Maesyfed

Bu hon yn nosod dda a chriw da ym mar Tŷ Tawe – y bar newydd di-enw hyd yma.  Dwi’n mynnu ei alw’n Maesyfed, ond nid yw hynny’n plesio pawb!

Wna i ddim rhoi gormod o fanylion, ar wahan i ychwanegu’r fideo hwn o ddiwedd y nos pan fo’r rhan fwyaf wedi gadael a rhyw 4-5 o bobl ar ôl.  Persain ynde?

Martyn Joseph

Mae’r Saeson yn sôn am ‘guilty pleasures’ ac mae Martyn Joseph yn un o’r rheiny i mi!

Nid yw’n ffitio i mewn i’r ddelwedd o gerddor dwi’n ei hoffi fel rheol, mae’n llawer rhy lân a chywir.  Ond wir i chi, mae Martyn Joseph yn rhoi ias i lawr meingefn ac yn haeddu pob broliant posibl.

Heno, ym Mhontardawe, clywsom y caneuon Swansea, Cardiff Bay, Dic Penderyn, a Proud Valley Boy, ymysg eraill.  Noson arall i’w thrysori yng nghwmni canwr gwerin Cymreig.

Bu cyd-ganu ar adegau ac ambell i chwerthiniad iach.  Diolch Martyn.

Tacl Hwyr yn Dacl Fudr

Noson arall yn nhafarn Tŷ Tawe, ond y tro hwn, noson go dawel.  Criw bychan iawn ddaeth draw i fwynhau Tudur Owen, Caryl Parry Jones ac eraill yn gwamalu am rygbi, cwpan rygbi y deunaw gwlad, a rhagor o rygbi.

Roedd hi’n hwyl cael clywed ffraethni naturiol Caryl a Tudur ac roedd hi’n grêt bod radio Cymru wedi dewis Tŷ Tawe ar gyfer nos Lun a chomedi, ond rhywsut rhywfodd doedd y rhaglen ddim yn gweithio i ni fel cynulleidfa fyw.

Mae ateb posibl i’r peth – cynnig cyfle i’r gynulleidfa roi ambell i sylw.  Byddai hynny’n gwneud yr holl raglen yn fwy ‘byw’ ac yn ei wneud yn fwy o hwyl i bawb.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015?  Sut aeth hi?  Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?

Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:

Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr.  Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu.  Joio!  🙂

Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf.  Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw.  Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.

Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!

Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi.  Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.

Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle.  Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd?  Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015 – yr uchafbwyntiau.