A minnau yn digwydd bod yn y Gogledd ddoe, cyd-ddigwyddiad pleserus dros ben oedd bod Dick Gaughan yn canu yn Nhŷ Siamas neithiwr gyda chefnogaeth gan neb llai na Tecwyn Ifan.
Nawr te, dwi’n dipyn o ffan o Tecwyn Ifan a bu’r athrylith Dick Gaughan yn ddylanwad mawr arna i ambell ddegawd yn ôl, felly dyma fentro draw i’r hen Neuadd Idris, prynu peint o Gwrw Cader, ac eistedd yn ôl i ymlacio a mwynhau. Criw bychan oedd yno, pump ar ugain efallai, ond roedd yr awyrgylch a grewyd gan y ddau hyn yn llenwi’r lle.
Tecs yn gyntaf, felly. Mae caneuon, llais, barddoniaeth a sgwrs Tecwyn Ifan yn hudol. Eisteddais yno’n gwrando ac yn gwirioni. Fyddwn i ddim yn ei alw’n ŵr carismataidd ar lwyfan, ond eto, yn ei gân mae ganddo rhywbeth sy’n denu ac sydd yn gallu creu ias yn well na neb arall. Mae’n hawdd anghofio hefyd gystal gitarydd ydyw. Dwi’n amau y byddai ef ei hun yn gwawdio’r fath ddatganiad, ond eisteddais yno yn mwynhau ei gerddoriaeth.
Yng nghanol y set canodd Gwaed ar yr Eira Gwyn a cefais f’atgoffa pa mor wych ydyw. Aeth cryndod i lawr yr asgwrn cefn wrth glywed, unwaith eto, Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn…
Yna daeth tro Dick Gaughan ac roedd Dick hefyd yn wefreiddiol. Mae ganddo ddawn dweud (er mor anodd yw deall yr acen Albanaidd ar adegau) ac mi wnes i fwynhau ei rantio gwleidyddol/hanesyddol. Er enghraifft, dyfynodd yr undebwr llafur Gwyddelig, Jim Larkin, a ddywedodd “The great only look great because we are on our knees”. Mae gitâr Dick Gaughan hefyd yn ardderchog, ond efallai bod y sbarc wedi mynd gyda’r blynyddoedd a’r llais yn dechrau dirywio? Dwn im, ond er hynny roeddwn wrth fy mod ac wedi cael cryn fwynhad.
Ar ddiwedd y noson cefais gyfle i dynnu llun o ddau arwr – profiad!
Braf iawn oedd cael sgwrs gyda chyfeillion Dolgellau. Alun Owen (Bontddu) yn llawn hwyliau ac Ywain Myfyr arweiniodd fi at ‘Gwin Dylanwad‘ ac yna i’r Torrent.
Ni fum o’r blaen yn Gwin Dylanwad (ers iddynt symud o Dylanwad Da), ond roedd croeso Llinos a Dylan yn ardderchog a cefais fraint o gael gweld y selar hen a thô isel, y waliau pren ganrifoedd oed, a’r ystafelloedd hen a hyfryd ar y lloriau uwch. Lle rhyfeddol a phobl ryfeddol. Cafwyd cwrw da (Brenin Enlli – Cwrw Llŷn) yno ac mae’n siwr y caf gyfle i fwynhau yno eto yn fuan.
Heddiw ces orig ddiddan – o wenau
A gwinoedd, rhof fawlgan
Yn glod i hardd windy glân
A hwyl Llinos a Dylan.
Y Torrent oedd y dafarn nesaf. Hen dafarn hyfryd sydd wedi adfywio drwyddi yn ddiweddar. Yno roedd cwrw Bragdy Conwy, California, yn flasus a’r cwmni yn ddiddan. Hel atgofion gyda Myfyr am ddyddiau Gwerinos. Cytuno ar gynlluniau a phrosiectau newydd (!) a hynny mewn awyrgylch uniaith Gymraeg. Oedd, yn rhyfeddol o adnabod y Dolgellau cyfoes, roedd pob un wan jac yn y dafarn yn siarad Cymraeg a’r awyrgylch yn hynod hyfryd.
Dolgellau ar nos Iau ym mis Tachwedd.