O’r Talwrn i Dŷ Tawe

Wythnos brysur o noson i noson o ddigwyddiad i ddigwyddiad oedd yr un ddiwethaf.  Wythnos lawog dymhorol a drycin tywyll yn ein harwain yn agosach at natur.  Bu tri uchafbwynt i’r wythnos:

1 – Bum yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd yn cystadlu mewn ymryson arbenig ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant ym Mhorthcawl.  Dysgais nad yw Porthcawl yn le hyfryd mewn tymhestl gerwin ar nos Lun tywyll.  Ond, yng nghwmni Mari Lisa, Karen Owen a Rhys Iorwerth mi lwyddom Heledd a Miraini golli yn erbyn tîm Rhys Dafis, Mair Tomos Ifans, Mari George ac Emyr Lewis.  Rhaid cyfaddef i mi fwynhau a chael chwerthin cryn dipyn, yn ogystal a’r ochneidiau angenrheidiol ar yr adegau addas!  Mae’r rhaglen i’w chlywed YMA.

2 – Dim ond tua pump ar ugain ddaeth i’r sesiwn werin y mis hwn (nos Wener) yn Nhŷ Tawe, ond roedd hynny’n ddigon i sicrhau ambell beint, canu mawr ac alawon dawns yn chwyrlio.  Cwrw Llŷn oedd yn y gasgen (Brenin Enlli) a chafwyd cryn bleser gan bobl Abertawe wrth lymeitian chwerw’r Gogledd.  Bu ambell i gân newydd hefyd a canwyd Tros Ryddid (Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovegreen) i nodi cyfnod y pabi coch yn ein blwyddyn.

3 – Ardderchog oedd cael mynd a’r merched draw i ganol Abertawe i wylio’r orymdaith/carnifal cynnau goleuadau’r Nadolig.  Roedd hi’n anodd credu bod cymaint wedi dod allan i wylio a mwynhau.  Rhyfeddol.  Ac mae’r goleuadau ar y goeden Nadolig yn werth eu gweld – cymerwch olwg ar Heledd a Mirain o’i blaen wrth iddi gael ei goleuo.

Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd gweld fflôt Menter Iaith Abertawe yn pasio heibio yn llawn egni, bwrlwm a Chymreictod.  Roedd yr holl beth yn wirioneddol wych ac yn ysbrydoli rhywun.  Carolau cyfoes ifanc Cymraeg eu hiaith a rhywrai yn galw allan “Nadolig Llawen” tra’n dawnsio ar fflôt a wnaethpwyd i edrych fel Draig Goch.  A hyn oll ar hyd Wind Street a’r Kingsway yn Abertawe.  Dyna i chi beth yw llwyddiant a digwyddiad i ni, y Cymry yn yr ardal hon, gael ymfalchio ynddo.  Roedd staff y Fenter yn glodwiw a’u brwdfrydedd yn codi calon.  Diolch enfawr iddynt ac i John Davies am ei waith ar y fflôt.  Heb os nac oni bai, fflôt y Fenter oedd y gorau o’r holl orymdaith.  Gwn bod 5 wythnos a mwy i fynd, ond mi gefais flas ar awyrgylch Gymreig y Nadolig eisoes yma yn Abertawe!

Telsa Gwynne (1969 – 2015)

Telsa Gwynne (1969 – 2015)

I gystudd fe ddaeth gosteg – rhoi heddwch
A rhyddid i geindeg;
I ni, er melltith annheg
Ei hud ddeil i ehedeg.

Wedi salwch hir bu ergyd drom o golli Telsa ddoe. Ni fu’n fwriad gen i erioed i sgwennu teyrngedau ar y blog hwn a gobeithio na fydd raid gwneud hynny eto am amser hir, ond weithiau does dim dewis.

Dywedodd cyfaill wrthyf am Gwglo ei henw bore yma i gael gweld yr holl deyrngedau Saesneg a gyfansoddwyd a gwneuthum hynny. Mae’r Trydarfyd, Gweplyfr a’r blogiau yn llawn negeseuon a chofiannau, i’r fath raddau fel ei fod yn syndod o’r mwyaf i mi. Achos, i mi gael esbonio, er fy mod yn ei hadnabod yn weddol dda, ni sylweddolais erioed ei bod mor adnabyddus ar draws sawl maes o amgylch y byd. Yn wir, o ddarllen y blogs:

Gwglais! Chwiliais! Darllenais dri,
Nid hon a ddisgrifir yw fy Nhelsa i.

Felly rheidrwydd yw colbio’r allweddell hwn i goffau a dathlu cyfraniad Telsa Gwynne i Gymru a’r Gymraeg.

Roedd Telsa yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau. Rhannwyd y gwreiddiau hynny yn ganghennau o’r Hen Ogledd ac o Gymru. Byddai’n ymweld â’i theulu yn ardal Newcastle ambell dro ac yn dychwelyd i Dŷ Tawe gyda photeli medd o Lindisfarne er mwyn i gerddorion y sesiwn werin gael blasu beth oedd yr hen Frythoniaid yn ei yfed! Ond o ddewis, daeth Telsa i fyw i Abertawe i hyfforddi a gweithio fel nyrs ac ymsefydlu yma yn ei Chymru hi. Dysgodd Alan (ei gŵr) a hithau Gymraeg ac aeth Telsa ymlaen i wneud gradd Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd hi newydd gychwyn ar ddoethuriaeth yn Academi Hywel Teifi pan gyrhaeddodd yr aflwydd a’i gorfodi i roi’r gorau iddi.

Gwirionodd Telsa ar y Gymraeg a’r pethau Cymreig. Telsa oedd un o brif weinyddion y bar yn sesiynau gwerin Tŷ Tawe am flynyddoedd maith, hi oedd un o brif wirfoddolwyr Caffi Clonc fore Sadwrn Tŷ Tawe, a bu’n aelod o bwyllgor rheoli Menter Iaith Abertawe am flynyddoedd. Bu ei chyfraniad yn enfawr ac mae’r golled yn enbyd. Wrth gyrraedd y caffi yn Nhŷ Tawe ar fore Sadwrn, neu wrth gyrraedd gig neu sesiwn werin roedd gwên, sgwrs rwydd a diwylliedig yn disgwyl unrhyw un. Cofiaf yn iawn am ei gofid wrth roi cymorth cyntaf i Mirain (4 oed) wedi iddi wasgu ei bys yng nghornel drws yn Nhŷ Tawe.

Awgrymais rhyw dro y dylai gael ei thalu am redeg y bar mor ddiffwdan o fis i fis, ond ei hymateb oedd ei bod wedi derbyn gymaint o fudd oddi wrth Tŷ Tawe wrth ddysgu’r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd ac o gael cyfeillion Cymraeg yno, ei bod yn teimlo mai ad-dalu yn unig a wnâi. Gwrthododd unrhyw daliad yn bendant.

Roedd ei chwmni yn ddifyr bob amser. Gwirionai ar farddoniaeth Gymraeg a Saesneg. Ymhyfrydai ei bod wedi canfod hen gywyddau maswedd nad oedd rhyw ddarlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe eisiau eu trafod a byddai yn ceisio eu trafod â hwy cyn amled a phosib! Mwynhâi wrando ar feirdd yn adrodd eu gwaith ac roedd yn hoff iawn o grwpiau gwerin-pync ymhob iaith. Byddai wedi bod wrth ei bodd gyda’r treigliad o’i henw a wneuthum uchod er efallai y byddai’n fy ngheryddu’n ysgafn am y peth.

Rhoddodd sawl un ohonom ar ben ffordd yn y byd cyfrifiadurol ac roedd ei blog Cymraeg gystal pob tamaid a’r memrwn Saesneg y bu’n ei gadw hefyd. Bu’n ein hannog i ystyried defnyddio systemau cyfrifiadurol tu hwnt i Microsoft ac Apple (rhywbeth nad yw’n anghyffredin erbyn hyn), ond mewn gwirionedd roedd ei chefndir yn y maes hwnnw yn guddiedig i’r rhan fwyaf ohonom. Gwyddom, wrth reswm, am ei gallu rhyfeddol gyda chyfrifiaduron a datblygu meddalwedd, ond nid oedd yn destun trafod rhyngom. Ac felly, rhyfeddach fyth im yw darllen negeseuon pobl ar y we heddiw yn talu teyrngedau o bob cornel o’r byd.

Bu’r cyfnod o waeledd yn hir, ond parhaodd ei gwenau. Bu’r profiad o ymweld â Telsa a hithau’n sâl yn un cymysg. Profiad o rwystredigaeth bod rhywun mor annwyl, egwyddorol a hwyliog yn gorfod dioddef, ond profiad hyfryd hefyd o gael trin a thrafod y byd a’i bethau. Celodd ei phoen rhagom gymaint ag oedd hynny’n bosibl. Dywedodd wrthyf bod y pethau dibwys wedi mynd yn angof iddi a’i bod am ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Y pethau hynny pan yn sgwrsio gyda mi oedd byd natur, adar, blodau, barddoniaeth, canu (gyda gitâr), y ‘pethau’ Cymraeg, ac hanes ei theulu. Ar un achlysur roedd cyfaill arall iddi wedi galw heibio ac wedi rhoi cregyn o lan y môr Abertawe iddi’n anrheg gan nad oedd Telsa erbyn hynny’n gallu mynd at y traeth. Yno y buom am orig yn gwrando ar seiniau rhyfeddol llanw a thrai mewn cragen.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Alan a’r teulu agos i gyd.

Ymweld

Clyw’n llef yr hydref oer hyn – er yr haul
Teimlwn rew diderfyn
A gwae o golli Telsa Gwynne.

 gwendid fe es yn gyndyn – i’w gweld
Es ag ofn meidrolyn,
Gwiw awr fu â Telsa Gwynne.

Hoff orig i ganu offeryn – fu
Yn fwyn ar ddydd gwrthun,
Hael ei sgwrs oedd Telsa Gwynne.

Drwy awr dreng adroddodd englyn – a’i hwyl
Yn parhau i’m dilyn.
Loes gudd oedd loes Telsa Gwynne.

Er yn dawel yn ei gwely’n dioddef,
Hud ei hedd drwy ddeigryn
A gwefr ddaeth gan Telsa Gwynne.

Yn dirion gwelsom aderyn yr haf
A holl rin blodeuyn.
Ni welais gur Telsa Gwynne.

Gwylio heb weled gelyn – yn hwyliog
Heb wylo na dychryn,
Mwynhau gwenau Telsa Gwynne.

Yr eigion glywsom mewn cregyn – tonnau
Fel tannau hen delyn
Yn gain, alaw Telsa Gwynne.

Ond yn dyner dychwel deryn – a daw
I dir wefr blaguryn
Llon o gofio’n Telsa Gwynne.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015?  Sut aeth hi?  Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?

Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:

Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr.  Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu.  Joio!  🙂

Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf.  Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw.  Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.

Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!

Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi.  Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.

Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle.  Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd?  Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015 – yr uchafbwyntiau.

Sesiwn yng Nghymru

Bu lansiad swyddogol Sesiwn yng Nghymru yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar bnawn Sadwrn y Sesiwn Fawr (18/7/2015) ac fe aeth y cyfan rhagddo yn gampus.  Bu nifer dda yn mwynhau’r gerddoriaeth, darlleniadau, a’r barddoniaeth.

Roedd hi’n drueni bod dau ddigwyddiad o’r un naws yn digwydd yr un pryd gyda Gwilym Bowen Rhys yn arwain criw drwy alawon gwerin yn yr ystafell drws nesaf:

IMG-20150718-WA0021

Ac roedd y cyfan yn ormod i ambell un ar ddechrau’r lansiad!

IMG-20150718-WA0023

Ond bu hwyl a miri am dros awr dda.  Gan mai fi oedd wrth wraidd y cyfan dwi ddim am roi beirniadaeth yn fan hyn (hunan-glod yn beth rhyfedd), ond rhof sawl fideo i chi gael blas o’r hyn a fu.  Bwriedir lansio eto yn Abertawe tua mis Medi/Hydref, felly os hoffech fod yn ran o’r hwyl – cadwch olwg ar y wefan hon!

IMG-20150719-WA0001