Meini Meirionnydd

Daeth argraffiad cyntaf y llyfr o wasg y Lolfa yng Ngorffennaf 2007, a’r ail-argraffiad yng Ngorffennaf 2008.

Dyma farn rhai o’r adolygwyr:

Rhys Mwyn – Yr Herald Gymraeg: “Dyma un o’r llyfrau pwysicaf yn yr Iaith Gymraeg hyd yma! Mae’r llyfr yn hollol hollol hollol – HANFODOL!”

Emyr Llewelyn – Y Faner Newydd: “Dyma un o’r cyfrolau harddaf a mwyaf diddorol i ymddangos yn y Gymraeg. Prynwch hi – mae’n gyfareddol.”

Llais Llyfrau y BBC: “Mae’r gyfrol, sydd wedi ei sgrifennu yn amlwg gyda’r darllenydd cyffredin mewn golwg, yn sicr yn deffro diddordeb a thybed a allwn obeithio eu gweld yn ymestyn eu gweithgarwch i rannau eraill o Gymru? Byddai’n gasgliad difyr a gwerthfawr o lyfrau.”

Dewi Prysor: “Hoffwn eich annog i brynu’r llyfr anhygoel o ddiddorol, Meini Meirionnydd… …Mae mwy iddo na lluniau, hanes a chyfeirnodau grid, diolch i weledigaeth Huw Dylan Owen. Dwn i’m os ydw i wedi darllen llyfr mor ddiddorol erstalwm.”

Gwefan Gwales – Iwan Bryn James:

“Agorodd y gyfrol hon fy llygaid i’r cyfoeth ehangach a geir o fewn ffiniau’r sir.  Yn y gyfrol ddeniadol hon sy’n gyforiog o luniau lliw gwych gan y ffotograffydd David Glyn Lewis, rhestrir dros chwe deg o safleoedd megalithig, sy’n cynnwys meini hirion, cromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig nodedig.

Mae brwdfrydedd awdur y testun, Huw Dylan Owen, am y meini hyn, yn amlwg o’r dechrau.

Dyma gyfrol a’m plesiodd yn fawr, cyfrol sydd wedi codi awydd arnaf i ymweld fy hun â rhai o’r mannau hudol a gyflwynwyd imi o fewn ei thudalennau.”

Y Dydd: “…cyfrol hardd, ddifyr ac addysgiadol dros ben gyda lluniau ardderchog.”

Y Tyst (Dewi Jones): “Gan fod y testun wedi ei osod yn drwyadl mewn arddull mor ddifyr a darllenadwy rwy’n siwr y bydd yn apelio at lawer… …Rwy’n annog pawb sy’n hoff o grwydro’r unigeddau i brynu’r gyfrol hon ac i fynd allan i weld yr holl ryfeddodau a geir ynddi.”

Dail Dysynni: “Awgrym penigamp am anrheg i chi’ch hun! Lluniau’n plesio, englynion a hanesion diddorol. Gwaith ardderchog yn wir!”

Kenneth S. Brassil – Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd: “Yn naturiol y lluniau sydd yn tynnu sylw. Mae nifer fawr ohonynt yn wych. Ond y barddoniaeth sydd yn sicrhau fformiwla anarferol i’r gyfrol…”

Sesiwn yng Nghymru

Cyfrol o ysgrifau hwyliog ar y byd sesiynau gwerin yng Nghymru, gydag enw a nodiant alaw Gymreig yn bennawd i bob pennod. Llyfr unigryw ei naws gelfyddydol na chyhoeddwyd ei fath yn y Gymraeg o’r blaen.

Dyma farn rhai o’r adolygwyr:

Catrin Meirion ar Radio Cymru – YMA.

Gwyn Griffiths ar wefan Gwales:

“Y mae Sesiwn yng Nghymru – Cymry, Cwrw a Chân gan Huw Dylan Owen yn gampwaith o gyfrol, y gyfrol fwyaf diddorol a ddarllenais ers llawer dydd. Dyma sgrifennu byrlymus, cyffrous, gwybodus, brwdfrydig ac afieithus. Ychwanegwch at hynny sylwadau bachog a barn bendant ar wahanol agweddau’r byd canu gwerin, Cymru a Chymreictod gan ddyn ar dân dros ganu gwerin. Mae e hefyd o blaid cyflwyno canu gwerin yn y lle y dylid gwneud hynny – ymysg gwerin hwyliog y tafarnau.

Dyma arweinlyfr ardderchog i dafarnau sy’n croesawu sesiynwyr. Hefyd, ar gychwyn pob pennod fe geir alaw draddodiadol Gymreig, tua deugain ohonyn nhw i gyd – rhywbeth amhrisiadwy i grwpiau gwerin.

Mae hon yn gyfrol gyforiog o wybodaeth ddiddorol, o farddoniaeth ardderchog, y rhan fwyaf ohoni, rwy’n tybied, o waith yr awdur ei hun ac yn dangos dawn cynganeddwr medrus. Yn ogystal â hynny, mae’r bennod olaf yn ddarn ardderchog o lenyddiaeth bur. Fedra i ddim dweud mwy.”

Cilmeri 2015

Poni welwch chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch chwi’r deri’n ymdaraw?

Nid oedd y tywydd yn ffafriol o gwbl eleni gyda’r gwynt a’r glaw’n hyrddio drwy’r coed ac yn ddychrynllyd ddrycinog.

Er hynny, daeth dros gant a hanner i Cilmeri i gofio ac i ystyried yr her i’r dyfodol eleni.

Yn y bore aeth criw o thua 45 i Eglwys Llanynis i wrando, canu, a myfyrio.  Dyna i chi beth yw profiad ysbrydol a rhyfeddol.  Mae’n wahanol bob blwyddyn, ond deil yr awyrgylch yn wastad.  Yr unig drueni yw nad yw’r person plwy yn gallu siarad llawer o Gymraeg ac, felly, dim ond ambell i air o Gymraeg a geir ganddo cyn iddo fynd rhagddo i siarad mewn Lladin a Saesneg.

Bu cryn chwerthin ymysg rhai wrth i bregeth y bore ystyried bywyd “Llywelyn Fawr”!  Ond eto, roedd yn brofiad gwerth chweil.

Ar ôl cinio yn y dafarn a sgwrs gyda’r hwn a’r llall arweiniwyd yr osgordd ar orymdaith gan Fand Cambria drwy’r gwlychwynt at y maen ym mhendraw’r pentref.  Rhoddwyd areithiau penigamp gan yr aelod cynulliad lleol (Rhyddfrydwr!) – William Powell – ac araith ardderchog gan Jamie Bevan (Cymdeithas yr Iaith) lle bu’n tanio ac yn ymfalchio yng nghamp ei dad i ddysgu’r Gymraeg mor llwyddiannus.  Gwych hefyd oedd pibau Jacob.

Er y tywydd erchyll a phawb yn wlyb at y croen roedd pob eiliad werth y drafferth.

Dychwelodd pawb at y dafarn a chynhesrwydd peint a sesiwn werin.  Yno roedd Gareth Westacott ar y ffidil, Rhian Bebb ar yr acordion, Hefin Jones ar y bouzouki, Geraint Roberts ar y chwibanoglau a minau ar y banjo.  Datblygodd yn sesiwn ganu gyda Calfin ac Iwan o Lanfihangel yr Arth a Thalgarreg yn arwain gyda Catrin Rowlands.

Unig drueni’r diwrnod oedd gorfod ei throi hi, drwy’r glaw, yn ol dros y mynyddoedd tua’r deheubarth.

Anhrefn?

Amser cinio dydd Sul yn Abertawe yng nghanol haf a’r glaw yn tywallt i lawr does dim rhaid meddwl yn hir am ble i fynd – Galerie Simpson a sgwrs gan Rhys Mwyn ar ‘Counter Culture‘!

Mae’r Stryd Fawr yn Abertawe wedi bod ar i lawr ers degawdau, nid yno mae’r siopau poblogaidd, nid yno mae’r torfeydd yn tyrru na’r bwytai a’r tafarndai sy’n denu’r byd ifanc.  Ond yn ddiweddar, dros y ddwy flynedd ddiwethaf daeth ychydig o dro ar fyd a hwnnw nid o dan nawdd llywodraeth na chyngor, ond drwy law artistiaid, cerddorion, arlunwyr, theatrau ac orielau newydd

Yno daethant â’u horielau, theatrau (gyda chymorth yr Evening Post), a gweithdai cerddorol a gweithdai arlunwyr.  Na, nid yw’r lle wedi ei drawsnewid, ond mae ‘na deimlad gwahanol i’r lle a does dim rhaid dychmygu’n ormodol i weld y gallai’r Stryd Fawr ddatblygu’n ganolfan gelfyddydol newydd i Abertawe.

A heddiw, i ganol byd hanner dirwasgedig a hanner celfyddydol Stryd Fawr Abertawe daeth Rhys Mwyn i’n harwain ar daith seicoddaearyddol ar draws Cymru o’r Rhufeiniaid at y tywysogion Cymreig a thrwy’r chwyldro pync i S4C ddi-ddiwylliant, YouTube di-Gymraeg ac at yfory ble ceir gemau cyfrifiadurol treisgar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid wyf am wenieithu, ond byddai’n annheg ysgrifennu’r llith hon heb gydnabod dylanwad Rhys Mwyn a’r Anhrefn arnaf yn fy ieuenctid. Y nhw, yn anad neb arall, ddaeth a gwleidyddiaeth a chymdeithaseg ddealladwy a pherthnasol i fy myd, o gerddoriaeth wahanol i ‘anti-vivisection’, i’r ‘Anti-fascist Action’, i fwyta’n llysieuol, i sosialaeth a sylweddoli lle’r Gymraeg yng Nghymru yfory.

Yn Galerie Simpson a’u harddangosfa o waith Jamie Reid roedd cloriau recordiau, arlunweithiau, a phosteri oedd yn ymwneud â’r Sex Pistols, yr Anhrefn ac ambell sefydliad arall o’r byd pync.  Ac yn uchafbwynt i’r cyfeiliant gweledol roedd Rhys yn trafod y byd a’i bethau archeolegol, chwyldroadol a gwleidyddol.

Mae Rhys Mwyn yn siaradwr naturiol apelgar, yn diddanu, syfrdanu a cellwair ar yr un pryd ac, er ei bod yn anodd dilyn trywydd unffurf i’r sgwrs, mae’n ddifyr tu hwnt a byddai’n anodd iawn rhagori arno.  Y siaradwr gwâdd pync.  Ni chytunais a phob dim ddywedwyd, ond dyna’r pwynt mae’n debyg, cyfle i Rhys gael dweud ei ddweud ac i ni wedyn ystyried, myfyrio a thrafod.  Ysgogol.

I gynulleidfa o fwyafrif llethol o siaradwyr Saesneg llwyddodd i gynnal y Gymraeg yn ran hanfodol o’r digwyddiad yn naturiol iawn ac mae hynny’n beth clodwiw dros ben.

Nid oedd y bwyd yn ran o’r ‘counter-culture’ ac wedi cegiad o gaws haloumi, bara pitta, tomato a quiche, daeth yn amser ffarwelio a dychwelyd i’r beunyddiol.  Da oedd yr ysbaid o fyfyrio chwyldroadol.

Anhrefn dros Gymru!

Y Faner Goch

Bum yng ngŵyl y Merthyr Rising ar ddydd Sul 31 Mai 2015 a chael cryn fwynhad yn gwrando, dadlau, sgwrsio a thrafod.

Bu’n ŵyl ddifyr ar hyd wythnos gyfan, ond dim ond ar y Sul y cefais gyfle i fynd, ond dwi’n falch i mi fod.

Yn anffodus bu ychydig o ddrwg-deimlad ynglŷn â’r iaith Gymraeg yno gan i rywun roi graffiti Fe Godwn Ni Eto dros y murlun ardderchog Merthyr Rising oedd yno.  Roedd protest yn erbyn gŵyl i ddathlu protest yn ormod i rai efallai?  Mae’n debyg mai’r trueni oedd na fu i’r protestiwr/wraig hwn/hon ddatgan eu graffiti ar wal un o’r bwytai estron gyfalafol Americanaidd nid nepell o’r fan.  Ond protest yw protest yn y pen draw a llongyfarchion i’r protestydd ac i’r trefnwyr am gadw’r dadleuon yn fyw.  Dyna’r bwriad onid e?  Codi trafodaeth.  Anaml iawn y gwnaiff protest newid pethau’n uniongyrchol ac yn unionsyth, gweithredu i godi ymwybyddiaeth ac i godi trafodaeth a wneir fel rheol.

Felly, wedi paned chwyldroadol yng Soar bum yn gwrando ar ddadl unochrog braidd rhwng Bethan Jenkins AM ac Armon Williams o YesCymru a mwynhau gwrando arnynt yn esbonio mai nid mater o economi oedd y ddadl am annibyniaeth, ond mater o feddylfryd.  Y peth difyr i mi oedd sylweddoli bod yr ystafell yn go lawn (tua 30-40 o bobl) a dychmygwn eu bod yn go gefnogol i’r syniad o annibyniaeth, ond hyd yn oed yn y criw hwn roedd amheuaeth.  Siaradodd y ddau yn rymus a phwrpasol ac roedd hi’n werth gwrando arnynt.  Trueni na fyddai mwy wedi galw draw.

11063817_449369765237316_6045610383234431671_n

Ni chlywais Jamie Bevan yn canu, ond cefais wrando ar Rhys Mwyn yn traethu am wleidyddiaeth, hanes a Chymru.  Roedd hi’n braf iawn cael bod yno i’w glywed yn dweud wrth y gynulleidfa Saesneg ei hiaith (mwyafrif) bod byw yng Nghymru heb ddeall Cymraeg fel gwylio teledu du a gwyn.  Dyna ddywediad gwerth ei ddyfynu.  Mwynheais ei sgwrs yn fawr.

Rhywsut bu llwyddiant i gyrraedd caffi yng nghanol y dref, cael brechdan a phaned arall, gwylio rhai o fandiau roc Merthyr yn perfformio i gynulleidfa fawr ar y sgwar gyferbyn a thafarn y Dic Penderyn a chael llun neu ddau o flaen y murlun enwog, cyn dychwelyd i glywed cyfweliad Rhys Mwyn gyda Rene Griffiths o Batagonia.  Roedd hi’n hynod braf gwrando arno’n trafod y byd a’i bethau yn ei acen hyfryd ac yn dweud ei hanes ac agweddau (hynod) diddorol Archentwyr Cymraeg at Gymru.  Canodd ambell gân i ni hefyd ac mae’r alaw Heno Mae’n Bwrw Cwrw yn dal i droelli yn fy mhen.  Cefais gyfle wedyn i’w wahodd i ganu yn Cyrfe Mawr 2015 a cytunodd!

Drwy rhyw amryfusedd roedd amseru yr Artist Taxi Driver wedi newid a dim ond cwta ddeg munud y cefais i wrando arno a’i sgwrs “This is not a recession it’s a robbery!”, ond ni dociodd hynny ddim ar fy hoffter ohono.  Gwych!

Gobeithio y bydd Merthyr Rising arall yn 2016 ac y bydd yr holl drafod yn dechrau talu’i ffordd…

Sesiwn Nadolig y Queens

Daeth y cyfle unwaith yn rhagor i ddathlu cyfnod y Nadolig a Chalan drwy daro cân yn y Queens, Abertawe.  Un o’r ychydig prin o dafarnau ‘go-iawn’ sydd wedi goroesi yng nghanol y ddinas i fyd yr unfed ganrif ar hugain.  Hen dafarn fawr (ble bu arth) gyda nenfwd uchel a ffenestri mawr hyfryd sy’n caniatau i’r doeth edrych allan ar y byd ac i weddill y byd gael edrych i mewn yn genfigenus o fwyniant moethus a chynnes y dafarn wresog hon.

Ceir awyrgylch gwych yn y dafarn hanesyddol hon bob amser.  Ers talwm roedd yn gyrchfan morwyr pan oeddynt adref yn ymlacio ac, o’r herwydd, roedd merched ifanc (iawn) yn dawsnio ar y bar a Magdaleniaid yn hyrwyddo eu nwyddau.  Byddent yn ysgrifennu eu pris o dan eu hesgidiau ac felly drwy groesi eu coesau gallai’r morwyr weld yn union pa fargen oedd ar gael iddynt.

Roedd tafarn arall gerllaw, a ddiflannodd rai degawdau yn ôl bellach, Gwesty’r Cuba.  Yno roedd rhagor o wragedd yn rhannu eu doniau a bu cryn elyniaeth rhwng y ddwy giwed a ddatblygai ar ambell nos Sadwrn yn ymladdfa ar y stryd!

Ni welir y fath weithgareddau yn y Queens bellach ac, ar wahân i’r lluniau o longau yn y cei o’r blynyddoedd a fu, prin iawn yw’r cof am y y fath ddyddiau.  Tan yn ddiweddar roedd arth fawr wedi ei stwffio yn sefyll ar ei choesau ôl i groesawu ymwelwyr fel porffor ger un o’r mynedfeydd, ond er trueni mawr nid yw’r arth naw troedfedd yno bellach, wedi hir ddafeilio a dioddef enbyd ar draul yfwyr yn gorfodi hetiau, sbectolau haul, diodydd a sigarennau ac ati arno ar hyd y blynyddoedd.

Y Queens Hotel yw’r enw swyddogol ar y lle, er na fu’n westy erioed.  Deil y fath enw (ynghyd â nifer o dafarndai cyffelyb, megis y Manselton Arms yn Abertawe hefyd) mae’n debyg oherwydd bod tafarn ar un adeg yn le pechadurus tra bod gwesty yn le derbyniol gan bawb. Enwyd rhai tafarndai felly yn Westy hyn a’r llall er mwyn peidio pechu rhan bwysig o’r gymuned.

Un o hynodrwydd y sesiwn hon yn y Queens bob blwyddyn yw bod cerddorion yn mynd a dod bob yn un fel ei bod yn fwy na phosibl i un cerddor beidio gweld cerddor arall yn yr un sesiwn!  Y tro hwn, ar ddechrau’r sesiwn roedd gwraig o’r Amerig wedi dod draw gan iddi glywed am fwynhad yn sgil y seiswn y flwyddyn flaenorol.  Roedd ganddi ddiddordeb yn y canu Cymraeg a bu’n disgwyl yn eiddgar ers blwyddyn!  Am un o’r gloch roedd hi yn mwynhau pryd o fwyd tra’n disgwyl dechrau’r sesiwn.  Am ddau o’r gloch roedd hi’n canu’r gitar i gyfeilio’r chwiban dun, ond erbyn tri o’r gloch roedd hi wedi ymadael am ei llety.

Erbyn diwedd y prynhawn roedd oddeutu deg cerddor a’r gerddoriaeth wedi bod yn hedfan am gryn dipyn o amser.  Yn anffodus, amser sydd yn difa popeth a datblygodd y sesiwn yn sesiwn ganu erbyn iddi nosi (llun gan Chris Reynolds).  Aeth un gân yn ddwy a’r ddwy yn ddeg.  Mae’n rhyfedd sut mae Cymry Cymraeg yn ymddangos o’r unlle pan fo sesiwn ganu yn datblygu.  Aeth y gymanfa anffurfiol honno yn ei blaen am beth amser tra llifai’r cyrfe i lonni a thwymo calon pawb dros gyfnod y Nadolig oer hwn.