Tŷ Tawe, Abertawe 14 Awst 2015

Bu Gareth Rees a John Davies yn arwain criw i greu bar newydd ar lawr gwaelod Tŷ Tawe ers rhai wythnosau ac er nad yw’n barod go iawn eto, roedd hwn yn gyfle ardderchog i ystyried addasrwydd y lle ar gyfer sesiwn werin.

Gosodwyd bar newydd pren, casgen gwrw tu ôl iddi, silffoedd pren a phren ar hyd y waliau, yn ogystal â haenau newydd o baent i sicrhau awyrgylch mwy werinol tafarn. Yno mae bwrdd dartiau hefyd a chyn bo hir bydd dodrefn newydd hefyd.

I’r awyrgylch newydd arbennig hwn daeth cerddorion i fwynhau a thaflu alawon i’r awyr gan adael iddynt hedfan fry. Daeth criw da ynghyd o gerddorion a gwrandawyr i lenwi’r dafarn. Sara, Geraint, Jacob, John, Caradog, Aneirin, Eos, Nuw, Michal, a minnau. Daeth Eleri Gwilym o’r Sgeti hefyd a chanu cân neu ddwy yn hyfryd, er nad oedd yn arddull draddodiadol werinol efallai.

Yna bu alawon ar aden a chaneuon yn morio’n donnog gyda’r criw cyfan yn ymuno. A chafwyd tawelwch persain ar gyfer canu sych Eos Hirwaun a chanu gwyllt ar adegau eraill.

Roedd y cwrw yn wych, cwrw 3 Cliffs Bay gan Gwmni Bragu Abertawe.

Noson ardderchog. Bydd y dafarn newydd hon yn gaffaeliad! 🙂

Telynor

Sesiwn yng Nghymru

Bu lansiad swyddogol Sesiwn yng Nghymru yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar bnawn Sadwrn y Sesiwn Fawr (18/7/2015) ac fe aeth y cyfan rhagddo yn gampus.  Bu nifer dda yn mwynhau’r gerddoriaeth, darlleniadau, a’r barddoniaeth.

Roedd hi’n drueni bod dau ddigwyddiad o’r un naws yn digwydd yr un pryd gyda Gwilym Bowen Rhys yn arwain criw drwy alawon gwerin yn yr ystafell drws nesaf:

IMG-20150718-WA0021

Ac roedd y cyfan yn ormod i ambell un ar ddechrau’r lansiad!

IMG-20150718-WA0023

Ond bu hwyl a miri am dros awr dda.  Gan mai fi oedd wrth wraidd y cyfan dwi ddim am roi beirniadaeth yn fan hyn (hunan-glod yn beth rhyfedd), ond rhof sawl fideo i chi gael blas o’r hyn a fu.  Bwriedir lansio eto yn Abertawe tua mis Medi/Hydref, felly os hoffech fod yn ran o’r hwyl – cadwch olwg ar y wefan hon!

IMG-20150719-WA0001

Sesiwn Fawr Dolgellau

Bu’r Sesiwn Fawr yn Nolgellau unwaith yn rhagor a braf yw gweld bod yr ŵyl yn dychwelyd at ei gwreiddiau gwerinol.  Roedd ambell sesiwn werin o amgylch y dref a’r rheiny yn rai da iawn.  Bu un yng ngardd gefn y Stag a bu’r gerddoriaeth yn hedfan am gyfnod yn ystod y pnawn.  Erbyn oriau mân y bore roedd rhagor wrthi tu allan i’r Torrent.

Grêt oedd gweld hyn.  A minnau heb fod i’r Sesiwn Fawr ers sawl blwyddyn dwi’n go siwr y byddaf am fynd blwyddyn nesaf.

Bu nifer dda o gwmpas y lle ac, er nad oedd y degau o filoedd wedi tyrru fel ag a fu ers talwm, roedd yr awyrgylch yn wych a’r gigs yn llawn yn y 7 llwyfan.

Dyma Lisa Jên a Jarman yn rhoi sioe i’r dorf.  Joiwch:

Sesiwn Tŷ Tawe – Gorffennaf 2015

Pan gyrhaeddais i Tŷ Tawe neithiwr roedd nifer dda o gerddorion yno eisoes yn canu Llongau Caernarfon a’r hwyliau yn codi. Cyfle perffaith felly i griw ohonom esgeuluso’r gerddoriaeth am ychydig i gael gwlychu pig a rhannu jôc neu dri.

Beth wyt ti’n galw dyn sy’n rhoi arian i 7 o bob 10 unigolyn mae’n ei weld? Dimitri…. Meddai Aneirin. Rhyfedd sut gall cwrw wneud i’r jôcs mwyaf hurt i fod yn hynod ddoniol.

Be ti’n galw Groegwr sy’n edrych dros ei ysgwydd drwy’r amser? Troy…

Rhagor o giglan gwirion a chyfle am ddiod bach arall. Dwi’m yn siŵr os yw’r cerddorion yn gwerthfawrogi ein chwerthin. Tybed a oes tarfu?

Agorwyd y cistiau a dechrau. Yno roedd criw bach go daclus, yn enwedig o ystyried bod y Moniars yng ngŵyl y Gwach nemawr 7 milltir i ffwrdd. Daeth ambell un draw ar eu ffordd adref o’r Gwach hefyd. Felly, cerddorion –

Aneirin – ffidil
Chris (Eos) – gitâr ac ambell gân
Huw – chwibanogl
Nigel – telyn deires
John – mandolin
Michal – pibau
John – gitâr Sbaenaidd
Mel – ukulele
Robin – canu
Sylvie – mandolin
A drymiwr ar y tabwrdd hefyd.

O ie! A fi ar y banjo.

Ar ben hynny roedd Catrin tu ôl i’r bar yn lleisio ambell alaw werin hefyd.

Roedd Aneirin yn hedfan a digon o hwyl a’r bwced ar y bar yno i hel £70 at gylch meithrin y Gendros.  Llwyddiant? Ysgubol!

Ond wrth i’r noson fynd rhagddi mae wastad amser am jôc fach arall…

Beth yw triple harp yn Gymraeg? Telyn telyn telyn!

Sesiwn Werin Tafarn y Railway, Cilâ

Cadwyn o englynion i Gareth Rees, Abertawe, ar gyrraedd ei drigain oed:

Y gwanwyn ddaw a gwenau – i Gilâ
Yn glên gan roi oriau
O hwyl, a chawn ni fwynhau
Yn hud sain y dathliadau.

Ar ben blwydd dathlwn lwyddiant – ein Gareth
Ar gyrraedd llawn dyfiant!
Un cŵl nawr sy’n hanner cant
A deg yn ddi-reg heb rant!

Ni rega ei fod yn drigain – rhy wên
 grâs yma’n ddeusain
Gyda mwynder ei bersain
Wraig Jên â’i gwên hithau’n gain.

Rhodia â’i wenau caredig – a byd
O fotobeics a’r miwsig
A bîr iach ar daith i’r brig,
Rhodia yn ŵr haelfrydig.

Rhodio lle cynt y rhedodd – a wna nawr
Er yn iach, mae’n adnodd
Wir hael ac fe’i gaiff yn rhodd –
Er ofer,býs-pás rhywfodd.

Hwylia ar fws i’r Railway – a hirddydd
O gerdded am adre,
Byd Gareth ydyw’r ‘pethe’
Yn Gymro’n mwynhau’i gamre.

I’w gamre’n iach ddi-achwyn – yn hoenus
Dymunwn oes addfwyn
A maith, oes lawen a mwyn
A hin pob dydd yn wanwyn.

Nid pob dydd mae Gareth Rees yn drigain oed.  Gareth Rees, ein Gŵrŵ Cwrw.  Gareth Rees y Cymro.  Felly rhaid oedd cael sesiwn yn ei hoff dafarn yn y byd, y Railway yng Nghilâ.  Dyma dafarn o’r iawn ryw, tafarn y bragwr Rory Gowland a’i gwrw bendigedig.  Bu’n sesiwn ardderchog gyda cyri’n cael ei ddarparu am ddim i bawb a’r gerddoriaeth yn bownsio.

Gobeithiaf yn fawr cael gwahoddiad yn ôl i’r Railway i ganu.

Sesiwn yr Oakley Arms

Ar daith i’r Gogledd dros y Pasg, daeth y cyfle i mi alw draw i’r sesiwn yn yr Oakley Arms a chael cwmni braf rai o griw Bandarall.  Yno roedd Hefin a Celt, Gerallt a Bil am gyfnod byr, ac yno roedd Siwan yn ffidlo hefyd.

Mae rhywbeth ym mêr fy esgyrn sydd yn cadarnhau bod y Bandarall o’r un brîd a Chilmeri gynt, neu’r Hwntws.  Cerddoriaeth werin Gymraeg.  Hynny yw, nid cerddoriath ‘folk’, ond rhywbeth sy’n hwyliog gyfoes ac ar yr un pryd yn swnio fel ei fod ganrif oed.

Cafwyd peint neu ddau ac ambell i jôc cyn i’r gerddoriaeth ddechrau.  Noson dawel oedd hon, ond cafwyd cyfle i ddysgu ambell i alaw newydd a thrafod yr etholiad oedd i ddod yr wythnos honno.

Prynais gopi o CD Bandarall a chael mwynhad pur ohono, caneuon gwreiddiol fel Dim Ond Lleuad Borffor, ambell i alaw draddodiadol hyfryd megis Lliw Lili Ymysg Drain, ac ambell i alaw wreiddiol hefyd fel Lliw’r Machlud.

Os oes degpunt gennych i’w wario eleni – prynwch CD Bandarall.  Mae’n wych.

Tafarn y Cwmdu

Braf yw cael ymweld â thafarndai gwahanol ledled Cymru i gael canu a chwarae sesiwn wrth lymeitian ambell beint o gwrw.  Bu Dan Morris yn sôn ers tro am dafarn y Cwmdu gan ei fod yntau’n byw yng nghyffiniau Llandeilo.

Felly, gyda Dan a Claudine (dau ffidlwr o fri) aeth Gareth Rees a minnau rhyw nos Sadwrn braf o wanwyn oer yn 2015 draw i’r dafarn gyda’n ffidlau a’n mandolinau yn barod.

Mae’r dafarn, sydd mewn man hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gâr nid nepell o Dalyllychau, ar lan afonig fechan sy’n canu’n sionc wrth gerdded ati.   Saif yr adeilad yn union fel ag y byddai wedi sefyll yn gadarn rhai canrifoedd yn ôl yng nghanol teras.  Y noson honno roedd awyrgylch ar y ffordd at y dafarn yn union fel y dychmygwn y byddai pentrefi Cymru i gyd wedi bod yn ystod 40au’r ugeinfed ganrif.  Dim sŵn moduron a plant yn chwarae pel-droed ar ganol yr heol.

Ond, Saesneg oedd iaith y plant.

Tu mewn i’r dafarn daw hud y lle’n amlwg.  Hen dafarn na newidiwyd ers degawdau lawer.  Y bar bychan yn fwy o dwll yn y wal a’r cyrfe a’r seidrau gan fragdai lleol.  Na, doedd yno yr un enaid byw yn siarad Cymraeg yn y dafarn ar wahân i ni.  Acenion canolbarth Lloegr gafwyd gan rhywrai yn trafod eu bywyd carwriaethol ger y bar a rhai eraill mwy ffroenuchel wedi bod yn bwyta yn y bwyty gerllaw.

Roedd Dan Morris ar ei orau y noson honno.  Alawon yn chwyrlio a’n fflio, harmoneiddio jigs a rîls ar eu hyd ar gyflymder gwyllt a’r canu mor swynol nes… wel, nes i ddim byd ddigwydd.  Roedd hi’n amlwg bod sesiwn werin Gymraeg yn beth dieithr yno.  Er, dywedodd y lletywr wrth i ni ymadael y dylen alw eto i’r ‘folk evening’ a drefnwyd yno yn rheolaidd.  Dangosodd luniau o rhywun yn canu’r ‘didgeridoo’ ac ambell un arall gyda gitar ar y wal, yr un wal a ddangosai luniau balch o Carlo, darpar frenin Lloegr, yn mwynhau peint yn y Cwmdu.

Bu’n sesiwn a hanner i ddweud y gwir ac efallai bod y diffyg diddordeb gan fynychwyr y dafarn wedi bod yn beth da i ni gan ein bod wedi cael rhwydd hynt i fwynhau’r awyrgylch gerddorol Gymreig.

Bu uchafbwyntiau cerddorol wrth reswm.  Rhoddais fy ffôn i recordio am gyfnod ac erbyn hyn mae gen i bron i ddwy awr o recordiad o’r noson.  Roedd gan Dan alawon newydd a ganfu mewn hen lawysgrif a bu cryn chwerthin a diddanwch o gyd-ddarllen o lyfr “Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton” yn ôl argraffiad 1593.  Yno, yng nghanol cerddi ac anerchiadau go ddifyr roedd “Cywydd i’r Bel Droed” a gyhoeddwyd yn 1575 gyda’r diweddglo hyfryd:

gwneiff dedwydd yn gelfydd gall

Pel droed yn 1575!  Pwy fyddai’n meddwl!

Ond roedd uchafbwynt hwy i ddod.  Tua unarddeg o’r gloch, a hithau’n dywyll fel y fagddu tu allan derbyniais gennad i fynd allan i’r nos i sefyll am funud.  Wedi gwrthod ambell waith gan gredu mai strytyn neu dynnu coes oedd bwriad y gwahoddwr, euthum allan a rhyfeddu.  Aeth munud yn hanner awr o syllu at y sêr.  Er i mi gael fy magu yng nghefn gwlad Cymru a chysgu sawl noson mewn man tywyll a gwledig, ni welais erioed y fath wybren serog o’r blaen.  Roedd y miloedd ar filoedd o sêr a sawl seren wîb yn iasol a dychrynllyd, yn wefreiddiol ac yn codi ofn yr un pryd.  Daeth rhyw deimlad rhyfedd drosta i fel petai’r gofod yn rhywbeth 3D a bron na allwn estyn fy llaw a chyffwrdd y sêr gan eu bod mor glir.  Doeddwn i ddim am adael y fan a gallwn fod wedi sefyll yno’n synfyfyrio am oriau lawer.

Siom oedd yr awyrgylch Saesneg a Seisnig yn Nhafarn Cwmdu ac ni fydd brys dychwelyd am sesiwn, er i mi fwynhau y gerddoriaeth a’r noson gyffredinol.  Bydd rhaid ceisio tafarn mwy Cymreig i gyd-ganu gyda Dan a Claudine i’r dyfodol.  Ond wrth deithio am adref y noson honno gwyddwn y byddwn yn dychwelyd rhyw dro gyda’r plant fel eu bod hwythau yn cael y cyfle i werthfawrogi sêr y nen yn gwenu fel na welais i erioed o’r blaen.