Sesiwn Tŷ Tawe Medi 2015

Roedd hon yn un o’r nosweithiau mawr hynny na all aros yn y cof yn hwy nag ychydig ddyddiau!  Yno roedd cerddorion lu yn canu’r delyn deires, pibau, chwibanoglau, acordionau, mandolinau, gitarau, iwcaliliau, a ffidlau a do, bu’r alawon yn hedfan am sbelan go lew.  Yn ychwanegol i hyn oll roedd tair casgen o gwrw ac erbyn diwedd y noson roedd y dair yn sych!  Cwrw 3 Cliffs Gold (Cwmni Bragu Abertawe), Gower Power (Bragwyr Y Gŵyr), a Digger’s Gold (Bragdy Grey Trees, Aberdâr).  Roedd y tri yn flasus tu hwnt!  Ac i’w hyfed cafwyd gwydrau newydd Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe!  Hyfryd!

gwydrauRoedd cerddorion ardderchog ymysg y cwmni arferol.  Dan Morris yn gwefreiddio fel ag y mae bob amser:

Erbyn diwedd y noson roedd yr awyrgylch, y cwrw, a’r gerddoriaeth wedi datblygu’n ddigon i ambell un i roi unawd:

geraintAc yna, i ganol y noson urddasol hon daeth y pibau i bibo fel côr o’r ochr draw:

PibauFe welir yn y llun uchod bod 4 pibydd yn ormod!  Brith iawn yn wir!

Roedd dechrau’r noson yn gyfle i gyflwyno’r llyfr, Sesiwn yng Nghymru i Abertawe a gobeithio yn wir y gwnaeth y nifer dda o bobl ddaeth draw fwynau’r noson a’r hwyl.  Diolch i bawb am ei gwneud yn sesiwn i’w chofio, gan gynnwys Heledd a Llinos a roddodd i ni eu fersiwn hwythau o gân hyfryd Huw M – Seddi Gwag.

Noson fendigedig.  Mae’n bosib y daw sawl fideo arall i’r fei cyn bo hir…

Advertisements

Ellis James yn Nhŷ Tawe

Hyfrydwch pur oedd cael mwynhau ym mar newydd Tŷ Tawe neithiwr a hwnnw’n orlawn ar gyfer Steffan Alun ac Ellis James a’u comedi gwefreiddiol.

Tra fod y ddau gomediwr yn dod o’r de orllewin, mae Steffan Alun yn ŵr o Abertawe a’i hiwmor yn lleol, ffraeth, digri a doniol.  Mae’n anodd, mae’n siŵr, i gynhesu cynulleidfa ar gyfer comediwr arall, ond llwyddo wna Steffan Alun yn rhwydd gan lithro’n rhugl o dynnu coes coeglyd ar ryfeddu at Gymreictod S4C.

Yna daeth Ellis James.  Mae’n gomediwr naturiol, profiadol ac aeddfed a’i ddigrifwch yn boenus ar adegau.  Pwy wnaiff fyth anghofio’r ddelwedd ohono’n dawsnio yng Nghaerdydd mewn gig llawer rhy cŵl i fachgen o’r gorllewin, neu wedyn yn ddiamddiffyn mewn gig yng nghefn gwlad Ceredigion.  A dychmygwch y partion a fu pan ymwelodd Ffrancwyr â phobl ifanc Caerfyrddin rhai blynyddoedd yn ôl.  Does dim angen dweud mwy mae’n siwr.  Chwerthin, hwyl, Cymreictod naturiol, a chwmni da.

Dyma awgrym o’r hyn sydd i ddod a dwi’n amau bod rhagor i ddod yng Nghlwb Comedi Tŷ Tawe.

Tafwyl

Aeth yr haf heibio a daeth mis Medi i’n paratoi ar gyfer yr hydref a’r marwolaeth amryliw.  Sdim byd gwell na noson aeafol i fwynhau pleserau cynnes dynolryw!

Ond cyn iddo ddiflanu o’n cof rhaid sôn rhyw ychydig am brofiad arall ges i eleni.  Euthum i Tafwyl am y tro cyntaf, a dyna beth oedd profiad.  Roedd dros 34,000 o bobl yn yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd dros ddeuddydd ac roedd hon yn teimlo fel gŵyl go iawn, yn rhyw Reading Festival mini neu gyffelyb a’r cyfan yn Gymraeg.  Oedd, roedd tua 90% o’r bobl glywais i’n siarad ar y maes yn siarad Cymraeg hefyd!  Hyfryd.  Roedd y pnawn/nos Sadwrn yn fendigedig.  Cyfle i gael ymlacio gyda pheint yn yr haul tra’n gwylio/gwrando ar Yws Gwynedd, Swnami, Huw M, Gareth Bonello ac ati.  Siwrne fer at y stondinau lu a gwario amser ag arian wrth fwynhau.  Da iawn Menter Caerdydd – gwych!

Wrth gyrraedd, ac o ddiddordeb i gerddor gwerin, roedd hyn yn eich disgwyl:

Bendigedig!  Criw ifanc yn dangos y ffordd yn wych.  Roeddwn MOR falch i mi fynd, os taw dim ond i weld a mwynhau y rhain yn unig!  Ardderchog!

Diolch am drefnu griw Caerdydd.  Byddaf yno eto’r flwyddyn nesaf.