddus ar draws sawl maes o amgylch y byd. Yn wir, o ddarllen y blogs:
Gwglais! Chwiliais! Darllenais dri,
Nid hon a ddisgrifir yw fy Nhelsa i.
Felly rheidrwydd yw colbio’r allweddell hwn i goffau a dathlu cyfraniad Telsa Gwynne i Gymru a’r Gymraeg.
Roedd Telsa yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau. Rhannwyd y gwreiddiau hynny yn ganghennau o’r Hen Ogledd ac o Gymru. Byddai’n ymweld â’i theulu yn ardal Newcastle ambell dro ac yn dychwelyd i Dŷ Tawe gyda photeli medd o Lindisfarne er mwyn i gerddorion y sesiwn werin gael blasu beth oedd yr hen Frythoniaid yn ei yfed! Ond o ddewis, daeth Telsa i fyw i Abertawe i hyfforddi a gweithio fel nyrs ac ymsefydlu yma yn ei Chymru hi. Dysgodd Alan (ei gŵr) a hithau Gymraeg ac aeth Telsa ymlaen i wneud gradd Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd hi newydd gychwyn ar ddoethuriaeth yn Academi Hywel Teifi pan gyrhaeddodd yr aflwydd a’i gorfodi i roi’r gorau iddi.
Gwirionodd Telsa ar y Gymraeg a’r pethau Cymreig. Telsa oedd un o brif weinyddion y bar yn sesiynau gwerin Tŷ Tawe am flynyddoedd maith, hi oedd un o brif wirfoddolwyr Caffi Clonc fore Sadwrn Tŷ Tawe, a bu’n aelod o bwyllgor rheoli Menter Iaith Abertawe am flynyddoedd. Bu ei chyfraniad yn enfawr ac mae’r golled yn enbyd. Wrth gyrraedd y caffi yn Nhŷ Tawe ar fore Sadwrn, neu wrth gyrraedd gig neu sesiwn werin roedd gwên, sgwrs rwydd a diwylliedig yn disgwyl unrhyw un. Cofiaf yn iawn am ei gofid wrth roi cymorth cyntaf i Mirain (4 oed) wedi iddi wasgu ei bys yng nghornel drws yn Nhŷ Tawe.
Awgrymais rhyw dro y dylai gael ei thalu am redeg y bar mor ddiffwdan o fis i fis, ond ei hymateb oedd ei bod wedi derbyn gymaint o fudd oddi wrth Tŷ Tawe wrth ddysgu’r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd ac o gael cyfeillion Cymraeg yno, ei bod yn teimlo mai ad-dalu yn unig a wnâi. Gwrthododd unrhyw daliad yn bendant.
Roedd ei chwmni yn ddifyr bob amser. Gwirionai ar farddoniaeth Gymraeg a Saesneg. Ymhyfrydai ei bod wedi canfod hen gywyddau maswedd nad oedd rhyw ddarlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe eisiau eu trafod a byddai yn ceisio eu trafod â hwy cyn amled a phosib! Mwynhâi wrando ar feirdd yn adrodd eu gwaith ac roedd yn hoff iawn o grwpiau gwerin-pync ymhob iaith. Byddai wedi bod wrth ei bodd gyda’r treigliad o’i henw a wneuthum uchod er efallai y byddai’n fy ngheryddu’n ysgafn am y peth.
Rhoddodd sawl un ohonom ar ben ffordd yn y byd cyfrifiadurol ac roedd ei blog Cymraeg gystal pob tamaid a’r memrwn Saesneg y bu’n ei gadw hefyd. Bu’n ein hannog i ystyried defnyddio systemau cyfrifiadurol tu hwnt i Microsoft ac Apple (rhywbeth nad yw’n anghyffredin erbyn hyn), ond mewn gwirionedd roedd ei chefndir yn y maes hwnnw yn guddiedig i’r rhan fwyaf ohonom. Gwyddom, wrth reswm, am ei gallu rhyfeddol gyda chyfrifiaduron a datblygu meddalwedd, ond nid oedd yn destun trafod rhyngom. Ac felly, rhyfeddach fyth im yw darllen negeseuon pobl ar y we heddiw yn talu teyrngedau o bob cornel o’r byd.
Bu’r cyfnod o waeledd yn hir, ond parhaodd ei gwenau. Bu’r profiad o ymweld â Telsa a hithau’n sâl yn un cymysg. Profiad o rwystredigaeth bod rhywun mor annwyl, egwyddorol a hwyliog yn gorfod dioddef, ond profiad hyfryd hefyd o gael trin a thrafod y byd a’i bethau. Celodd ei phoen rhagom gymaint ag oedd hynny’n bosibl. Dywedodd wrthyf bod y pethau dibwys wedi mynd yn angof iddi a’i bod am ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Y pethau hynny pan yn sgwrsio gyda mi oedd byd natur, adar, blodau, barddoniaeth, canu (gyda gitâr), y ‘pethau’ Cymraeg, ac hanes ei theulu. Ar un achlysur roedd cyfaill arall iddi wedi galw heibio ac wedi rhoi cregyn o lan y môr Abertawe iddi’n anrheg gan nad oedd Telsa erbyn hynny’n gallu mynd at y traeth. Yno y buom am orig yn gwrando ar seiniau rhyfeddol llanw a thrai mewn cragen.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Alan a’r teulu agos i gyd.
Ymweld
Clyw’n llef yr hydref oer hyn – er yr haul
Teimlwn rew diderfyn
A gwae o golli Telsa Gwynne.
 gwendid fe es yn gyndyn – i’w gweld
Es ag ofn meidrolyn,
Gwiw awr fu â Telsa Gwynne.
Hoff orig i ganu offeryn – fu
Yn fwyn ar ddydd gwrthun,
Hael ei sgwrs oedd Telsa Gwynne.
Drwy awr dreng adroddodd englyn – a’i hwyl
Yn parhau i’m dilyn.
Loes gudd oedd loes Telsa Gwynne.
Er yn dawel yn ei gwely’n dioddef,
Hud ei hedd drwy ddeigryn
A gwefr ddaeth gan Telsa Gwynne.
Yn dirion gwelsom aderyn yr haf
A holl rin blodeuyn.
Ni welais gur Telsa Gwynne.
Gwylio heb weled gelyn – yn hwyliog
Heb wylo na dychryn,
Mwynhau gwenau Telsa Gwynne.
Yr eigion glywsom mewn cregyn – tonnau
Fel tannau hen delyn
Yn gain, alaw Telsa Gwynne.
Ond yn dyner dychwel deryn – a daw
I dir wefr blaguryn
Llon o gofio’n Telsa Gwynne.