Cymru V Belg

Cymru V Belg

Weithiau’n unig y digwydd – aliniad
Pob planed yn gelfydd
 ffawd, gan godi ein ffydd
A’n llenwi â llawenydd.

Oeddwn.  Roeddwn i yno.  Canais gyda’r dorf, bloeddiais, cynhyrfais a dathlais.  Roedd tîm Cymru yn arwrol a’r cyfan yn creu awyrgylch wefreiddiol.

Felly, pa gemau eraill sydd wedi rhoi awyrgylch o’r fath i ni?  Dyma’r rhai wnes i eu mwynhau dros y saith mlynedd ar hugain diwethaf.  Bum mewn dros gant o gemau Cymru (llond dwrn yn unig dramor, ond mae’r rheiny bob amser yn well ac heb eu cynnwys yma), ond dyma’r rhai roddodd awyrgylch wych:

Cymru v Sbaen (1989) – ar y Cae Ras.  Hollwych!

Cymru v Almaen (1991) – y gôl yna gan Ian Rush ac arwriaeth Southall!

Cymru v Romania (1994) – roedd yr awyrgylch cyn y gêm yn hollol drydanol.  Anghofiwn ni’r canlyniad.

Cymru v Eidal (2003) – Bellissimo!  Hon oedd yr un orau i mi.

Cymru v Rwsia (2004) – colli yn ymyl y lan go iawn, ond sôn am awyrgylch wych cyn y gêm!

Cymru v Gogledd Iwerddon (2011) – y tensiwn rhwng y cefnogwyr cyn y gêm yn hollol annisgwyl wrth i gefnogwyr Cymru rwygo baneri jac yr undeb cefnogwyr Gogledd Iwerddon i lawr.

Felly, sut oedd Cymru v Belg (2015) yn cymharu o ran awyrgylch?  Mae’n ddifyr nad oes gêm Cymru v Lloegr yn y rhestr, ond er i mi fynd i sawl un o’r gemau hynny nid oes yr un ohonynt y gallwn ddweud bod awyrgylch gwych (na drwg) cyn y gêm.

Bu cryn drin a thrafod yn y cyfryngau cyn y gêm v Belg ac roedd y tensiwn yn codi bob munud.  Ond allwn i ddim dweud bod yno awyrgylch drydannol na gwych o flaen y gêm.  Roedd hi’n go dawel tu allan i’r stadiwm ac efallai mai gêm nos Wener oedd yn gyfrifol am hynny a phobl yn cyrraedd ar ôl diwrnod o waith.  Ta waeth, roedd tu mewn i’r stadiwm yn fyd arall.

Ni wnaeth cefnogwyr Belg yr un math o sŵn a thro diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl â’u baner Gary Speed, ac roedd yr anthem genedlaethol yn wirioneddol wych.  Diolch i Sophie Evans am arwain mor dda.  Bu canu tros-ffiniau clwb gyda’r holl dorf yn mwynhau ‘Hymns and Arias’ (cân y Swans fel arfer) yn ogystal â Gwŷr Harlech, ‘Zombie Nation’ a ‘Cant’ Take My Eyes Off You’ ac yna, ugain mund cyn diwedd y gêm daeth y trobwynt o ran awyrgylch pan arweiniodd y Barry Horns y dorf i ganu’r anthem genedlaethol a’i ail-tharo ac yna ei chanu eto cyn y diwedd.

Dyna drobwynt na brofais cyn nos Wener.  Roedd yr effaith ar y chwaraewyr yn amlwg, ar y ddau dîm.  Fe glywir weithiau bobl yn sôn am wallt eich gwar yn codi a chroen gŵydd, y tro hwn roedd hynny’n ffaith.  Ni allai neb oedd yno fod wedi methu profi’r ias.

Felly, pa wahaniaeth wna hyn oll i Gymru oddi ar y maes pel-droed?  A fydd hyder Cymry yn codi yn yr un modd â’r tîm cenedlaethol?  Efallai, efallai… efallai y cawn dystiolaeth gadarn o hynny.  Os gyrhaeddith tîm Cymru y bencampwriaeth yn Ffrainc diddorol fydd gweld a fydd unrhyw ddylanwad ar arferion pledleisio pobl Cymru yn etholiad Senedd Cymru yn 2016.

Advertisements

Tafarn y Cwmdu

Braf yw cael ymweld â thafarndai gwahanol ledled Cymru i gael canu a chwarae sesiwn wrth lymeitian ambell beint o gwrw.  Bu Dan Morris yn sôn ers tro am dafarn y Cwmdu gan ei fod yntau’n byw yng nghyffiniau Llandeilo.

Felly, gyda Dan a Claudine (dau ffidlwr o fri) aeth Gareth Rees a minnau rhyw nos Sadwrn braf o wanwyn oer yn 2015 draw i’r dafarn gyda’n ffidlau a’n mandolinau yn barod.

Mae’r dafarn, sydd mewn man hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gâr nid nepell o Dalyllychau, ar lan afonig fechan sy’n canu’n sionc wrth gerdded ati.   Saif yr adeilad yn union fel ag y byddai wedi sefyll yn gadarn rhai canrifoedd yn ôl yng nghanol teras.  Y noson honno roedd awyrgylch ar y ffordd at y dafarn yn union fel y dychmygwn y byddai pentrefi Cymru i gyd wedi bod yn ystod 40au’r ugeinfed ganrif.  Dim sŵn moduron a plant yn chwarae pel-droed ar ganol yr heol.

Ond, Saesneg oedd iaith y plant.

Tu mewn i’r dafarn daw hud y lle’n amlwg.  Hen dafarn na newidiwyd ers degawdau lawer.  Y bar bychan yn fwy o dwll yn y wal a’r cyrfe a’r seidrau gan fragdai lleol.  Na, doedd yno yr un enaid byw yn siarad Cymraeg yn y dafarn ar wahân i ni.  Acenion canolbarth Lloegr gafwyd gan rhywrai yn trafod eu bywyd carwriaethol ger y bar a rhai eraill mwy ffroenuchel wedi bod yn bwyta yn y bwyty gerllaw.

Roedd Dan Morris ar ei orau y noson honno.  Alawon yn chwyrlio a’n fflio, harmoneiddio jigs a rîls ar eu hyd ar gyflymder gwyllt a’r canu mor swynol nes… wel, nes i ddim byd ddigwydd.  Roedd hi’n amlwg bod sesiwn werin Gymraeg yn beth dieithr yno.  Er, dywedodd y lletywr wrth i ni ymadael y dylen alw eto i’r ‘folk evening’ a drefnwyd yno yn rheolaidd.  Dangosodd luniau o rhywun yn canu’r ‘didgeridoo’ ac ambell un arall gyda gitar ar y wal, yr un wal a ddangosai luniau balch o Carlo, darpar frenin Lloegr, yn mwynhau peint yn y Cwmdu.

Bu’n sesiwn a hanner i ddweud y gwir ac efallai bod y diffyg diddordeb gan fynychwyr y dafarn wedi bod yn beth da i ni gan ein bod wedi cael rhwydd hynt i fwynhau’r awyrgylch gerddorol Gymreig.

Bu uchafbwyntiau cerddorol wrth reswm.  Rhoddais fy ffôn i recordio am gyfnod ac erbyn hyn mae gen i bron i ddwy awr o recordiad o’r noson.  Roedd gan Dan alawon newydd a ganfu mewn hen lawysgrif a bu cryn chwerthin a diddanwch o gyd-ddarllen o lyfr “Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton” yn ôl argraffiad 1593.  Yno, yng nghanol cerddi ac anerchiadau go ddifyr roedd “Cywydd i’r Bel Droed” a gyhoeddwyd yn 1575 gyda’r diweddglo hyfryd:

gwneiff dedwydd yn gelfydd gall

Pel droed yn 1575!  Pwy fyddai’n meddwl!

Ond roedd uchafbwynt hwy i ddod.  Tua unarddeg o’r gloch, a hithau’n dywyll fel y fagddu tu allan derbyniais gennad i fynd allan i’r nos i sefyll am funud.  Wedi gwrthod ambell waith gan gredu mai strytyn neu dynnu coes oedd bwriad y gwahoddwr, euthum allan a rhyfeddu.  Aeth munud yn hanner awr o syllu at y sêr.  Er i mi gael fy magu yng nghefn gwlad Cymru a chysgu sawl noson mewn man tywyll a gwledig, ni welais erioed y fath wybren serog o’r blaen.  Roedd y miloedd ar filoedd o sêr a sawl seren wîb yn iasol a dychrynllyd, yn wefreiddiol ac yn codi ofn yr un pryd.  Daeth rhyw deimlad rhyfedd drosta i fel petai’r gofod yn rhywbeth 3D a bron na allwn estyn fy llaw a chyffwrdd y sêr gan eu bod mor glir.  Doeddwn i ddim am adael y fan a gallwn fod wedi sefyll yno’n synfyfyrio am oriau lawer.

Siom oedd yr awyrgylch Saesneg a Seisnig yn Nhafarn Cwmdu ac ni fydd brys dychwelyd am sesiwn, er i mi fwynhau y gerddoriaeth a’r noson gyffredinol.  Bydd rhaid ceisio tafarn mwy Cymreig i gyd-ganu gyda Dan a Claudine i’r dyfodol.  Ond wrth deithio am adref y noson honno gwyddwn y byddwn yn dychwelyd rhyw dro gyda’r plant fel eu bod hwythau yn cael y cyfle i werthfawrogi sêr y nen yn gwenu fel na welais i erioed o’r blaen.

Llanwrtyd

Bu’r ddefod coffau Cilmeri eleni eto yn brofiad dymunol, er bod tristwch mawr yn sgil colli Gerallt Lloyd Owen, bardd Cilmeri.  Camp fawr oedd teyrnged Geraint Jones (Trefor) a’i weledigaeth deimladwy dros Gymru.

Yn dilyn diwrnod hir aeth criw mawr draw i’r Neuadd Arms, Llanwrtyd i lymeitian, canu gwerin ac aros y nos mewn llety lleol.

Noson lawen a gafwyd, yn hytrach na sesiwn, mewn gwirionedd.  Arweiniodd Geraint (Jacob) Roberts y noson gan wahodd pawb oedd yn yr ystafell (tua 30 ohonom) yn eu tro i gymryd rhan drwy gân, alaw, dawns, datgan jôc, neu adrodd farddoniaeth.  Aeth y noson yn ei blaen yn ddi-fai gydag ambell i berfformiad gwefreiddiol ac yna ambell i jôc ychydig fasweddus…

Gwrandawyd ar ambell i gân werin na chlywir yn aml y noson honno a sawl cân wladgarol, wrth reswm.  Ond, fel a ddigwydd yn rhy aml o lawer, wrth i’r noson fynd yn ei blaen penderfynodd un o gwsmeriaid y dafarn ganu emyn.  Ni welaf unrhyw fai ar hynny, mae gan emyn le yn ein traddodiad gwerin erbyn hyn yn bendant.  Ond y trueni yw bod un emyn yn dueddol o droi’n gymanf ac fe gollir y sesiwn werin am y noson, oni bai bod modd troi’r noson yn ôl rhywsut.  Erbyn i’r ystafell daro nodau cyntaf y drydedd emyn y noson hon roedd o leiaf un unigolyn wedi cael llond bol a cododd yn swnllyd a datgan ei phrotest yn groyw i’r byd – ‘rydych chi’n canu caneuon o draddodiad sydd wedi lladd y diwylliant gwerin Cymraeg’ meddai.

Aeth hi’n dipyn o ddadl wedyn rhwng dau gerddor, dadl unffordd braidd, ond digon i lesteirio ar hwyl y noson a dod a’r cyfan i ben.  Ac felly, wedi digon o ddrachtio a chanu dyma gerdded y canllath byr at y llety.  Llety bync ydoedd ac roedd yn rhaid rhannu ystafell ymolchi rhwng sawl llofft.  Ynghanol nos dihunodd cyfaill (fe’i alwn yn X am y tro) a cheisio’r tŷ bach.  Wedi cwblhau ei fusnes ceisiodd ganfod ei lofft a llwyddo i ddeffro cerddor arall o drwmgwsg.  Yn ffodus canfu ddrws llofft ar agor ac i mewn ag ef a dringo mewn i’r gwely… at gerddor arall!  Cafodd hwnnw’r fath fraw nes iddo weiddi nerth esgyrn ei ben a llwyddo i ddihuno gweddill y llety.  Dyna beth oedd croeso a lletygarwch!

Dychwelwn i Gilmeri eto eleni.