Daeth argraffiad cyntaf y llyfr o wasg y Lolfa yng Ngorffennaf 2007, a’r ail-argraffiad yng Ngorffennaf 2008.
Dyma farn rhai o’r adolygwyr:
Rhys Mwyn – Yr Herald Gymraeg: “Dyma un o’r llyfrau pwysicaf yn yr Iaith Gymraeg hyd yma! Mae’r llyfr yn hollol hollol hollol – HANFODOL!”
Emyr Llewelyn – Y Faner Newydd: “Dyma un o’r cyfrolau harddaf a mwyaf diddorol i ymddangos yn y Gymraeg. Prynwch hi – mae’n gyfareddol.”
Llais Llyfrau y BBC: “Mae’r gyfrol, sydd wedi ei sgrifennu yn amlwg gyda’r darllenydd cyffredin mewn golwg, yn sicr yn deffro diddordeb a thybed a allwn obeithio eu gweld yn ymestyn eu gweithgarwch i rannau eraill o Gymru? Byddai’n gasgliad difyr a gwerthfawr o lyfrau.”
Dewi Prysor: “Hoffwn eich annog i brynu’r llyfr anhygoel o ddiddorol, Meini Meirionnydd… …Mae mwy iddo na lluniau, hanes a chyfeirnodau grid, diolch i weledigaeth Huw Dylan Owen. Dwn i’m os ydw i wedi darllen llyfr mor ddiddorol erstalwm.”
Gwefan Gwales – Iwan Bryn James:
“Agorodd y gyfrol hon fy llygaid i’r cyfoeth ehangach a geir o fewn ffiniau’r sir. Yn y gyfrol ddeniadol hon sy’n gyforiog o luniau lliw gwych gan y ffotograffydd David Glyn Lewis, rhestrir dros chwe deg o safleoedd megalithig, sy’n cynnwys meini hirion, cromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig nodedig.
Mae brwdfrydedd awdur y testun, Huw Dylan Owen, am y meini hyn, yn amlwg o’r dechrau.
Dyma gyfrol a’m plesiodd yn fawr, cyfrol sydd wedi codi awydd arnaf i ymweld fy hun â rhai o’r mannau hudol a gyflwynwyd imi o fewn ei thudalennau.”
Y Dydd: “…cyfrol hardd, ddifyr ac addysgiadol dros ben gyda lluniau ardderchog.”
Y Tyst (Dewi Jones): “Gan fod y testun wedi ei osod yn drwyadl mewn arddull mor ddifyr a darllenadwy rwy’n siwr y bydd yn apelio at lawer… …Rwy’n annog pawb sy’n hoff o grwydro’r unigeddau i brynu’r gyfrol hon ac i fynd allan i weld yr holl ryfeddodau a geir ynddi.”
Dail Dysynni: “Awgrym penigamp am anrheg i chi’ch hun! Lluniau’n plesio, englynion a hanesion diddorol. Gwaith ardderchog yn wir!”
Kenneth S. Brassil – Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd: “Yn naturiol y lluniau sydd yn tynnu sylw. Mae nifer fawr ohonynt yn wych. Ond y barddoniaeth sydd yn sicrhau fformiwla anarferol i’r gyfrol…”
Cyfrol o ysgrifau hwyliog ar y byd sesiynau gwerin yng Nghymru, gydag enw a nodiant alaw Gymreig yn bennawd i bob pennod. Llyfr unigryw ei naws gelfyddydol na chyhoeddwyd ei fath yn y Gymraeg o’r blaen.
“Y mae Sesiwn yng Nghymru – Cymry, Cwrw a Chân gan Huw Dylan Owen yn gampwaith o gyfrol, y gyfrol fwyaf diddorol a ddarllenais ers llawer dydd. Dyma sgrifennu byrlymus, cyffrous, gwybodus, brwdfrydig ac afieithus. Ychwanegwch at hynny sylwadau bachog a barn bendant ar wahanol agweddau’r byd canu gwerin, Cymru a Chymreictod gan ddyn ar dân dros ganu gwerin. Mae e hefyd o blaid cyflwyno canu gwerin yn y lle y dylid gwneud hynny – ymysg gwerin hwyliog y tafarnau.
Dyma arweinlyfr ardderchog i dafarnau sy’n croesawu sesiynwyr. Hefyd, ar gychwyn pob pennod fe geir alaw draddodiadol Gymreig, tua deugain ohonyn nhw i gyd – rhywbeth amhrisiadwy i grwpiau gwerin.
Mae hon yn gyfrol gyforiog o wybodaeth ddiddorol, o farddoniaeth ardderchog, y rhan fwyaf ohoni, rwy’n tybied, o waith yr awdur ei hun ac yn dangos dawn cynganeddwr medrus. Yn ogystal â hynny, mae’r bennod olaf yn ddarn ardderchog o lenyddiaeth bur. Fedra i ddim dweud mwy.”
“Dros y blynyddoedd bu ganddo droed mewn sawl gwersyll cerddorol, yn werin a roc. Tybed nad yw’r bardd a’r cerddor dawnus hwn bellach wedi llwyddo i greu arddull newydd ac unigryw iddo ef ei hun?” – Arfon Gwilym (Cylchgrawn Barn – Mehefin 2021)
“If a pint of Guinness had a voice it might well sound like Huw Dylan Owen on this new album – velvety, dark and very sustaining… …[Cau’r Hen Le] Despite its aching feeling of threnody, of lament, it’s a lovely, lovely song, not least when the singer harmonises with himself, two baritone rivers conjoining… …Just as fellow poet and troubadour Twm Morys – who shares a similar voice and flair for versifying – often sings about hares, here Hyw Dylan Owen sings about the beloved bears of his childhood, now removed, now long gone. It’s a good upbeat ending to an album by a natural rover, taking folk music for a walk along new paths, full of beautiful turns and sudden, unexpected vistas.” – Jon Gower (Nation Cymru 13/6/21)
“Diddorol iawn! 13 o draciau amrywiol iawn. Mae’n amlwg iawn o’r cychwyn cyntaf pa mor bwysig ydy geiriau yn fan hyn. Mae Huw Dylan yn fardd o fri a waw! Mae ‘na eiriau bendigedig… Ac am lais sydd ganddo fo. Mae ganddo fo lais isel melfedaidd, bas. Llais sy’n perthyn i’r tir rhywsut… Mae’r amrywiaeth yn eithriadol… Mae o wedi creu genre hollol newydd yn fan hyn.” – Ann Atkinson (Rhaglen Dewi Llwyd, Radio Cymru 18/7/2021)
“extraordinary debut album… heady mixture of familiar folk tunes interspersed with rock themes, hypnotic Welsh-language poetry, intonation & what he calls: ‘Rap traddodiadol’ – weird, wonderfully raw and very appealing.” – Mik Tems (Folk Wales 22/6/2021)
“Huw Dylan (not a Valleys tribute to his esteemed octogenarian namesake, but an enigmatic character all the same) effectively weaves Welsh poetry, songs, rap, and traditional folk themes to an accompaniment of rock guitars, traditional instruments and harmonies.Dylan’s vocal style and timbre perfectly compliments the material, and the choice of arrangements and accompaniments is eclectic, but fitting throughout.” – Rock n Reel Magazine RnR (Ian Taylor [RnR Vol.2 Issue.88] July August 2021)
“Albwm newydd gan Huw Dylan. Mae o’n swnio fel Bob Delyn, neu’n Leonard Coheny” – Dyl Mei (Radio Cymru ar Rhaglen Tudur Owen – 1/5/2021)
“Wow! Licio honna’n fawr iawn. Yn fawr iawn. Yr ail dro I mi wrando arni a mae hi’n well yr ail dro. Disgrifiad o lais fatha jam ar croissant neu fel menyn ar dôst. Neis ‘lly. Rhyw deimlad fel’na.” – Tudur Owen am Cau’r Hen Le (Radio Cymru ar Rhaglen Tudur Owen – 1/5/2021)
“Wedi mwynhau’n fawr. Wedi ei chynhyrchu yn arbennig o dda. Mae’r wybodaeth sy’n rhan o’r pecyn yn wych. Ewch amdani! A mwynhewch y gwrando!” – Eurig Salisbury (Podlediad Clera Ebrilll 2021)
“Braf gweld y gynghanedd yn cael ei defnyddio mewn ffordd gyffrous!” – Aneirin Karadog (Podlediad Clera Ebrill 2021)
Geiriau’r cerddi/caneuon a Gwybodaeth am Alawon
Cyflafan
Mi welais saethu miloedd
Drwy Hollywood, a’r hwyl oedd
Gweled Indiaid yn gelain,
Miri im gweld marw’r rhain.
Cael mwynhau gweld gynnau gant
Diawlineb yn adloniant,
Gweld pen-plu yn llyfu’r llwch
A’i farw yn ddifyrwch.
Ias a gawn o weld hen sgwô
Ni welwn fam yn wylo
Na gweled loes a galar
Cherokee wedi colli câr.
Cael hwyl iawn gweld celanedd
Heb weld y boen, heb weld y bedd.
Ni y gwyn sydd ddynion gwâr,
Nhw ddi-enaid oedd anwar.
Gwelais heno’n ddigalon
Hen Sioux ar y sgrin yn sôn
Am hafau a dyddiau da
O’i adfyd mewn gwarchodfa.
Heno heb lwyth, heb ei wlad,
Yn brudd heb ei wareiddiad.
– Dafydd Wyn Jones
Uchder Cader Idris – Oferedd Treforys Alawon Traddodiadol Cymreig a chwaraeir mewn sesiynau gwerin. Cyfrol: “250 Welsh Airs for a Shilling – Davidson’s musical miracles.”
Cau’r Hen Le
Wrth gloi y clwydi ar ddiwedd dydd
A’r machlud yno’n aros
Fe wyr mai hi yw’r olaf prudd
A’r terfyn ddaw’n rhy agos
Diffodd y golau a brwsio’r llawr
Run fath a’i mam o’i blaen
A chofio’n ol at ddyddiau’r wawr
A’r oesau’n ‘mestyn ymlaen.
Mae’n gwybod mai hi yw yr olaf
I gau y drws ynghlo
Dyma’r tro diwethaf i’w llais gael codi’r to
Ac wrth iddi gerdded at yfory
Sy’n edrych mor ddu a llwm
Mae’n deall mai hi oedd yr unig un
I sgwyddo baich mor drwm.
Ni chofir y chwerthin na’r canu nawr
Na’r hwyliau fu yno’n codi
Cymdeithas na all gofio’r wawr
A’r ysbryd wedi torri.
Atgofion braf blynyddoedd hir
Sy’n drwm dan ddigalondid
Rhy wan fu’r ymladd, dyna’r gwir –
Cau dyrnau yw cadernid.
Mae’n teimlo cywilydd, euogrwydd cras,
Croen gwydd ac iasau cryndod,
Y ddolen wnaeth fethu, methiant ei thras
Nid yw am i neb ei hadnabod.
Holai’ chymydog “lle fuest ti
a hithau’n ddydd mor braf?”
A’i chalon yn chwithig ni allai hi
Gyfaddef a’r hanes mor glaf.
Merch
Diwall yw’r dlos fach dawel, – un wylaidd
ei thad eilw’n angel,
Ei halaw’n ddi-daw, gwallt del,
Cernod a gwaedd mewn cornel.
Un waedd yw ei hwyrol weddi, – a’i gras
a dry’n sgrech cyn nosi;
Un rheg yw ei phader hi –
Enaid ag ofn rhieni.
Ei rhieni rydd ‘arweiniad’, – mam hallt
ei melltith a’i phwniad
a dwrn yn anrheg gan dad,
Curo ddengys eu cariad.
 braw daw y ‘cariad briwiau’ – a loes,
Ei chloi mewn cypyrddau
yn gas er y glas gleisiau
yn y gwyll a’r drws ar gau.
Yn y gwyll cenfydd hen gyllell – un fain
Finiog a daw dichell
I agor cnawd ei dagell,
Heb dad-gwae bydd bywyd gwell.
Heb aros, â gwae mae’n ymosod, – lladd
â llafn rydlyd barod;
Heb waedd tad yn peidio bod,
Undydd – diwedd plentyndod.
Diwedd a neb yn deall, – un weddw
gyhoeddus, ond cibddall;
Un amddifad o dad dall,
A diwedd plentyn diwall.
Awyren Bapur
 thithau’n llyfn a glân a hardd
Yn rhwym i drefn disgyrchiant
Cymeraf ennyd i’th godi di
Ar adain llawn gogoniant.
Mwytho’n gain a thylunio crin
A phlygu craidd dy hanfod
Bysedd deheuig am dy ganol di
A glynu gyda ‘nhafod.
Ehed i’r gwynt â d’enaid fry
Wyt frau, cei orffwys fory.
Ar awel braf cei esgyn rhwydd
 gwefr wrth frig entrychion
A throelli yno gerllaw y nef
Ysbrydol fydd d’orwelion.
Rhy fyr yw einioes dalen frau
Rhy hawdd yw rhwyg a malu
Ehed pob cyfle ddaw i’th ran
Cei orffwys pan ddaw yfory.
Ehed i’r gwynt â d’enaid fry
Wyt frau, cei orffwys fory.
Ehed i’r gwynt ar aden rydd
Ar lif a gwres yr awel
Ar wynt cei ffoi rhyw ddydd
Wyt frau, cei orffwys yn dawel.
Mudo
Yn ufudd, rhywsut mae’n cofio – y nyth
Fu’n hin haf cyn mudo
Adref; rhaid yw’r ailgrwydro,
Daw’r gwŷs â brys ‘nôl i’w bro.
Broydd hyfryd ddeil i hudo’i – haden,
Rhaid gadael Soweto
A thrist yw cymryd ei thro
I roi hwyl a ffarwelio.
Ffarwel maith cyn dechrau teithio – esgyn
A phesgi wrth fentro
Yn haid ar fin alltudio,
Llu’n canu ar wifr o’u co’.
Fe gwyd, o’r wifr lle bu’r clwydo yn res,
Ar wib heb betruso
Â’u racet am Foroco,
I dir yr haul aiff ar dro.
Daw’r haul a’i hin i’w blino – a’i horiau
Drwy’r Sahara’n brifo
Yn boeth, mae’n anobeithio
Er deddf ei greddf uwch y gro.
A’i greddf disynnwyr diwyro – i Ffrainc
Aiff ar ras llawn cyffro
Yn fuan, a’i hadfywio
Wna’r traeth, at Gymru y tro.
O bell, yng Nghymru caiff bwyllo – ond twyll
Yw gwneud tŷ dan fondo
A chael hoe, nid dyma’i chlo
Â’i natur ufudd eto…
Cregennan
Alaw draddodiadol ddysgais o’r sesiynau. Cofnodir yr alaw yn y gyfrol Sesiwn yng Nghymru sydd ar werth YMA.
Llwydwyll Gwareiddiad Llydaw
Yn bendrwm yn ei chwman – ym Min Mor
Ym Mhen March, hen wreigan
Mor hen a’r mor ei hunan
Werthai lês wrth y lan.
Yn ei gweillen ‘roedd gallu – ei llinach,
Deall hen ei theulu;
Hithau’r un fath a’r hyn fu
Yn gweu hanes a gwenu.
Aeth cur i’r plethau cywrain, – hir waedu
Aeth i’r brodwaith mirain,
A’r llaw a bwythai’r lliain
Yn llunio cof mewn llun cain.
Hen wraig drist ar greigiau draw – yn gwarchod
Wrth ei gorchwyl distaw;
Awen ei llwyth yn ei llaw,
Llwydwyll gwareiddiad Llydaw.
Gerallt Lloyd Owen
Gwenllian
(Sempringham 27-8-2020)
Wedi’n Llyw rhaid oedd dwyn y lleiaf,
Ein bwrw, a bwrw y buraf
Yn ei chrud, rhaid oedd dwyn y fwynaf,
Ein gwanu, a gwanu y gwanaf,
Dwyn ein hil, a dwyn ei haf – heb gysur
A dwyn natur y diniweitiaf.
Gorchuddia Fi!
Pan dwi’n sych dwi angen dy ddagrau
I’m dyfrio pan nad oes glaw,
Pan dwi’n oer dwi angen dy heulwen
A’i wenau i gydio’n fy llaw.
Gyda’r gwyll dwi angen dy lusern
I oleuo y llwybr llwm,
Yn y ddawns dwi angen dy rhythm
I’m cynnal a churiad dy ddrwm.
Cer allan a hel myrdd betalau
Yr ardd yn holl liwiau yr haf,
Cadw nhw’n grin tan yr hydref
I greu cwrlid o bersawr braf.
GORCHUDDIA FI!
Yn y gwanwyn dwi angen dy hydref
I liwio prydferthwch ar fyd.
Mae fy ngorffennol i angen d’yfory
A’th ledrith yn gweu swyn ar fy hyd.
Cer allan a hel myrdd betalau
Yr ardd yn holl liwiau yr haf,
Cadw nhw’n grin tan yr hydref
I greu cwrlid o bersawr braf.
GORCHUDDIA FI! COFLEIDIA FI! CARA FI! GORCHUDDIA FI!
Ymdaith Dolgellau
Alaw draddodiadol, gyfansoddwyd gan John Williams o’r Abermo, a ddysgais mewn sesiynau ac sydd i’w gael yng nghasgliad Mary Richards, Darowen, a olygwyd gan Robin Huw Bowen ac sydd ar werth YMA.
Nid oedd y tywydd yn ffafriol o gwbl eleni gyda’r gwynt a’r glaw’n hyrddio drwy’r coed ac yn ddychrynllyd ddrycinog.
Er hynny, daeth dros gant a hanner i Cilmeri i gofio ac i ystyried yr her i’r dyfodol eleni.
Yn y bore aeth criw o thua 45 i Eglwys Llanynis i wrando, canu, a myfyrio. Dyna i chi beth yw profiad ysbrydol a rhyfeddol. Mae’n wahanol bob blwyddyn, ond deil yr awyrgylch yn wastad. Yr unig drueni yw nad yw’r person plwy yn gallu siarad llawer o Gymraeg ac, felly, dim ond ambell i air o Gymraeg a geir ganddo cyn iddo fynd rhagddo i siarad mewn Lladin a Saesneg.
Bu cryn chwerthin ymysg rhai wrth i bregeth y bore ystyried bywyd “Llywelyn Fawr”! Ond eto, roedd yn brofiad gwerth chweil.
Ar ôl cinio yn y dafarn a sgwrs gyda’r hwn a’r llall arweiniwyd yr osgordd ar orymdaith gan Fand Cambria drwy’r gwlychwynt at y maen ym mhendraw’r pentref. Rhoddwyd areithiau penigamp gan yr aelod cynulliad lleol (Rhyddfrydwr!) – William Powell – ac araith ardderchog gan Jamie Bevan (Cymdeithas yr Iaith) lle bu’n tanio ac yn ymfalchio yng nghamp ei dad i ddysgu’r Gymraeg mor llwyddiannus. Gwych hefyd oedd pibau Jacob.
Er y tywydd erchyll a phawb yn wlyb at y croen roedd pob eiliad werth y drafferth.
Dychwelodd pawb at y dafarn a chynhesrwydd peint a sesiwn werin. Yno roedd Gareth Westacott ar y ffidil, Rhian Bebb ar yr acordion, Hefin Jones ar y bouzouki, Geraint Roberts ar y chwibanoglau a minau ar y banjo. Datblygodd yn sesiwn ganu gyda Calfin ac Iwan o Lanfihangel yr Arth a Thalgarreg yn arwain gyda Catrin Rowlands.
Unig drueni’r diwrnod oedd gorfod ei throi hi, drwy’r glaw, yn ol dros y mynyddoedd tua’r deheubarth.
Wythnos brysur o noson i noson o ddigwyddiad i ddigwyddiad oedd yr un ddiwethaf. Wythnos lawog dymhorol a drycin tywyll yn ein harwain yn agosach at natur. Bu tri uchafbwynt i’r wythnos:
1 – Bum yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd yn cystadlu mewn ymryson arbenig ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant ym Mhorthcawl. Dysgais nad yw Porthcawl yn le hyfryd mewn tymhestl gerwin ar nos Lun tywyll. Ond, yng nghwmni Mari Lisa, Karen Owen a Rhys Iorwerth mi lwyddom i golli yn erbyn tîm Rhys Dafis, Mair Tomos Ifans, Mari George ac Emyr Lewis. Rhaid cyfaddef i mi fwynhau a chael chwerthin cryn dipyn, yn ogystal a’r ochneidiau angenrheidiol ar yr adegau addas! Mae’r rhaglen i’w chlywed YMA.
2 – Dim ond tua pump ar ugain ddaeth i’r sesiwn werin y mis hwn (nos Wener) yn Nhŷ Tawe, ond roedd hynny’n ddigon i sicrhau ambell beint, canu mawr ac alawon dawns yn chwyrlio. Cwrw Llŷn oedd yn y gasgen (Brenin Enlli) a chafwyd cryn bleser gan bobl Abertawe wrth lymeitian chwerw’r Gogledd. Bu ambell i gân newydd hefyd a canwyd Tros Ryddid (Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovegreen) i nodi cyfnod y pabi coch yn ein blwyddyn.
3 – Ardderchog oedd cael mynd a’r merched draw i ganol Abertawe i wylio’r orymdaith/carnifal cynnau goleuadau’r Nadolig. Roedd hi’n anodd credu bod cymaint wedi dod allan i wylio a mwynhau. Rhyfeddol. Ac mae’r goleuadau ar y goeden Nadolig yn werth eu gweld – cymerwch olwg ar Heledd a Mirain o’i blaen wrth iddi gael ei goleuo.
Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd gweld fflôt Menter Iaith Abertawe yn pasio heibio yn llawn egni, bwrlwm a Chymreictod. Roedd yr holl beth yn wirioneddol wych ac yn ysbrydoli rhywun. Carolau cyfoes ifanc Cymraeg eu hiaith a rhywrai yn galw allan “Nadolig Llawen” tra’n dawnsio ar fflôt a wnaethpwyd i edrych fel Draig Goch. A hyn oll ar hyd Wind Street a’r Kingsway yn Abertawe. Dyna i chi beth yw llwyddiant a digwyddiad i ni, y Cymry yn yr ardal hon, gael ymfalchio ynddo. Roedd staff y Fenter yn glodwiw a’u brwdfrydedd yn codi calon. Diolch enfawr iddynt ac i John Davies am ei waith ar y fflôt. Heb os nac oni bai, fflôt y Fenter oedd y gorau o’r holl orymdaith. Gwn bod 5 wythnos a mwy i fynd, ond mi gefais flas ar awyrgylch Gymreig y Nadolig eisoes yma yn Abertawe!
A minnau yn digwydd bod yn y Gogledd ddoe, cyd-ddigwyddiad pleserus dros ben oedd bod Dick Gaughan yn canu yn Nhŷ Siamas neithiwr gyda chefnogaeth gan neb llai na Tecwyn Ifan.
Nawr te, dwi’n dipyn o ffan o Tecwyn Ifan a bu’r athrylith Dick Gaughan yn ddylanwad mawr arna i ambell ddegawd yn ôl, felly dyma fentro draw i’r hen Neuadd Idris, prynu peint o Gwrw Cader, ac eistedd yn ôl i ymlacio a mwynhau. Criw bychan oedd yno, pump ar ugain efallai, ond roedd yr awyrgylch a grewyd gan y ddau hyn yn llenwi’r lle.
Tecs yn gyntaf, felly. Mae caneuon, llais, barddoniaeth a sgwrs Tecwyn Ifan yn hudol. Eisteddais yno’n gwrando ac yn gwirioni. Fyddwn i ddim yn ei alw’n ŵr carismataidd ar lwyfan, ond eto, yn ei gân mae ganddo rhywbeth sy’n denu ac sydd yn gallu creu ias yn well na neb arall. Mae’n hawdd anghofio hefyd gystal gitarydd ydyw. Dwi’n amau y byddai ef ei hun yn gwawdio’r fath ddatganiad, ond eisteddais yno yn mwynhau ei gerddoriaeth.
Yng nghanol y set canodd Gwaed ar yr Eira Gwyn a cefais f’atgoffa pa mor wych ydyw. Aeth cryndod i lawr yr asgwrn cefn wrth glywed, unwaith eto, Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn…
Yna daeth tro Dick Gaughan ac roedd Dick hefyd yn wefreiddiol. Mae ganddo ddawn dweud (er mor anodd yw deall yr acen Albanaidd ar adegau) ac mi wnes i fwynhau ei rantio gwleidyddol/hanesyddol. Er enghraifft, dyfynodd yr undebwr llafur Gwyddelig, Jim Larkin, a ddywedodd “The great only look great because we are on our knees”. Mae gitâr Dick Gaughan hefyd yn ardderchog, ond efallai bod y sbarc wedi mynd gyda’r blynyddoedd a’r llais yn dechrau dirywio? Dwn im, ond er hynny roeddwn wrth fy mod ac wedi cael cryn fwynhad.
Ar ddiwedd y noson cefais gyfle i dynnu llun o ddau arwr – profiad!
Braf iawn oedd cael sgwrs gyda chyfeillion Dolgellau. Alun Owen (Bontddu) yn llawn hwyliau ac Ywain Myfyr arweiniodd fi at ‘Gwin Dylanwad‘ ac yna i’r Torrent.
Ni fum o’r blaen yn Gwin Dylanwad (ers iddynt symud o Dylanwad Da), ond roedd croeso Llinos a Dylan yn ardderchog a cefais fraint o gael gweld y selar hen a thô isel, y waliau pren ganrifoedd oed, a’r ystafelloedd hen a hyfryd ar y lloriau uwch. Lle rhyfeddol a phobl ryfeddol. Cafwyd cwrw da (Brenin Enlli – Cwrw Llŷn) yno ac mae’n siwr y caf gyfle i fwynhau yno eto yn fuan.
Heddiw ces orig ddiddan – o wenau
A gwinoedd, rhof fawlgan
Yn glod i hardd windy glân
A hwyl Llinos a Dylan.
Y Torrent oedd y dafarn nesaf. Hen dafarn hyfryd sydd wedi adfywio drwyddi yn ddiweddar. Yno roedd cwrw Bragdy Conwy, California, yn flasus a’r cwmni yn ddiddan. Hel atgofion gyda Myfyr am ddyddiau Gwerinos. Cytuno ar gynlluniau a phrosiectau newydd (!) a hynny mewn awyrgylch uniaith Gymraeg. Oedd, yn rhyfeddol o adnabod y Dolgellau cyfoes, roedd pob un wan jac yn y dafarn yn siarad Cymraeg a’r awyrgylch yn hynod hyfryd.
I gystudd fe ddaeth gosteg – rhoi heddwch
A rhyddid i geindeg;
I ni, er melltith annheg
Ei hud ddeil i ehedeg.
Wedi salwch hir bu ergyd drom o golli Telsa ddoe. Ni fu’n fwriad gen i erioed i sgwennu teyrngedau ar y blog hwn a gobeithio na fydd raid gwneud hynny eto am amser hir, ond weithiau does dim dewis.
Dywedodd cyfaill wrthyf am Gwglo ei henw bore yma i gael gweld yr holl deyrngedau Saesneg a gyfansoddwyd a gwneuthum hynny. Mae’r Trydarfyd, Gweplyfr a’r blogiau yn llawn negeseuon a chofiannau, i’r fath raddau fel ei fod yn syndod o’r mwyaf i mi. Achos, i mi gael esbonio, er fy mod yn ei hadnabod yn weddol dda, ni sylweddolais erioed ei bod mor adnabyddus ar draws sawl maes o amgylch y byd. Yn wir, o ddarllen y blogs:
Gwglais! Chwiliais! Darllenais dri,
Nid hon a ddisgrifir yw fy Nhelsa i.
Felly rheidrwydd yw colbio’r allweddell hwn i goffau a dathlu cyfraniad Telsa Gwynne i Gymru a’r Gymraeg.
Roedd Telsa yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau. Rhannwyd y gwreiddiau hynny yn ganghennau o’r Hen Ogledd ac o Gymru. Byddai’n ymweld â’i theulu yn ardal Newcastle ambell dro ac yn dychwelyd i Dŷ Tawe gyda photeli medd o Lindisfarne er mwyn i gerddorion y sesiwn werin gael blasu beth oedd yr hen Frythoniaid yn ei yfed! Ond o ddewis, daeth Telsa i fyw i Abertawe i hyfforddi a gweithio fel nyrs ac ymsefydlu yma yn ei Chymru hi. Dysgodd Alan (ei gŵr) a hithau Gymraeg ac aeth Telsa ymlaen i wneud gradd Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd hi newydd gychwyn ar ddoethuriaeth yn Academi Hywel Teifi pan gyrhaeddodd yr aflwydd a’i gorfodi i roi’r gorau iddi.
Gwirionodd Telsa ar y Gymraeg a’r pethau Cymreig. Telsa oedd un o brif weinyddion y bar yn sesiynau gwerin Tŷ Tawe am flynyddoedd maith, hi oedd un o brif wirfoddolwyr Caffi Clonc fore Sadwrn Tŷ Tawe, a bu’n aelod o bwyllgor rheoli Menter Iaith Abertawe am flynyddoedd. Bu ei chyfraniad yn enfawr ac mae’r golled yn enbyd. Wrth gyrraedd y caffi yn Nhŷ Tawe ar fore Sadwrn, neu wrth gyrraedd gig neu sesiwn werin roedd gwên, sgwrs rwydd a diwylliedig yn disgwyl unrhyw un. Cofiaf yn iawn am ei gofid wrth roi cymorth cyntaf i Mirain (4 oed) wedi iddi wasgu ei bys yng nghornel drws yn Nhŷ Tawe.
Awgrymais rhyw dro y dylai gael ei thalu am redeg y bar mor ddiffwdan o fis i fis, ond ei hymateb oedd ei bod wedi derbyn gymaint o fudd oddi wrth Tŷ Tawe wrth ddysgu’r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd ac o gael cyfeillion Cymraeg yno, ei bod yn teimlo mai ad-dalu yn unig a wnâi. Gwrthododd unrhyw daliad yn bendant.
Roedd ei chwmni yn ddifyr bob amser. Gwirionai ar farddoniaeth Gymraeg a Saesneg. Ymhyfrydai ei bod wedi canfod hen gywyddau maswedd nad oedd rhyw ddarlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe eisiau eu trafod a byddai yn ceisio eu trafod â hwy cyn amled a phosib! Mwynhâi wrando ar feirdd yn adrodd eu gwaith ac roedd yn hoff iawn o grwpiau gwerin-pync ymhob iaith. Byddai wedi bod wrth ei bodd gyda’r treigliad o’i henw a wneuthum uchod er efallai y byddai’n fy ngheryddu’n ysgafn am y peth.
Rhoddodd sawl un ohonom ar ben ffordd yn y byd cyfrifiadurol ac roedd ei blog Cymraeg gystal pob tamaid a’r memrwn Saesneg y bu’n ei gadw hefyd. Bu’n ein hannog i ystyried defnyddio systemau cyfrifiadurol tu hwnt i Microsoft ac Apple (rhywbeth nad yw’n anghyffredin erbyn hyn), ond mewn gwirionedd roedd ei chefndir yn y maes hwnnw yn guddiedig i’r rhan fwyaf ohonom. Gwyddom, wrth reswm, am ei gallu rhyfeddol gyda chyfrifiaduron a datblygu meddalwedd, ond nid oedd yn destun trafod rhyngom. Ac felly, rhyfeddach fyth im yw darllen negeseuon pobl ar y we heddiw yn talu teyrngedau o bob cornel o’r byd.
Bu’r cyfnod o waeledd yn hir, ond parhaodd ei gwenau. Bu’r profiad o ymweld â Telsa a hithau’n sâl yn un cymysg. Profiad o rwystredigaeth bod rhywun mor annwyl, egwyddorol a hwyliog yn gorfod dioddef, ond profiad hyfryd hefyd o gael trin a thrafod y byd a’i bethau. Celodd ei phoen rhagom gymaint ag oedd hynny’n bosibl. Dywedodd wrthyf bod y pethau dibwys wedi mynd yn angof iddi a’i bod am ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Y pethau hynny pan yn sgwrsio gyda mi oedd byd natur, adar, blodau, barddoniaeth, canu (gyda gitâr), y ‘pethau’ Cymraeg, ac hanes ei theulu. Ar un achlysur roedd cyfaill arall iddi wedi galw heibio ac wedi rhoi cregyn o lan y môr Abertawe iddi’n anrheg gan nad oedd Telsa erbyn hynny’n gallu mynd at y traeth. Yno y buom am orig yn gwrando ar seiniau rhyfeddol llanw a thrai mewn cragen.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Alan a’r teulu agos i gyd.
Ymweld
Clyw’n llef yr hydref oer hyn – er yr haul
Teimlwn rew diderfyn
A gwae o golli Telsa Gwynne.
 gwendid fe es yn gyndyn – i’w gweld
Es ag ofn meidrolyn,
Gwiw awr fu â Telsa Gwynne.
Hoff orig i ganu offeryn – fu
Yn fwyn ar ddydd gwrthun,
Hael ei sgwrs oedd Telsa Gwynne.
Drwy awr dreng adroddodd englyn – a’i hwyl
Yn parhau i’m dilyn.
Loes gudd oedd loes Telsa Gwynne.
Er yn dawel yn ei gwely’n dioddef,
Hud ei hedd drwy ddeigryn
A gwefr ddaeth gan Telsa Gwynne.
Yn dirion gwelsom aderyn yr haf
A holl rin blodeuyn.
Ni welais gur Telsa Gwynne.
Gwylio heb weled gelyn – yn hwyliog
Heb wylo na dychryn,
Mwynhau gwenau Telsa Gwynne.
Yr eigion glywsom mewn cregyn – tonnau
Fel tannau hen delyn
Yn gain, alaw Telsa Gwynne.
Ond yn dyner dychwel deryn – a daw
I dir wefr blaguryn
Llon o gofio’n Telsa Gwynne.
Nid pawb sydd a’r amynedd, na’r arddeliad, i drefnu noson Calan Gaeaf oddi wrth yr heip Seisnig-Americanaidd, ac felly mae’n diolch yn fawr i Tracey a Geraint am drefnu noson o hwyl yn y ganolfan sgowtiaid uwchben Ystalyfera.
Mewn lleoliad hyfryd bu coelcerth fawr, canu, tysen bôb a chaws a ffa, danteithion melys, casgen o gwrw (cyfraniad gan Gareth Rees) a sesiwn werin gyda thwmpath anffurfiol yn ychwanegu at yr achlysur.
Noson braf iawn. Do, mi wisgais fwgwd a bu cryn ganu a llymeitian rhwng y pymtheg ar ugain a ddaeth.
Byddai’n braf gweld yr un peth yn digwydd yn flynyddol.
Mae’r Saeson yn sôn am ‘guilty pleasures’ ac mae Martyn Joseph yn un o’r rheiny i mi!
Nid yw’n ffitio i mewn i’r ddelwedd o gerddor dwi’n ei hoffi fel rheol, mae’n llawer rhy lân a chywir. Ond wir i chi, mae Martyn Joseph yn rhoi ias i lawr meingefn ac yn haeddu pob broliant posibl.
Heno, ym Mhontardawe, clywsom y caneuon Swansea, Cardiff Bay, Dic Penderyn, a Proud Valley Boy, ymysg eraill. Noson arall i’w thrysori yng nghwmni canwr gwerin Cymreig.
Bu cyd-ganu ar adegau ac ambell i chwerthiniad iach. Diolch Martyn.
Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015? Sut aeth hi? Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?
Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:
Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr. Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu. Joio! 🙂
Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf. Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw. Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.
Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!
Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi. Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.
Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle. Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd? Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.