Poni welwch chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch chwi’r deri’n ymdaraw?
Nid oedd y tywydd yn ffafriol o gwbl eleni gyda’r gwynt a’r glaw’n hyrddio drwy’r coed ac yn ddychrynllyd ddrycinog.
Er hynny, daeth dros gant a hanner i Cilmeri i gofio ac i ystyried yr her i’r dyfodol eleni.
Yn y bore aeth criw o thua 45 i Eglwys Llanynis i wrando, canu, a myfyrio. Dyna i chi beth yw profiad ysbrydol a rhyfeddol. Mae’n wahanol bob blwyddyn, ond deil yr awyrgylch yn wastad. Yr unig drueni yw nad yw’r person plwy yn gallu siarad llawer o Gymraeg ac, felly, dim ond ambell i air o Gymraeg a geir ganddo cyn iddo fynd rhagddo i siarad mewn Lladin a Saesneg.
Bu cryn chwerthin ymysg rhai wrth i bregeth y bore ystyried bywyd “Llywelyn Fawr”! Ond eto, roedd yn brofiad gwerth chweil.
Ar ôl cinio yn y dafarn a sgwrs gyda’r hwn a’r llall arweiniwyd yr osgordd ar orymdaith gan Fand Cambria drwy’r gwlychwynt at y maen ym mhendraw’r pentref. Rhoddwyd areithiau penigamp gan yr aelod cynulliad lleol (Rhyddfrydwr!) – William Powell – ac araith ardderchog gan Jamie Bevan (Cymdeithas yr Iaith) lle bu’n tanio ac yn ymfalchio yng nghamp ei dad i ddysgu’r Gymraeg mor llwyddiannus. Gwych hefyd oedd pibau Jacob.
Er y tywydd erchyll a phawb yn wlyb at y croen roedd pob eiliad werth y drafferth.
Dychwelodd pawb at y dafarn a chynhesrwydd peint a sesiwn werin. Yno roedd Gareth Westacott ar y ffidil, Rhian Bebb ar yr acordion, Hefin Jones ar y bouzouki, Geraint Roberts ar y chwibanoglau a minau ar y banjo. Datblygodd yn sesiwn ganu gyda Calfin ac Iwan o Lanfihangel yr Arth a Thalgarreg yn arwain gyda Catrin Rowlands.
Unig drueni’r diwrnod oedd gorfod ei throi hi, drwy’r glaw, yn ol dros y mynyddoedd tua’r deheubarth.