Tydw i ddim wir yn cofio beth oedd y jôc, ond dwi’n cofio’r chwerthin. Plectrwm pren!
Huw Dylan Owen & Aneirin Jones

Bu lansiad swyddogol Sesiwn yng Nghymru yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar bnawn Sadwrn y Sesiwn Fawr (18/7/2015) ac fe aeth y cyfan rhagddo yn gampus. Bu nifer dda yn mwynhau’r gerddoriaeth, darlleniadau, a’r barddoniaeth.
Roedd hi’n drueni bod dau ddigwyddiad o’r un naws yn digwydd yr un pryd gyda Gwilym Bowen Rhys yn arwain criw drwy alawon gwerin yn yr ystafell drws nesaf:
Ac roedd y cyfan yn ormod i ambell un ar ddechrau’r lansiad!
Ond bu hwyl a miri am dros awr dda. Gan mai fi oedd wrth wraidd y cyfan dwi ddim am roi beirniadaeth yn fan hyn (hunan-glod yn beth rhyfedd), ond rhof sawl fideo i chi gael blas o’r hyn a fu. Bwriedir lansio eto yn Abertawe tua mis Medi/Hydref, felly os hoffech fod yn ran o’r hwyl – cadwch olwg ar y wefan hon!
Prynhawn Sul yn y Sesiwn Fawr yn Nolgellau a chael dadebru tra’n mwynhau lleisiau hamddenol a chaneuon swynol Y Plu yn Nhŷ Siamas. Roedd y neuadd yn orlawn a rhai’n methu dod i mewn hyd yn oed.
Dwi wrth fy mod gyda Gwilym Bowen Rhys yn ein harwain drwy caneuon ac alawon gwerin, mae’n orchestol yn aml, ac mae’r Bandana yn rocars o fri. Ond dwi ddim cweit mor hoff o’r Plu. Ychydig yn rhy ‘neis’ i mi efallai? Mae’n swnio weithiau fel noson lawen o’r 70au!
Ar y llaw arall roedd Kizzy Crawford yn wirioneddol wych. Yn dweud y pethau iawn, yn sefyll ac yn edrych yn iawn, yn canu’n wych ac yn llawn hyder rhyfeddol. Dyma ddawn ar dwf go iawn. Fe’i gwelais yn canu ddiwethaf ym Merthyr Tydfil mewn rali Cymdeithas yr Iaith, ond yn y ddwy flynedd a fu bu trawsnewid. “Dwi newydd gyrraedd yn ôl o ganu yn yr Almaen ac roedd hynny’n cŵl, ond ddim mor cŵl a chanu yn Nolgellau heddiw” meddai hi… Dyna sut mae sicrhau cefnogaeth y dorf fawr hon! Hollwych.
Bu’r Sesiwn Fawr yn Nolgellau unwaith yn rhagor a braf yw gweld bod yr ŵyl yn dychwelyd at ei gwreiddiau gwerinol. Roedd ambell sesiwn werin o amgylch y dref a’r rheiny yn rai da iawn. Bu un yng ngardd gefn y Stag a bu’r gerddoriaeth yn hedfan am gyfnod yn ystod y pnawn. Erbyn oriau mân y bore roedd rhagor wrthi tu allan i’r Torrent.
Grêt oedd gweld hyn. A minnau heb fod i’r Sesiwn Fawr ers sawl blwyddyn dwi’n go siwr y byddaf am fynd blwyddyn nesaf.
Bu nifer dda o gwmpas y lle ac, er nad oedd y degau o filoedd wedi tyrru fel ag a fu ers talwm, roedd yr awyrgylch yn wych a’r gigs yn llawn yn y 7 llwyfan.
Dyma Lisa Jên a Jarman yn rhoi sioe i’r dorf. Joiwch:
Wel, dyna i chi newyddion i godi’r galon. Bu Bandana yn gwneud gig yn Ysgol Bryntawe ar ddiwrnod ola’r flwyddyn academaidd eleni. Mae hynny ynddo’i hun yn beth gwych. Ond gwyliwch yr ymateb rhagorol. Bendigedig!
Da iawn Bandana a’r Ysgol a phwy bynnag arall fu’n trefnu.
Gyda llaw – dim syniad pam fo’r dyddiad ar hwn ym mis Mehefin! Y dyddiad heddiw yw 17/7/2015!
Does dim llawer o lefydd gwell i ganu na mewn gŵyl fwyd. Yno mae’r gynulleidfa yn werthfawrogol gyda llond bol o fwyd a diod ac mi gaiff y band gyfle i hel eu boliau wedyn! Dwi’n gwybod o brofiad personol! 🙂
Felly, da oedd gweld, ynghanol grwpiau Americanaidd lu (a’r cyfan oll o Gaerdydd) bod grŵp Cymraeg/Galisiaidd yn canu yn y bae. Hwrê! Yr iaith Gymraeg i’w chlywed yng nghanol Caerdydd a’r miloedd yno’n gynulleidfa barod. Os na aiff y bobl at gerddoriaeth Gymraeg mae’n rhaid i gerddoriaeth Gymraeg fynd at y bobl…
Eisteddais gyda sudd oren a rol lysieuol o ryw fath tra’n gochel rhag y glaw mewn pabell fawr a gwylio a gwrando ar Maelog / Maelog. Wyf roc a rol! 😦
Fe wyddoch, os y cawsoch gyfle i ddarllen Sesiwn yng Nghymru erbyn hyn, nad ydw i’n gefnogwr brŵd i’r pibau Cymreig aflafar, ac yn anffodus dwi’n teimlo’r un peth at y pibau o Galisia. Felly, nid oedd llawer o hwyliau arna i ar gyfer gwrando ar sgrech y rhain. Ond ar yr un pryd dwi’n gwybod yn iawn bod Dan Lawrence, Rhian Jones a Gareth Westacott yn gerddorion heb eu hail. Roedd mwy nag un ffidil heddiw a’r ddwy yn hedfan gyda’i gilydd.
Braf oedd cael mwynhau cerddoriaeth o safon yn y bae yng Nghaerdydd. Roedd Maelog yn wych. Prin yw’r alawon swynol hyfryd – alawon dawns sydd i’w cael yma a’r rheiny yn llawn bywyd ac asbri. Mae’r cerddorion oll i gyd yn ardderchog a’r grŵp yn well fyth pan fo’r pibau yn rhoi lle i’r chwibanoglau. I ddweud y gwir, roeddwn i wrth fy modd yn gwrando. Daeth cân neu ddwy hefyd, Brethyn Cartref yn llawn hwyl a’r drwm mawr yn taflu’r holl le i fyd gwerin gwirion gwych. Ambell i gân ac alaw Gymreig bob yn ail ag alawon o Galisia, ac mae’r cyfan yn gweithio i’r dim.
Os am hwyl gwerinol ewch i wrando ar Maelog cyn gynted ag y bo modd.
Dilynwch hwy ar y Trydar YMA i ganfod ymhle maent yn canu nesaf.
Pan gyrhaeddais i Tŷ Tawe neithiwr roedd nifer dda o gerddorion yno eisoes yn canu Llongau Caernarfon a’r hwyliau yn codi. Cyfle perffaith felly i griw ohonom esgeuluso’r gerddoriaeth am ychydig i gael gwlychu pig a rhannu jôc neu dri.
Beth wyt ti’n galw dyn sy’n rhoi arian i 7 o bob 10 unigolyn mae’n ei weld? Dimitri…. Meddai Aneirin. Rhyfedd sut gall cwrw wneud i’r jôcs mwyaf hurt i fod yn hynod ddoniol.
Be ti’n galw Groegwr sy’n edrych dros ei ysgwydd drwy’r amser? Troy…
Rhagor o giglan gwirion a chyfle am ddiod bach arall. Dwi’m yn siŵr os yw’r cerddorion yn gwerthfawrogi ein chwerthin. Tybed a oes tarfu?
Agorwyd y cistiau a dechrau. Yno roedd criw bach go daclus, yn enwedig o ystyried bod y Moniars yng ngŵyl y Gwach nemawr 7 milltir i ffwrdd. Daeth ambell un draw ar eu ffordd adref o’r Gwach hefyd. Felly, cerddorion –
Aneirin – ffidil
Chris (Eos) – gitâr ac ambell gân
Huw – chwibanogl
Nigel – telyn deires
John – mandolin
Michal – pibau
John – gitâr Sbaenaidd
Mel – ukulele
Robin – canu
Sylvie – mandolin
A drymiwr ar y tabwrdd hefyd.
O ie! A fi ar y banjo.
Ar ben hynny roedd Catrin tu ôl i’r bar yn lleisio ambell alaw werin hefyd.
Roedd Aneirin yn hedfan a digon o hwyl a’r bwced ar y bar yno i hel £70 at gylch meithrin y Gendros. Llwyddiant? Ysgubol!
Ond wrth i’r noson fynd rhagddi mae wastad amser am jôc fach arall…
Beth yw triple harp yn Gymraeg? Telyn telyn telyn!
Amser cinio dydd Sul yn Abertawe yng nghanol haf a’r glaw yn tywallt i lawr does dim rhaid meddwl yn hir am ble i fynd – Galerie Simpson a sgwrs gan Rhys Mwyn ar ‘Counter Culture‘!
Mae’r Stryd Fawr yn Abertawe wedi bod ar i lawr ers degawdau, nid yno mae’r siopau poblogaidd, nid yno mae’r torfeydd yn tyrru na’r bwytai a’r tafarndai sy’n denu’r byd ifanc. Ond yn ddiweddar, dros y ddwy flynedd ddiwethaf daeth ychydig o dro ar fyd a hwnnw nid o dan nawdd llywodraeth na chyngor, ond drwy law artistiaid, cerddorion, arlunwyr, theatrau ac orielau newydd
Yno daethant â’u horielau, theatrau (gyda chymorth yr Evening Post), a gweithdai cerddorol a gweithdai arlunwyr. Na, nid yw’r lle wedi ei drawsnewid, ond mae ‘na deimlad gwahanol i’r lle a does dim rhaid dychmygu’n ormodol i weld y gallai’r Stryd Fawr ddatblygu’n ganolfan gelfyddydol newydd i Abertawe.
A heddiw, i ganol byd hanner dirwasgedig a hanner celfyddydol Stryd Fawr Abertawe daeth Rhys Mwyn i’n harwain ar daith seicoddaearyddol ar draws Cymru o’r Rhufeiniaid at y tywysogion Cymreig a thrwy’r chwyldro pync i S4C ddi-ddiwylliant, YouTube di-Gymraeg ac at yfory ble ceir gemau cyfrifiadurol treisgar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid wyf am wenieithu, ond byddai’n annheg ysgrifennu’r llith hon heb gydnabod dylanwad Rhys Mwyn a’r Anhrefn arnaf yn fy ieuenctid. Y nhw, yn anad neb arall, ddaeth a gwleidyddiaeth a chymdeithaseg ddealladwy a pherthnasol i fy myd, o gerddoriaeth wahanol i ‘anti-vivisection’, i’r ‘Anti-fascist Action’, i fwyta’n llysieuol, i sosialaeth a sylweddoli lle’r Gymraeg yng Nghymru yfory.
Yn Galerie Simpson a’u harddangosfa o waith Jamie Reid roedd cloriau recordiau, arlunweithiau, a phosteri oedd yn ymwneud â’r Sex Pistols, yr Anhrefn ac ambell sefydliad arall o’r byd pync. Ac yn uchafbwynt i’r cyfeiliant gweledol roedd Rhys yn trafod y byd a’i bethau archeolegol, chwyldroadol a gwleidyddol.
Mae Rhys Mwyn yn siaradwr naturiol apelgar, yn diddanu, syfrdanu a cellwair ar yr un pryd ac, er ei bod yn anodd dilyn trywydd unffurf i’r sgwrs, mae’n ddifyr tu hwnt a byddai’n anodd iawn rhagori arno. Y siaradwr gwâdd pync. Ni chytunais a phob dim ddywedwyd, ond dyna’r pwynt mae’n debyg, cyfle i Rhys gael dweud ei ddweud ac i ni wedyn ystyried, myfyrio a thrafod. Ysgogol.
I gynulleidfa o fwyafrif llethol o siaradwyr Saesneg llwyddodd i gynnal y Gymraeg yn ran hanfodol o’r digwyddiad yn naturiol iawn ac mae hynny’n beth clodwiw dros ben.
Nid oedd y bwyd yn ran o’r ‘counter-culture’ ac wedi cegiad o gaws haloumi, bara pitta, tomato a quiche, daeth yn amser ffarwelio a dychwelyd i’r beunyddiol. Da oedd yr ysbaid o fyfyrio chwyldroadol.
Anhrefn dros Gymru!