Hamddena

Bu diwedd Awst yn gyfnod prysur o hamddena caled.  Anodd yw gorfod mynd i fwynhau!  🙂

Yn ystod y cyfnod hwn bu sawl profiad ac aml i gyfnod hwyliog.  Dyma rai ohonynt.

Bu’r gwyliau yn gyfnod o deithio o Amsterdam i Cologne i Frwsel, Waterloo ac yna Paris.  Yno yn Paris ar y Metro cefais gyfle i fwynhau’r gŵr hwn yn mynd drwy’i bethau.  Mae gen i Ffrangeg safon Lefel A (neu felly oedd hi, ond mae’n gwaethygu gyda diffyg ymarfer), ond cefais drafferth mawr deall hwn.  Cefais wybod bod rapwyr Marseille a Paris yn defnyddio rhyw iaith Greolaidd newydd sydd yn llawn verlan Ffrengig wedi ei gymysgu gydag Arabeg.  Ta waeth am hynny, roedd e’n ysgubol.

Nid rapio’n unig fu hanes y daith hon.  Bu’n rhaid wrth ymweliad â’r Acoustic Music Company yn Brighton i gael mwynhau cwmni ambell i fandolin ryfeddol.  Yn y fan hyn mae 4 wal sydd yn gyffelyb i hon:

Acoustic Music Company

Roedd mandolinau gwych o bob math yno.  Y mwyafrif helaeth o gyfandir yr Amerig a’r prisiau yn ddychrynllyd braidd. Cefais y profiad hyfryd o ganu mandolin oedd yn werth dros £17k!  Ac oedd, roedd hi’n swnio’n grêt.  Yno hefyd roedd un fandolin fach hyfryd las gan Rigel (yngenir yn yr un modd a’r enw bachgen Nigel).  Fe’i gwelir yn fan HYN, y fandolin gyntaf ar y ddalen – ac mae’n las!  O Mam Bach!  Sôn am offeryn hyfryd i’w chwarae!  Y sain yn hollol fendigedig a’r offeryn yn teimlo’n iawn ac yn edrych yn wych.  Trueni na fyddai gen i ddwy fil a hanner i’w sbario!

Lle rhyfedd yw’r Acoustic Music Company.  Mae’n go debyg na fyddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n cerdded heibio fawr callach ei fod yn bodoli.  Mae gitarau go fendigedig yno hefyd, ond nid oedd amser i wario’n edrych ar y rheiny.

ACM Brighton

Bu cyfle da am gwrw neu ddau ar fy nheithiau hefyd.  Nid yw enw da y Belgiaid am gwrw yn un gwirion a daeth cyfle i fwynhau sawl math gwahanol gyda fy nghyfaill, Chris sydd yn byw yn Waterloo.  Roedd hwn yn un o’r goreuon:

Mynach

A chyda’r cwrw daeth platiad o giwbiau o gaws gyda dips mwstard a phupur hallt.  Hyfryd iawn dros ben.  Rhywbeth i gynhesu’r galon.

Ni chefais lyfu fy nghlwyfau’n hir yn ôl yng Nghymru.  Roedd gŵyl gwrw Abertawe dros y penwythnos a bu’n rhaid ymweld â honno gyda hogia ni.  Dean, Paul, a’r Eos.  Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gyflym ddatblygu blas am gwrw chwerw (chwerw go iawn) gyda hopys cryf.  Mae Cwrw Celt o Gaerffili yn unigryw, blasys a da.  Joio!20150829_174923

Awn yn ôl cyn bo hir at sesinau gwerin yr hydref.  Wyt ti’n barod?

Cribellau’r Mandolin

Daeth yn amser i newid cribellau’r mandolin.  Nid yw hynny’n rhywbeth a wneuthum erioed o’r blaen, ond datblygodd ‘buzz’ ar dant A a dangosodd ychydig o archwilio bod holltau wedi datblygu yn y cribellau.  Mae hynny’n beth hollol naturiol mewn offerynnau hŷn, ond nid yw’n beth arferol mewn offeryn eithaf ifanc fel fy mandolin i, ond bum yn ei chanu’n rheolaidd a bu cryn ddefnydd i dreulio’r metel.

Felly dyma anfon at y crythsaer (luthier) yn yr Amerig a gofyn iddo am gyngor ar sut i newid cribellau.  Dyma oedd ei ateb:

“Quite often frets that are not too worn can be leveled and dressed, which means a luthier who has the correct tools especially a fret file of the right size.  The fret wire should be Stewart MacDonald’s small wire for mandolins.  If the frets need to be replaced, the luthier needs to know about the Teeter method of fretting, which is how they were installed.  I can explain it to you or to the luthier you select.  I would be happy to send the fret wire at no charge.  Sorry not to be of more help, but I am hoping that you can find an appropriate luthier and then I could provide exact information on doing the work.”

Felly roedd gen i waith i’w wneud, sef canfod crythsaer lleol.  Roedd sawl un, ond o esbonio bod angen iddynt wneud y ‘teeter method’ doedd ganddynt ddim llawer o ddiddordeb.  Roedd hynny’n ddull cymhleth a hir o adnewyddu meddent bob yn un.  Ond daeth un i’r fei, sef Richard Meyrick yn y Fenni.  Roedd yn foldon gwneud y gwaith ac yn rhesymol ei bris.

Felly, i ffwrdd a mi i’r Fenni a’r mandolin hoff yn sedd ôl y car.  Roedd gweithdy’r saer yn le hynod a’r arogl pren yn fendigedig.  Yno, roedd gŵr arall yn gweitiho ar fandolin o’r newydd tra roedd Richard wrthi’n adeiladu gitâr.

Rhaid cyfaddef mai profiad anodd ac annifyr oedd ffarwelio â’r mandolin.  Nid oeddwn eisiau ei gadael yno (gyda llaw – benyw yw mandolin i mi, er fy mod yn gwybod mai gwrywaidd yw’r enw) a bu’n rhaid i mi ymddiried yn llwyr yn y saer am wythnos.

Wythnos yn ddiweddarach roedd yr offeryn fel newydd a’r tannau glân newydd (Dr Thomastik) yn caniatau i fy mysedd lithro o nodyn i nodyn.

Bu’n wythnos hir heb y mandolin, gobeithio na fydd angen i mi ei hamddifadu eto am flynyddoedd hir…