Sesiwn y Sheps

Dyma un o’r sesiynau gorau yng Nghymru erbyn hyn yn fy marn i.  Nid yw’n sesiwn reolaidd ac nid oes dyddiadau cadarn, ond mae’nt yn digwydd yn achlysurol ac mae’n werth ceisio’r dyddiadau os oes diddordeb mewn diwylliant gwerin gennych.

Mae Felindre ei hun yn le rhyfeddol, hardd a hyfryd hefyd.  Yno, nid nepell o Abertawe, yn wir nemawr 7 milltir o ganol Abertawe, mae rhywun yn sefyll mewn pentref Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru.  Mae gwŷr a gwragedd lleol y dafarn yn sgwrsio’n Gymraeg a’r hwyliau yn hollol Gymreig.

Cyrhaeddodd pawb yn ling-di-long braidd.  Daeth Aneirin a’i ffidil i’n llonni a bu cryn hwyl ar ei anniddigrwydd dechreuol, ond cododd yr hwyliau, llowciwyd cwrw ac ymunodd Aled bach â ni.  Roedd Aled, yn tua tair oed wedi cael gafael ar ukelele ac yn sefyll o’n blaenau tra roedden ni’n chwarae ac yn gwneud sioe fawr o sefyll fel Elvis a gwneud melinau gwynt gyda’i fraich tra’n strymian i gydfynd â’r gerddoriaeth.

London Pride a chwrw Aur o gyffiniau Abertawe oedd i’w fwynhau yn y Sheps y noson honno ac yno y datblygodd teimlad meddw braf hwyliog o ganol prynhawn tan tua 7 o’r gloch.  Mae’r sheps yn le perffaith am sesiwn o dan reolaeth gan bod yn rhaid ymadael am 6.30pm a rhaid i’r gerddoriaeth ddod i ben hefyd gan bod cwsmeriaid am gael eu lle yno i fwyta wedi hynny.  Rhaid yw teithio yn ôl wedyn i Dreforys neu Abertawe i gael mwy o hwyl!

Yn y Sheps roedd llond trol o gerddwyr Clwb Cerdded Pontarddulais oedd wedi bod am dro o amgylch yr argaeau yn Felindre cyn dychwelyd lawr i’r Sheps am damaid i’w fwyta a cherddoriaeth werin.

Mae tafarnwr y Sheps yn rhoi bwyd a chwrw i’r cerddorion, a’r tro hwn, yn dilyn y cwrw a’r canu, daeth y cynig o gawl i hoeni’r galon.  Aeth rhai ati i’w fwyta tra roedd eraill am ddal ati i yfed a chanu am ychydig.  Erbyn i’r rheiny fynd ati i fwyta eu cawl daeth yn amlwg bod un o’r bechgyn, yn ei gwrw, wedi bwyta cawl y cerddorion eraill i gyd.  Roedd wedi llowcio 5 powleniaid o gawl!  Nid oedd yn ŵr poblogaidd y noson honno.

Efallai na wnaeth y gerddoriaeth hedfan go iawn y diwrnod hwn, mae angen bod yn onest a chydnabod nad yw hynny’n digwydd bob tro.  Ond bu hwyl, llawer iawn ohono, ac mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at brynhawn arall yn y Sheps.