Ghazalaw yn Abertawe

Oes yna fyd gwerin i gael i rhywun sy’n ymddiddori yn ardal Abertawe? Wel, a derbyn fy mod wedi teithio unwaith tu hwnt i ffiniau 5 milltir o’r tŷ (i Ddolgellau) bu’r bythefnos ddiwethaf yn bleser o fwynhau Martyn Joseph, Cylch Canu 2, Dick Gaughan, Tecwyn Ifan, sesiwn werin Calan Gaeaf a’r twmpath anffurfiol, sesiwn werin nos Wener sydd i ddod, a heno mae Ghazalaw a Kizzy Crawford yn y Taliesin! Owfyrcil efallai!

image

Daeth ymhell dros gant a hanner i wrando ar Kizzy Crawford


yn y Taliesin. Mae ganddi steil gwylaidd, addfwyn hyfryd tra’n swyno gyda’i cherddoriaeth unigryw. Set dwyieithog oedd hon gydag ychydig yn ormod o Saesneg yn fy marn i. Ond set hyfryd a dwi’n falch iawn o fod wedi cael ei mwynhau heno.

Adolygiad onest nawr felly o Ghazalaw. Doeddwn i ddim eisiau hoffi Ghazalaw. Mae’r syniad o blethu cerddoriaeth Gymraeg ac Wrdaidd yn un ymhonus braidd yn fy nhyb i ac roeddwn i’n wir ddisgwyl cael fy siomi. Ond…

Gwrandewais ar wefan Ghazalaw cyn mynd i’r cyngerdd (gan taw dyna ydoedd) a sylweddoli bod y cyfan yn gweithio yn asiad perffaith ryfeddol. Sut allai hynny fod?

Roedd seiniau’r cyfan yn fyw yn aeddfed fwyn. Ni sylwais erioed o’r blaen ar dynerwch hyfryd lleisiau cantorion India. Bu’r cyfan yn isalaw i fwytai i mi cyn hyn. Bydd angen rhoi mwy o wrandawiad o hyn ymlaen.

Gydag harmoniwm, tabla, telyn (Georgia Ruth), ffidil (a seiniau’r dwyrain yn diferu ohoni), dwy gitâr a lleisiau cynganeddol cyfareddol gwych roedd y cyfanwaith yn trawsnewid y felan nos Sul i fod yn orig ddiddan i godi calon.  Nid canu caneuon o’r naill ddiwylliant a’r llall yn eu tro wnaethpwyd, ond cymysgu caneuon o’r ddau diwylliannol i greu caneuon newydd. Os na chawsoch y cyfle i wrando a gwylio yn fyw fe golloch gyfle. Os y daw’r cyfle i’ch rhan rhyw dro, ewch.

Un awgrym – gan fod Georgia Ruth yn bresennol, trueni na chafwyd cyfle i gael un gân unigol ganddi hi, i ychwanegu at y noson.

Bu’n rhaid prynu twtddisg wrth gwrs ac edrychaf ymlaen i fwynhau y cwlwm tyn hwn ymhellach dros y misoedd ddaw.  Pwy feddyliai y byddwn wedi mwynhau set ddwyieithog cymaint! Melys moes mwy…

Tecs a Dick

A minnau yn digwydd bod yn y Gogledd ddoe, cyd-ddigwyddiad pleserus dros ben oedd bod Dick Gaughan yn canu yn Nhŷ Siamas neithiwr gyda chefnogaeth gan neb llai na Tecwyn Ifan.

Nawr te, dwi’n dipyn o ffan o Tecwyn Ifan a bu’r athrylith Dick Gaughan yn ddylanwad mawr arna i ambell ddegawd yn ôl, felly dyma fentro draw i’r hen Neuadd Idris, prynu peint o Gwrw Cader, ac eistedd yn ôl i ymlacio a mwynhau.  Criw bychan oedd yno, pump ar ugain efallai, ond roedd yr awyrgylch a grewyd gan y ddau hyn yn llenwi’r lle.

Tecs yn gyntaf, felly.  Mae caneuon, llais, barddoniaeth a sgwrs Tecwyn Ifan yn hudol.  Eisteddais yno’n gwrando ac yn gwirioni.  Fyddwn i ddim yn ei alw’n ŵr carismataidd ar lwyfan, ond eto, yn ei gân mae ganddo rhywbeth sy’n denu ac sydd yn gallu creu ias yn well na neb arall.  Mae’n hawdd anghofio hefyd gystal gitarydd ydyw.  Dwi’n amau y byddai ef ei hun yn gwawdio’r fath ddatganiad, ond eisteddais yno yn mwynhau ei gerddoriaeth.

Yng nghanol y set canodd Gwaed ar yr Eira Gwyn a cefais f’atgoffa pa mor wych ydyw.  Aeth cryndod i lawr yr asgwrn cefn wrth glywed, unwaith eto, Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn…

Yna daeth tro Dick Gaughan ac roedd Dick hefyd yn wefreiddiol.  Mae ganddo ddawn dweud (er mor anodd yw deall yr acen Albanaidd ar adegau) ac mi wnes i fwynhau ei rantio gwleidyddol/hanesyddol.  Er enghraifft, dyfynodd yr undebwr llafur Gwyddelig, Jim Larkin, a ddywedodd “The great only look great because we are on our knees”.  Mae gitâr Dick Gaughan hefyd yn ardderchog, ond efallai bod y sbarc wedi mynd gyda’r blynyddoedd a’r llais yn dechrau dirywio?  Dwn im, ond er hynny roeddwn wrth fy mod ac wedi cael cryn fwynhad.

Ar ddiwedd y noson cefais gyfle i dynnu llun o ddau arwr – profiad!

20151105_220749

Braf iawn oedd cael sgwrs gyda chyfeillion Dolgellau.  Alun Owen (Bontddu) yn llawn hwyliau ac Ywain Myfyr arweiniodd fi at ‘Gwin Dylanwad‘ ac yna i’r Torrent.

Ni fum o’r blaen yn Gwin Dylanwad (ers iddynt symud o Dylanwad Da), ond roedd croeso Llinos a Dylan yn ardderchog a cefais fraint o gael gweld y selar hen a thô isel, y waliau pren ganrifoedd oed, a’r ystafelloedd hen a hyfryd ar y lloriau uwch.  Lle rhyfeddol a phobl ryfeddol.  Cafwyd cwrw da (Brenin Enlli – Cwrw Llŷn) yno ac mae’n siwr y caf gyfle i fwynhau yno eto yn fuan.

Heddiw ces orig ddiddan – o wenau
A gwinoedd, rhof fawlgan
Yn glod i hardd windy glân
A hwyl Llinos a Dylan.

Y Torrent oedd y dafarn nesaf.  Hen dafarn hyfryd sydd wedi adfywio drwyddi yn ddiweddar.  Yno roedd cwrw Bragdy Conwy, California, yn flasus a’r cwmni yn ddiddan.  Hel atgofion gyda Myfyr am ddyddiau Gwerinos.  Cytuno ar gynlluniau a phrosiectau newydd (!) a hynny mewn awyrgylch uniaith Gymraeg.  Oedd, yn rhyfeddol o adnabod y Dolgellau cyfoes, roedd pob un wan jac yn y dafarn yn siarad Cymraeg a’r awyrgylch yn hynod hyfryd.

Dolgellau ar nos Iau ym mis Tachwedd.

Calan Gaeaf

Nid pawb sydd a’r amynedd, na’r arddeliad, i drefnu noson Calan Gaeaf oddi wrth yr heip Seisnig-Americanaidd, ac felly mae’n diolch yn fawr i Tracey a Geraint am drefnu noson o hwyl yn y ganolfan sgowtiaid uwchben Ystalyfera.

Mewn lleoliad hyfryd bu coelcerth fawr, canu, tysen bôb a chaws a ffa, danteithion melys, casgen o gwrw (cyfraniad gan Gareth Rees) a sesiwn werin gyda thwmpath anffurfiol yn ychwanegu at yr achlysur.

Noson braf iawn.  Do, mi wisgais fwgwd a bu cryn ganu a llymeitian rhwng y pymtheg ar ugain a ddaeth.

Byddai’n braf gweld yr un peth yn digwydd yn flynyddol.

Martyn Joseph

Mae’r Saeson yn sôn am ‘guilty pleasures’ ac mae Martyn Joseph yn un o’r rheiny i mi!

Nid yw’n ffitio i mewn i’r ddelwedd o gerddor dwi’n ei hoffi fel rheol, mae’n llawer rhy lân a chywir.  Ond wir i chi, mae Martyn Joseph yn rhoi ias i lawr meingefn ac yn haeddu pob broliant posibl.

Heno, ym Mhontardawe, clywsom y caneuon Swansea, Cardiff Bay, Dic Penderyn, a Proud Valley Boy, ymysg eraill.  Noson arall i’w thrysori yng nghwmni canwr gwerin Cymreig.

Bu cyd-ganu ar adegau ac ambell i chwerthiniad iach.  Diolch Martyn.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015?  Sut aeth hi?  Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?

Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:

Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr.  Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu.  Joio!  🙂

Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf.  Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw.  Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.

Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!

Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi.  Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.

Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle.  Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd?  Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015 – yr uchafbwyntiau.

Sesiwn Tŷ Tawe Medi 2015

Roedd hon yn un o’r nosweithiau mawr hynny na all aros yn y cof yn hwy nag ychydig ddyddiau!  Yno roedd cerddorion lu yn canu’r delyn deires, pibau, chwibanoglau, acordionau, mandolinau, gitarau, iwcaliliau, a ffidlau a do, bu’r alawon yn hedfan am sbelan go lew.  Yn ychwanegol i hyn oll roedd tair casgen o gwrw ac erbyn diwedd y noson roedd y dair yn sych!  Cwrw 3 Cliffs Gold (Cwmni Bragu Abertawe), Gower Power (Bragwyr Y Gŵyr), a Digger’s Gold (Bragdy Grey Trees, Aberdâr).  Roedd y tri yn flasus tu hwnt!  Ac i’w hyfed cafwyd gwydrau newydd Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe!  Hyfryd!

gwydrauRoedd cerddorion ardderchog ymysg y cwmni arferol.  Dan Morris yn gwefreiddio fel ag y mae bob amser:

Erbyn diwedd y noson roedd yr awyrgylch, y cwrw, a’r gerddoriaeth wedi datblygu’n ddigon i ambell un i roi unawd:

geraintAc yna, i ganol y noson urddasol hon daeth y pibau i bibo fel côr o’r ochr draw:

PibauFe welir yn y llun uchod bod 4 pibydd yn ormod!  Brith iawn yn wir!

Roedd dechrau’r noson yn gyfle i gyflwyno’r llyfr, Sesiwn yng Nghymru i Abertawe a gobeithio yn wir y gwnaeth y nifer dda o bobl ddaeth draw fwynau’r noson a’r hwyl.  Diolch i bawb am ei gwneud yn sesiwn i’w chofio, gan gynnwys Heledd a Llinos a roddodd i ni eu fersiwn hwythau o gân hyfryd Huw M – Seddi Gwag.

Noson fendigedig.  Mae’n bosib y daw sawl fideo arall i’r fei cyn bo hir…