Cymru V Belg
Weithiau’n unig y digwydd – aliniad
Pob planed yn gelfydd
 ffawd, gan godi ein ffydd
A’n llenwi â llawenydd.
Oeddwn. Roeddwn i yno. Canais gyda’r dorf, bloeddiais, cynhyrfais a dathlais. Roedd tîm Cymru yn arwrol a’r cyfan yn creu awyrgylch wefreiddiol.
Felly, pa gemau eraill sydd wedi rhoi awyrgylch o’r fath i ni? Dyma’r rhai wnes i eu mwynhau dros y saith mlynedd ar hugain diwethaf. Bum mewn dros gant o gemau Cymru (llond dwrn yn unig dramor, ond mae’r rheiny bob amser yn well ac heb eu cynnwys yma), ond dyma’r rhai roddodd awyrgylch wych:
Cymru v Sbaen (1989) – ar y Cae Ras. Hollwych!
Cymru v Almaen (1991) – y gôl yna gan Ian Rush ac arwriaeth Southall!
Cymru v Romania (1994) – roedd yr awyrgylch cyn y gêm yn hollol drydanol. Anghofiwn ni’r canlyniad.
Cymru v Eidal (2003) – Bellissimo! Hon oedd yr un orau i mi.
Cymru v Rwsia (2004) – colli yn ymyl y lan go iawn, ond sôn am awyrgylch wych cyn y gêm!
Cymru v Gogledd Iwerddon (2011) – y tensiwn rhwng y cefnogwyr cyn y gêm yn hollol annisgwyl wrth i gefnogwyr Cymru rwygo baneri jac yr undeb cefnogwyr Gogledd Iwerddon i lawr.
Felly, sut oedd Cymru v Belg (2015) yn cymharu o ran awyrgylch? Mae’n ddifyr nad oes gêm Cymru v Lloegr yn y rhestr, ond er i mi fynd i sawl un o’r gemau hynny nid oes yr un ohonynt y gallwn ddweud bod awyrgylch gwych (na drwg) cyn y gêm.
Bu cryn drin a thrafod yn y cyfryngau cyn y gêm v Belg ac roedd y tensiwn yn codi bob munud. Ond allwn i ddim dweud bod yno awyrgylch drydannol na gwych o flaen y gêm. Roedd hi’n go dawel tu allan i’r stadiwm ac efallai mai gêm nos Wener oedd yn gyfrifol am hynny a phobl yn cyrraedd ar ôl diwrnod o waith. Ta waeth, roedd tu mewn i’r stadiwm yn fyd arall.
Ni wnaeth cefnogwyr Belg yr un math o sŵn a thro diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl â’u baner Gary Speed, ac roedd yr anthem genedlaethol yn wirioneddol wych. Diolch i Sophie Evans am arwain mor dda. Bu canu tros-ffiniau clwb gyda’r holl dorf yn mwynhau ‘Hymns and Arias’ (cân y Swans fel arfer) yn ogystal â Gwŷr Harlech, ‘Zombie Nation’ a ‘Cant’ Take My Eyes Off You’ ac yna, ugain mund cyn diwedd y gêm daeth y trobwynt o ran awyrgylch pan arweiniodd y Barry Horns y dorf i ganu’r anthem genedlaethol a’i ail-tharo ac yna ei chanu eto cyn y diwedd.
Dyna drobwynt na brofais cyn nos Wener. Roedd yr effaith ar y chwaraewyr yn amlwg, ar y ddau dîm. Fe glywir weithiau bobl yn sôn am wallt eich gwar yn codi a chroen gŵydd, y tro hwn roedd hynny’n ffaith. Ni allai neb oedd yno fod wedi methu profi’r ias.
Felly, pa wahaniaeth wna hyn oll i Gymru oddi ar y maes pel-droed? A fydd hyder Cymry yn codi yn yr un modd â’r tîm cenedlaethol? Efallai, efallai… efallai y cawn dystiolaeth gadarn o hynny. Os gyrhaeddith tîm Cymru y bencampwriaeth yn Ffrainc diddorol fydd gweld a fydd unrhyw ddylanwad ar arferion pledleisio pobl Cymru yn etholiad Senedd Cymru yn 2016.