Cilmeri 2015

Poni welwch chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch chwi’r deri’n ymdaraw?

Nid oedd y tywydd yn ffafriol o gwbl eleni gyda’r gwynt a’r glaw’n hyrddio drwy’r coed ac yn ddychrynllyd ddrycinog.

Er hynny, daeth dros gant a hanner i Cilmeri i gofio ac i ystyried yr her i’r dyfodol eleni.

Yn y bore aeth criw o thua 45 i Eglwys Llanynis i wrando, canu, a myfyrio.  Dyna i chi beth yw profiad ysbrydol a rhyfeddol.  Mae’n wahanol bob blwyddyn, ond deil yr awyrgylch yn wastad.  Yr unig drueni yw nad yw’r person plwy yn gallu siarad llawer o Gymraeg ac, felly, dim ond ambell i air o Gymraeg a geir ganddo cyn iddo fynd rhagddo i siarad mewn Lladin a Saesneg.

Bu cryn chwerthin ymysg rhai wrth i bregeth y bore ystyried bywyd “Llywelyn Fawr”!  Ond eto, roedd yn brofiad gwerth chweil.

Ar ôl cinio yn y dafarn a sgwrs gyda’r hwn a’r llall arweiniwyd yr osgordd ar orymdaith gan Fand Cambria drwy’r gwlychwynt at y maen ym mhendraw’r pentref.  Rhoddwyd areithiau penigamp gan yr aelod cynulliad lleol (Rhyddfrydwr!) – William Powell – ac araith ardderchog gan Jamie Bevan (Cymdeithas yr Iaith) lle bu’n tanio ac yn ymfalchio yng nghamp ei dad i ddysgu’r Gymraeg mor llwyddiannus.  Gwych hefyd oedd pibau Jacob.

Er y tywydd erchyll a phawb yn wlyb at y croen roedd pob eiliad werth y drafferth.

Dychwelodd pawb at y dafarn a chynhesrwydd peint a sesiwn werin.  Yno roedd Gareth Westacott ar y ffidil, Rhian Bebb ar yr acordion, Hefin Jones ar y bouzouki, Geraint Roberts ar y chwibanoglau a minau ar y banjo.  Datblygodd yn sesiwn ganu gyda Calfin ac Iwan o Lanfihangel yr Arth a Thalgarreg yn arwain gyda Catrin Rowlands.

Unig drueni’r diwrnod oedd gorfod ei throi hi, drwy’r glaw, yn ol dros y mynyddoedd tua’r deheubarth.

Sesiwn Werin Tŷ Tawe Rhagfyr 2015

Mae sesiynau gwerin y dafarn newydd yn Nhŷ Tawe yn ddifyr.  Mae nhw’n wahanol.  Pam?  Dwn im, ond mae nhw.  Mae’r awyrgylch yn wahanol a’r hwyliau’n anoddach i’w codi.  Ond pan mae nhw’n codi…

Telyn deires, cantorion, ffidil, gitar, banjo, mandolin, iwcalili, chwibanoglau a chanu mawr!  Do, mi fu’n noson fach dda – digon o ganu carolau hefyd a sawl jig a rîl wyllt.

Bu cyri yn y Vojon yn gyntaf yn hwb i’r enaid, deffro’r gweflau a chynhyrfu’r corff.  Bu’n rhaid wedyn wrth ambell beint o ‘deep slade dark’ o fragdy Abertawe i gadw’r sychdwr draw.

Ni fu’n noson hwyr, digon o ddim nid yw dda.

Awyrennau Glas

Unwaith bob blwyddyn daw’r cyfle i hedfan ym Mryste.  Nos Wener cyntaf bob Rhagfyr mae Gerard Langley, Wotjek a’r criw yn ein hatgoffa pa mor ddawnus a hwyliog y gallant fod.

Daeth The Blue Aeroplanes ynghŷd am y tro cyntaf yng nghanol wythdegau’r ugeinfed ganrif ac wedi ambell i record gelfyddydol ‘wahanol’ daeth y goreuon i darannu drwy recordiau Swagger, Beatsongs, Life Model a Rough Music (yn ogystal â Friendloverplane 2).  I mi rhain oedd grŵp y 90au a pery eu gwychder hyd heddiw.  ‘The thinking man’s REM’ meddai’r NME amdanynt.

Felly, i ffwrdd a ni, tri ohonom, ar wibdaith i Fryste.  Gloddeta fel brenhinoedd, yfed fel na bai yfory, a cherddoriaeth, dawns, celf a barddoniaeth i gadw’r ymennydd yn ddiwylliedig am wythnos ddwy!

Mi gredaf mai fy hoff gân gan y Blue Aeroplanes yw Your Ages – gwrandewch arni tra fy mod i’n gwamalu am y band yn fan hyn.

Drymiwr, 6 gitarydd, dawnsiwr (‘gwahanol’), arlunydd, a Gerard yn adrodd barddoniaeth i gyfeiliant cerddoriaeth wefreiddiol a gwreiddiol.  Mae’r cyfan yn llawn egni, swnllyd, hyfryd a cherddorol.  Yn y Fleece ym Mryste oedd y cyfan, a’r cyfanwaith yn fwy na hyn oll.

Bu sawl awr wedi’r gig hefyd o deithio o dafarn i dafarn a chael mwynhau ambell ddawns ac ambell beint bach.  Hyfryd!

Os y byddaf yma flwyddyn nesaf mi fyddaf, eto, yn teithio tua Bryste i fwynhau The Blue Aeroplanes.