Wythnos brysur o noson i noson o ddigwyddiad i ddigwyddiad oedd yr un ddiwethaf. Wythnos lawog dymhorol a drycin tywyll yn ein harwain yn agosach at natur. Bu tri uchafbwynt i’r wythnos:
1 – Bum yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd yn cystadlu mewn ymryson arbenig ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant ym Mhorthcawl. Dysgais nad yw Porthcawl yn le hyfryd mewn tymhestl gerwin ar nos Lun tywyll. Ond, yng nghwmni Mari Lisa, Karen Owen a Rhys Iorwerth mi lwyddom i golli yn erbyn tîm Rhys Dafis, Mair Tomos Ifans, Mari George ac Emyr Lewis. Rhaid cyfaddef i mi fwynhau a chael chwerthin cryn dipyn, yn ogystal a’r ochneidiau angenrheidiol ar yr adegau addas! Mae’r rhaglen i’w chlywed YMA.
2 – Dim ond tua pump ar ugain ddaeth i’r sesiwn werin y mis hwn (nos Wener) yn Nhŷ Tawe, ond roedd hynny’n ddigon i sicrhau ambell beint, canu mawr ac alawon dawns yn chwyrlio. Cwrw Llŷn oedd yn y gasgen (Brenin Enlli) a chafwyd cryn bleser gan bobl Abertawe wrth lymeitian chwerw’r Gogledd. Bu ambell i gân newydd hefyd a canwyd Tros Ryddid (Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovegreen) i nodi cyfnod y pabi coch yn ein blwyddyn.
3 – Ardderchog oedd cael mynd a’r merched draw i ganol Abertawe i wylio’r orymdaith/carnifal cynnau goleuadau’r Nadolig. Roedd hi’n anodd credu bod cymaint wedi dod allan i wylio a mwynhau. Rhyfeddol. Ac mae’r goleuadau ar y goeden Nadolig yn werth eu gweld – cymerwch olwg ar Heledd a Mirain o’i blaen wrth iddi gael ei goleuo.
Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd gweld fflôt Menter Iaith Abertawe yn pasio heibio yn llawn egni, bwrlwm a Chymreictod. Roedd yr holl beth yn wirioneddol wych ac yn ysbrydoli rhywun. Carolau cyfoes ifanc Cymraeg eu hiaith a rhywrai yn galw allan “Nadolig Llawen” tra’n dawnsio ar fflôt a wnaethpwyd i edrych fel Draig Goch. A hyn oll ar hyd Wind Street a’r Kingsway yn Abertawe. Dyna i chi beth yw llwyddiant a digwyddiad i ni, y Cymry yn yr ardal hon, gael ymfalchio ynddo. Roedd staff y Fenter yn glodwiw a’u brwdfrydedd yn codi calon. Diolch enfawr iddynt ac i John Davies am ei waith ar y fflôt. Heb os nac oni bai, fflôt y Fenter oedd y gorau o’r holl orymdaith. Gwn bod 5 wythnos a mwy i fynd, ond mi gefais flas ar awyrgylch Gymreig y Nadolig eisoes yma yn Abertawe!