Tregaroc

Geilw Heledd daith fel hon o Abertawe drwy’r Deheubarth i dref Tregaron yn ‘road-trip‘ ac felly, gyda’r to-haul a’r ffenestri yn llydan agored a cherddoriaeth swnllyd yn ein gwthio i ffwrdd a ni i fwynhau Tregaroc a chael lliw haul yn y broses.

Achlysurol iawn yw f’ymweliadau â Thregaron, ond gyda phob ymweliad synnaf at ba mor wledig ydyw a thref mor fechand yw.  Ond mae’n amlwg mai tref fechan gyda cynlluniau mawr yw Tregaron yng nghyd-destun yr ŵyl hon.  Roedd hi’n hynod braf rhoi’r car i sefyll gerllaw bwyty Tseineaidd Dan ‘i Sang a chlywed bâs roc a rôl yn bwmio drwy’r dref gan ein denu at ardd y Talbot.

Ble mae Tregaron?  Jest tu fas i’r Talbot medde nhw.

Yno, yn yr haul tanboeth, gyda rhai cannoedd eraill yn gwrando dros beint oedd ieuenctid yr ardal, teuluoedd, henoed, plant.  Pawb.  A Cymraeg oedd yr iaith ar wefusau pawb.  Eithriad oedd clywed Saesneg ac roedd hi’n braf teimlo’n gysurus mewn lle felly.

RaffDam oedd y grŵp cyntaf i’r llwyfan (neu o leiaf i mi eu clywed) ac er mai grŵp ifanc lleol oeddynt roedd graen iddynt a synau’r banjo yn rhoi tinc Mumfordaidd iddynt.  Mwynheais yn fawr.

Nid oeddwn wedi cael mwynhau cwmni Richard a Wyn ers rhai blynyddoedd a braf iawn oedd eu canfod hyw a’u band, Ail Symudiad, yr un mor hwyliog ag erioed ac yn llawn egni ar y llwyfan.  Caneuon pync-pop hyfryd a phawb yn gwybod pob un gair i’r caneuon i gyd.  Dwi’n falch o allu dweud mai’r sengl Garej Paradwys oedd y record gyntaf erioed i mi ei brynu ac mai’r sengl flaenorol, Geiriau, oedd un o’r rhai nesaf i mi dalu amdani.  Wnes i wir fwynhau mae’n rhaid cyfaddef.

Peint yn ddiweddarach daeth Y Bandana i ddiddanu’r ardd a cododd sawl un i ddawnsio a mwynhau’r clasuron pop Cymraeg.  Llwyddasant i gynnau diddordeb y dorf a trueni bod yr amser wedi hedfan yn rhy fuan.

Hyfrydwch yr ŵyl yn Y Talbot oedd ei Chymreictod gwledig.  Roedd bar y dafarn yn orlawn ac yn f’atgoffa o fersiwn llai o’r Cnapan yn ystod llwyddiannau yr ŵyl honno.  Nifer mawr o’r yfwyr yn ddynion a merched ifanc mewn crysau rygbi ac yn cael hwyl fawr mewn gŵyl naturiol Gymraeg ei nhaws.

Roedd Tregaron mor dawel tu allan i ddalgylch y Talbot fel bod modd cerdded ar hyd ganol y ffordd i ben draw’r dref a’r clwb bowlio.  Yno roedd Lowri Evans yn diddanu yn yr awyr agored eto.  Does dim llawer o gantorion Cymraeg sydd a llais mor felfedaidd hyfryd â Lowri Evans.  Mae’r cyfan yn broffesiynol, werinol a gwych.

Doedd dim tocyn gen i ar gyfer y noson ac felly teithiais y ffordd adref i Abertawe wedi fy mhlesio’n fawr gyda’r gorau o Dregaron.

Tregaroc
Mwynhau oriau o gerddorion hwyliog
Yn haul Ceredigion,
Gwenu’n llu wna pawb yn llon
Ar gwrw yn Nhregaron.