Bum yng ngŵyl y Merthyr Rising ar ddydd Sul 31 Mai 2015 a chael cryn fwynhad yn gwrando, dadlau, sgwrsio a thrafod.
Bu’n ŵyl ddifyr ar hyd wythnos gyfan, ond dim ond ar y Sul y cefais gyfle i fynd, ond dwi’n falch i mi fod.
Yn anffodus bu ychydig o ddrwg-deimlad ynglŷn â’r iaith Gymraeg yno gan i rywun roi graffiti Fe Godwn Ni Eto dros y murlun ardderchog Merthyr Rising oedd yno. Roedd protest yn erbyn gŵyl i ddathlu protest yn ormod i rai efallai? Mae’n debyg mai’r trueni oedd na fu i’r protestiwr/wraig hwn/hon ddatgan eu graffiti ar wal un o’r bwytai estron gyfalafol Americanaidd nid nepell o’r fan. Ond protest yw protest yn y pen draw a llongyfarchion i’r protestydd ac i’r trefnwyr am gadw’r dadleuon yn fyw. Dyna’r bwriad onid e? Codi trafodaeth. Anaml iawn y gwnaiff protest newid pethau’n uniongyrchol ac yn unionsyth, gweithredu i godi ymwybyddiaeth ac i godi trafodaeth a wneir fel rheol.
Felly, wedi paned chwyldroadol yng Soar bum yn gwrando ar ddadl unochrog braidd rhwng Bethan Jenkins AM ac Armon Williams o YesCymru a mwynhau gwrando arnynt yn esbonio mai nid mater o economi oedd y ddadl am annibyniaeth, ond mater o feddylfryd. Y peth difyr i mi oedd sylweddoli bod yr ystafell yn go lawn (tua 30-40 o bobl) a dychmygwn eu bod yn go gefnogol i’r syniad o annibyniaeth, ond hyd yn oed yn y criw hwn roedd amheuaeth. Siaradodd y ddau yn rymus a phwrpasol ac roedd hi’n werth gwrando arnynt. Trueni na fyddai mwy wedi galw draw.
Ni chlywais Jamie Bevan yn canu, ond cefais wrando ar Rhys Mwyn yn traethu am wleidyddiaeth, hanes a Chymru. Roedd hi’n braf iawn cael bod yno i’w glywed yn dweud wrth y gynulleidfa Saesneg ei hiaith (mwyafrif) bod byw yng Nghymru heb ddeall Cymraeg fel gwylio teledu du a gwyn. Dyna ddywediad gwerth ei ddyfynu. Mwynheais ei sgwrs yn fawr.
Rhywsut bu llwyddiant i gyrraedd caffi yng nghanol y dref, cael brechdan a phaned arall, gwylio rhai o fandiau roc Merthyr yn perfformio i gynulleidfa fawr ar y sgwar gyferbyn a thafarn y Dic Penderyn a chael llun neu ddau o flaen y murlun enwog, cyn dychwelyd i glywed cyfweliad Rhys Mwyn gyda Rene Griffiths o Batagonia. Roedd hi’n hynod braf gwrando arno’n trafod y byd a’i bethau yn ei acen hyfryd ac yn dweud ei hanes ac agweddau (hynod) diddorol Archentwyr Cymraeg at Gymru. Canodd ambell gân i ni hefyd ac mae’r alaw Heno Mae’n Bwrw Cwrw yn dal i droelli yn fy mhen. Cefais gyfle wedyn i’w wahodd i ganu yn Cyrfe Mawr 2015 a cytunodd!
Drwy rhyw amryfusedd roedd amseru yr Artist Taxi Driver wedi newid a dim ond cwta ddeg munud y cefais i wrando arno a’i sgwrs “This is not a recession it’s a robbery!”, ond ni dociodd hynny ddim ar fy hoffter ohono. Gwych!
Gobeithio y bydd Merthyr Rising arall yn 2016 ac y bydd yr holl drafod yn dechrau talu’i ffordd…