Sesiwn Nadolig y Queens

Daeth y cyfle unwaith yn rhagor i ddathlu cyfnod y Nadolig a Chalan drwy daro cân yn y Queens, Abertawe.  Un o’r ychydig prin o dafarnau ‘go-iawn’ sydd wedi goroesi yng nghanol y ddinas i fyd yr unfed ganrif ar hugain.  Hen dafarn fawr (ble bu arth) gyda nenfwd uchel a ffenestri mawr hyfryd sy’n caniatau i’r doeth edrych allan ar y byd ac i weddill y byd gael edrych i mewn yn genfigenus o fwyniant moethus a chynnes y dafarn wresog hon.

Ceir awyrgylch gwych yn y dafarn hanesyddol hon bob amser.  Ers talwm roedd yn gyrchfan morwyr pan oeddynt adref yn ymlacio ac, o’r herwydd, roedd merched ifanc (iawn) yn dawsnio ar y bar a Magdaleniaid yn hyrwyddo eu nwyddau.  Byddent yn ysgrifennu eu pris o dan eu hesgidiau ac felly drwy groesi eu coesau gallai’r morwyr weld yn union pa fargen oedd ar gael iddynt.

Roedd tafarn arall gerllaw, a ddiflannodd rai degawdau yn ôl bellach, Gwesty’r Cuba.  Yno roedd rhagor o wragedd yn rhannu eu doniau a bu cryn elyniaeth rhwng y ddwy giwed a ddatblygai ar ambell nos Sadwrn yn ymladdfa ar y stryd!

Ni welir y fath weithgareddau yn y Queens bellach ac, ar wahân i’r lluniau o longau yn y cei o’r blynyddoedd a fu, prin iawn yw’r cof am y y fath ddyddiau.  Tan yn ddiweddar roedd arth fawr wedi ei stwffio yn sefyll ar ei choesau ôl i groesawu ymwelwyr fel porffor ger un o’r mynedfeydd, ond er trueni mawr nid yw’r arth naw troedfedd yno bellach, wedi hir ddafeilio a dioddef enbyd ar draul yfwyr yn gorfodi hetiau, sbectolau haul, diodydd a sigarennau ac ati arno ar hyd y blynyddoedd.

Y Queens Hotel yw’r enw swyddogol ar y lle, er na fu’n westy erioed.  Deil y fath enw (ynghyd â nifer o dafarndai cyffelyb, megis y Manselton Arms yn Abertawe hefyd) mae’n debyg oherwydd bod tafarn ar un adeg yn le pechadurus tra bod gwesty yn le derbyniol gan bawb. Enwyd rhai tafarndai felly yn Westy hyn a’r llall er mwyn peidio pechu rhan bwysig o’r gymuned.

Un o hynodrwydd y sesiwn hon yn y Queens bob blwyddyn yw bod cerddorion yn mynd a dod bob yn un fel ei bod yn fwy na phosibl i un cerddor beidio gweld cerddor arall yn yr un sesiwn!  Y tro hwn, ar ddechrau’r sesiwn roedd gwraig o’r Amerig wedi dod draw gan iddi glywed am fwynhad yn sgil y seiswn y flwyddyn flaenorol.  Roedd ganddi ddiddordeb yn y canu Cymraeg a bu’n disgwyl yn eiddgar ers blwyddyn!  Am un o’r gloch roedd hi yn mwynhau pryd o fwyd tra’n disgwyl dechrau’r sesiwn.  Am ddau o’r gloch roedd hi’n canu’r gitar i gyfeilio’r chwiban dun, ond erbyn tri o’r gloch roedd hi wedi ymadael am ei llety.

Erbyn diwedd y prynhawn roedd oddeutu deg cerddor a’r gerddoriaeth wedi bod yn hedfan am gryn dipyn o amser.  Yn anffodus, amser sydd yn difa popeth a datblygodd y sesiwn yn sesiwn ganu erbyn iddi nosi (llun gan Chris Reynolds).  Aeth un gân yn ddwy a’r ddwy yn ddeg.  Mae’n rhyfedd sut mae Cymry Cymraeg yn ymddangos o’r unlle pan fo sesiwn ganu yn datblygu.  Aeth y gymanfa anffurfiol honno yn ei blaen am beth amser tra llifai’r cyrfe i lonni a thwymo calon pawb dros gyfnod y Nadolig oer hwn.

Llanwrtyd

Bu’r ddefod coffau Cilmeri eleni eto yn brofiad dymunol, er bod tristwch mawr yn sgil colli Gerallt Lloyd Owen, bardd Cilmeri.  Camp fawr oedd teyrnged Geraint Jones (Trefor) a’i weledigaeth deimladwy dros Gymru.

Yn dilyn diwrnod hir aeth criw mawr draw i’r Neuadd Arms, Llanwrtyd i lymeitian, canu gwerin ac aros y nos mewn llety lleol.

Noson lawen a gafwyd, yn hytrach na sesiwn, mewn gwirionedd.  Arweiniodd Geraint (Jacob) Roberts y noson gan wahodd pawb oedd yn yr ystafell (tua 30 ohonom) yn eu tro i gymryd rhan drwy gân, alaw, dawns, datgan jôc, neu adrodd farddoniaeth.  Aeth y noson yn ei blaen yn ddi-fai gydag ambell i berfformiad gwefreiddiol ac yna ambell i jôc ychydig fasweddus…

Gwrandawyd ar ambell i gân werin na chlywir yn aml y noson honno a sawl cân wladgarol, wrth reswm.  Ond, fel a ddigwydd yn rhy aml o lawer, wrth i’r noson fynd yn ei blaen penderfynodd un o gwsmeriaid y dafarn ganu emyn.  Ni welaf unrhyw fai ar hynny, mae gan emyn le yn ein traddodiad gwerin erbyn hyn yn bendant.  Ond y trueni yw bod un emyn yn dueddol o droi’n gymanf ac fe gollir y sesiwn werin am y noson, oni bai bod modd troi’r noson yn ôl rhywsut.  Erbyn i’r ystafell daro nodau cyntaf y drydedd emyn y noson hon roedd o leiaf un unigolyn wedi cael llond bol a cododd yn swnllyd a datgan ei phrotest yn groyw i’r byd – ‘rydych chi’n canu caneuon o draddodiad sydd wedi lladd y diwylliant gwerin Cymraeg’ meddai.

Aeth hi’n dipyn o ddadl wedyn rhwng dau gerddor, dadl unffordd braidd, ond digon i lesteirio ar hwyl y noson a dod a’r cyfan i ben.  Ac felly, wedi digon o ddrachtio a chanu dyma gerdded y canllath byr at y llety.  Llety bync ydoedd ac roedd yn rhaid rhannu ystafell ymolchi rhwng sawl llofft.  Ynghanol nos dihunodd cyfaill (fe’i alwn yn X am y tro) a cheisio’r tŷ bach.  Wedi cwblhau ei fusnes ceisiodd ganfod ei lofft a llwyddo i ddeffro cerddor arall o drwmgwsg.  Yn ffodus canfu ddrws llofft ar agor ac i mewn ag ef a dringo mewn i’r gwely… at gerddor arall!  Cafodd hwnnw’r fath fraw nes iddo weiddi nerth esgyrn ei ben a llwyddo i ddihuno gweddill y llety.  Dyna beth oedd croeso a lletygarwch!

Dychwelwn i Gilmeri eto eleni.