Mae sesiynau gwerin y dafarn newydd yn Nhŷ Tawe yn ddifyr. Mae nhw’n wahanol. Pam? Dwn im, ond mae nhw. Mae’r awyrgylch yn wahanol a’r hwyliau’n anoddach i’w codi. Ond pan mae nhw’n codi…
Telyn deires, cantorion, ffidil, gitar, banjo, mandolin, iwcalili, chwibanoglau a chanu mawr! Do, mi fu’n noson fach dda – digon o ganu carolau hefyd a sawl jig a rîl wyllt.
Bu cyri yn y Vojon yn gyntaf yn hwb i’r enaid, deffro’r gweflau a chynhyrfu’r corff. Bu’n rhaid wedyn wrth ambell beint o ‘deep slade dark’ o fragdy Abertawe i gadw’r sychdwr draw.
Ni fu’n noson hwyr, digon o ddim nid yw dda.