Oes yna fyd gwerin i gael i rhywun sy’n ymddiddori yn ardal Abertawe? Wel, a derbyn fy mod wedi teithio unwaith tu hwnt i ffiniau 5 milltir o’r tŷ (i Ddolgellau) bu’r bythefnos ddiwethaf yn bleser o fwynhau Martyn Joseph, Cylch Canu 2, Dick Gaughan, Tecwyn Ifan, sesiwn werin Calan Gaeaf a’r twmpath anffurfiol, sesiwn werin nos Wener sydd i ddod, a heno mae Ghazalaw a Kizzy Crawford yn y Taliesin! Owfyrcil efallai!
Daeth ymhell dros gant a hanner i wrando ar Kizzy Crawford
yn y Taliesin. Mae ganddi steil gwylaidd, addfwyn hyfryd tra’n swyno gyda’i cherddoriaeth unigryw. Set dwyieithog oedd hon gydag ychydig yn ormod o Saesneg yn fy marn i. Ond set hyfryd a dwi’n falch iawn o fod wedi cael ei mwynhau heno.
Adolygiad onest nawr felly o Ghazalaw. Doeddwn i ddim eisiau hoffi Ghazalaw. Mae’r syniad o blethu cerddoriaeth Gymraeg ac Wrdaidd yn un ymhonus braidd yn fy nhyb i ac roeddwn i’n wir ddisgwyl cael fy siomi. Ond…
Gwrandewais ar wefan Ghazalaw cyn mynd i’r cyngerdd (gan taw dyna ydoedd) a sylweddoli bod y cyfan yn gweithio yn asiad perffaith ryfeddol. Sut allai hynny fod?
Roedd seiniau’r cyfan yn fyw yn aeddfed fwyn. Ni sylwais erioed o’r blaen ar dynerwch hyfryd lleisiau cantorion India. Bu’r cyfan yn isalaw i fwytai i mi cyn hyn. Bydd angen rhoi mwy o wrandawiad o hyn ymlaen.
Gydag harmoniwm, tabla, telyn (Georgia Ruth), ffidil (a seiniau’r dwyrain yn diferu ohoni), dwy gitâr a lleisiau cynganeddol cyfareddol gwych roedd y cyfanwaith yn trawsnewid y felan nos Sul i fod yn orig ddiddan i godi calon. Nid canu caneuon o’r naill ddiwylliant a’r llall yn eu tro wnaethpwyd, ond cymysgu caneuon o’r ddau diwylliannol i greu caneuon newydd. Os na chawsoch y cyfle i wrando a gwylio yn fyw fe golloch gyfle. Os y daw’r cyfle i’ch rhan rhyw dro, ewch.
Un awgrym – gan fod Georgia Ruth yn bresennol, trueni na chafwyd cyfle i gael un gân unigol ganddi hi, i ychwanegu at y noson.
Bu’n rhaid prynu twtddisg wrth gwrs ac edrychaf ymlaen i fwynhau y cwlwm tyn hwn ymhellach dros y misoedd ddaw. Pwy feddyliai y byddwn wedi mwynhau set ddwyieithog cymaint! Melys moes mwy…