Pwy sy’n cofio’r rhain felly? Pecyn brws dannedd a phâst dannedd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn arddel:
ANHREFN NID CERDD DANT!
Hyfrydbeth o’r 80au!
Bum yng ngŵyl y Merthyr Rising ar ddydd Sul 31 Mai 2015 a chael cryn fwynhad yn gwrando, dadlau, sgwrsio a thrafod.
Bu’n ŵyl ddifyr ar hyd wythnos gyfan, ond dim ond ar y Sul y cefais gyfle i fynd, ond dwi’n falch i mi fod.
Yn anffodus bu ychydig o ddrwg-deimlad ynglŷn â’r iaith Gymraeg yno gan i rywun roi graffiti Fe Godwn Ni Eto dros y murlun ardderchog Merthyr Rising oedd yno. Roedd protest yn erbyn gŵyl i ddathlu protest yn ormod i rai efallai? Mae’n debyg mai’r trueni oedd na fu i’r protestiwr/wraig hwn/hon ddatgan eu graffiti ar wal un o’r bwytai estron gyfalafol Americanaidd nid nepell o’r fan. Ond protest yw protest yn y pen draw a llongyfarchion i’r protestydd ac i’r trefnwyr am gadw’r dadleuon yn fyw. Dyna’r bwriad onid e? Codi trafodaeth. Anaml iawn y gwnaiff protest newid pethau’n uniongyrchol ac yn unionsyth, gweithredu i godi ymwybyddiaeth ac i godi trafodaeth a wneir fel rheol.
Felly, wedi paned chwyldroadol yng Soar bum yn gwrando ar ddadl unochrog braidd rhwng Bethan Jenkins AM ac Armon Williams o YesCymru a mwynhau gwrando arnynt yn esbonio mai nid mater o economi oedd y ddadl am annibyniaeth, ond mater o feddylfryd. Y peth difyr i mi oedd sylweddoli bod yr ystafell yn go lawn (tua 30-40 o bobl) a dychmygwn eu bod yn go gefnogol i’r syniad o annibyniaeth, ond hyd yn oed yn y criw hwn roedd amheuaeth. Siaradodd y ddau yn rymus a phwrpasol ac roedd hi’n werth gwrando arnynt. Trueni na fyddai mwy wedi galw draw.
Ni chlywais Jamie Bevan yn canu, ond cefais wrando ar Rhys Mwyn yn traethu am wleidyddiaeth, hanes a Chymru. Roedd hi’n braf iawn cael bod yno i’w glywed yn dweud wrth y gynulleidfa Saesneg ei hiaith (mwyafrif) bod byw yng Nghymru heb ddeall Cymraeg fel gwylio teledu du a gwyn. Dyna ddywediad gwerth ei ddyfynu. Mwynheais ei sgwrs yn fawr.
Rhywsut bu llwyddiant i gyrraedd caffi yng nghanol y dref, cael brechdan a phaned arall, gwylio rhai o fandiau roc Merthyr yn perfformio i gynulleidfa fawr ar y sgwar gyferbyn a thafarn y Dic Penderyn a chael llun neu ddau o flaen y murlun enwog, cyn dychwelyd i glywed cyfweliad Rhys Mwyn gyda Rene Griffiths o Batagonia. Roedd hi’n hynod braf gwrando arno’n trafod y byd a’i bethau yn ei acen hyfryd ac yn dweud ei hanes ac agweddau (hynod) diddorol Archentwyr Cymraeg at Gymru. Canodd ambell gân i ni hefyd ac mae’r alaw Heno Mae’n Bwrw Cwrw yn dal i droelli yn fy mhen. Cefais gyfle wedyn i’w wahodd i ganu yn Cyrfe Mawr 2015 a cytunodd!
Drwy rhyw amryfusedd roedd amseru yr Artist Taxi Driver wedi newid a dim ond cwta ddeg munud y cefais i wrando arno a’i sgwrs “This is not a recession it’s a robbery!”, ond ni dociodd hynny ddim ar fy hoffter ohono. Gwych!
Gobeithio y bydd Merthyr Rising arall yn 2016 ac y bydd yr holl drafod yn dechrau talu’i ffordd…
Cadwyn o englynion i Gareth Rees, Abertawe, ar gyrraedd ei drigain oed:
Y gwanwyn ddaw a gwenau – i Gilâ
Yn glên gan roi oriau
O hwyl, a chawn ni fwynhau
Yn hud sain y dathliadau.
Ar ben blwydd dathlwn lwyddiant – ein Gareth
Ar gyrraedd llawn dyfiant!
Un cŵl nawr sy’n hanner cant
A deg yn ddi-reg heb rant!
Ni rega ei fod yn drigain – rhy wên
 grâs yma’n ddeusain
Gyda mwynder ei bersain
Wraig Jên â’i gwên hithau’n gain.
Rhodia â’i wenau caredig – a byd
O fotobeics a’r miwsig
A bîr iach ar daith i’r brig,
Rhodia yn ŵr haelfrydig.
Rhodio lle cynt y rhedodd – a wna nawr
Er yn iach, mae’n adnodd
Wir hael ac fe’i gaiff yn rhodd –
Er ofer,býs-pás rhywfodd.
Hwylia ar fws i’r Railway – a hirddydd
O gerdded am adre,
Byd Gareth ydyw’r ‘pethe’
Yn Gymro’n mwynhau’i gamre.
I’w gamre’n iach ddi-achwyn – yn hoenus
Dymunwn oes addfwyn
A maith, oes lawen a mwyn
A hin pob dydd yn wanwyn.
Nid pob dydd mae Gareth Rees yn drigain oed. Gareth Rees, ein Gŵrŵ Cwrw. Gareth Rees y Cymro. Felly rhaid oedd cael sesiwn yn ei hoff dafarn yn y byd, y Railway yng Nghilâ. Dyma dafarn o’r iawn ryw, tafarn y bragwr Rory Gowland a’i gwrw bendigedig. Bu’n sesiwn ardderchog gyda cyri’n cael ei ddarparu am ddim i bawb a’r gerddoriaeth yn bownsio.
Gobeithiaf yn fawr cael gwahoddiad yn ôl i’r Railway i ganu.
Wedi wythnos o wyliau Pasg gweithgar o gerdded Cader Idris (Llwybr Fox fyny a lawr ar hyd Llwybr Pilin Pwn), Llyn Tegid, Nant y Moch (ar drywydd Brwydr Hyddgen), godre’r Gader a dioddef erbyn diwedd yr wythnos gyda chlunwst, roedd yn rhaid wrth ddiwrnod i ymlacio, a pha well na Gŵyl Gwrw Tŷ Siamas.
Gyda dewis da o gyrfe Cymreig a lleoliad wrth fy modd roedd hi’n braf iawn cael eistedd a sgwrsio gyda hen gyfeillion o Ddolgellau. Bu cryn newid yn Nhŷ Siamas ac er mai yn y bar oedd y casgenni, yn y neuadd, neu’r hen safle amgueddfa, ac nid yn yr awditoriwm oedd y grwpiau a’r gerddoriaeth.
Y cyrfe i ddechrau felly –
Cwrw Llŷn – Y Brawd Houdini
Bragdy Seren – Cwrw Seren
Bragdy Waen – Pamplemoose
Bragdy Lleu – Cwrw Lleu
Mŵs Piws – Cwrw Ysgawen
Bragdy Mantle – Cwrw Teifi
Cwrw Cader – Cwrw Coch.
Anodd fyddai dewis pa un oedd orau ac efallai mai gwell fyddai peidio ceisio!
Iwan Huws – un o’r Cowbois wrth gwrs, yn canu ei hunan gyda’r gitâr ac yn swynol iawn, os rhywfaint yn dawel ac isel. Dwi’m yn siwr os y cafodd wrandawiad teg, ond roedd yn gerddoriaeth cefndir swynol a thawel.
Band Arall – Yr hogia lleol yn rhoi cyfle i bawb glywed caneuon ac alawon eu record newydd, Lleuad Borffor. Mae’r alaw Lliw’r Machlud yn hyfryd wych ac mae’n hynod braf meddwl bod rhywrai (Hefin Jones yn yr achos hwn) yn dal i gyfansoddi alawon dawns yng Nghymru. Mae nhw’n grŵp gwerin o’r iawn ryw, dim gormod o sglein na sigl roc a rôl, ond hwyl cefn gwlad Meirionnydd yn fyw iawn.
Welsh Whisperer – Roedd hwn yn agoriad llygad! Â’i lais melfedaidd a’r mwstas yn denu’r merched, prin ei fod yn cael llonydd i ganu! joio mas draw!
Daeth Traed Moch Môn i’r llwyfan yn hwyrach. Dychmygwch grŵp hanner Cymraeg a hanner Gwyddelig yn tarannu fel rhwy fersiwn dwyieithog o’r Pogues yn Nhŷ Siamas. Wel, dyna gafwyd. Caneuon gwyllt Gwyddelig eu naws megis Wild Rover ac yna caneuon gwerin Cymraeg fel Hen Ferchetan bob yn ail. I fod yn onest wnes i ddim eu mwynhau yn fawr, ond llwyddasant i gael pawb i ganu Sosban Fach a’i debyg ac mae’n siwr i’r mwyafrif o’r gynulleidfa gael amser da.
Annisgwyl oedd Gwilym Rhys Bowen a’i gyd-gerddor a chyfaill, Elidir, yn canu ar ddiwedd y noson. Gitâr a ffidil a lleisiau’r ddau yn cytseinio’n wych a’r hwyl naturiol yn fendigedig. Rhywbeth i’n hatgoffa o ganu Robin Llwyd ab Owain gyda Cilmeri o’r oes a fu. Roedd hwn yn ddiwedd hollol fendigedig ac wir yn addas i ddod a gŵyl gwrw Tŷ Siamas i ben.
Melys moes mwy.
Ar daith i’r Gogledd dros y Pasg, daeth y cyfle i mi alw draw i’r sesiwn yn yr Oakley Arms a chael cwmni braf rai o griw Bandarall. Yno roedd Hefin a Celt, Gerallt a Bil am gyfnod byr, ac yno roedd Siwan yn ffidlo hefyd.
Mae rhywbeth ym mêr fy esgyrn sydd yn cadarnhau bod y Bandarall o’r un brîd a Chilmeri gynt, neu’r Hwntws. Cerddoriaeth werin Gymraeg. Hynny yw, nid cerddoriath ‘folk’, ond rhywbeth sy’n hwyliog gyfoes ac ar yr un pryd yn swnio fel ei fod ganrif oed.
Cafwyd peint neu ddau ac ambell i jôc cyn i’r gerddoriaeth ddechrau. Noson dawel oedd hon, ond cafwyd cyfle i ddysgu ambell i alaw newydd a thrafod yr etholiad oedd i ddod yr wythnos honno.
Prynais gopi o CD Bandarall a chael mwynhad pur ohono, caneuon gwreiddiol fel Dim Ond Lleuad Borffor, ambell i alaw draddodiadol hyfryd megis Lliw Lili Ymysg Drain, ac ambell i alaw wreiddiol hefyd fel Lliw’r Machlud.
Os oes degpunt gennych i’w wario eleni – prynwch CD Bandarall. Mae’n wych.
Braf yw cael ymweld â thafarndai gwahanol ledled Cymru i gael canu a chwarae sesiwn wrth lymeitian ambell beint o gwrw. Bu Dan Morris yn sôn ers tro am dafarn y Cwmdu gan ei fod yntau’n byw yng nghyffiniau Llandeilo.
Felly, gyda Dan a Claudine (dau ffidlwr o fri) aeth Gareth Rees a minnau rhyw nos Sadwrn braf o wanwyn oer yn 2015 draw i’r dafarn gyda’n ffidlau a’n mandolinau yn barod.
Mae’r dafarn, sydd mewn man hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gâr nid nepell o Dalyllychau, ar lan afonig fechan sy’n canu’n sionc wrth gerdded ati. Saif yr adeilad yn union fel ag y byddai wedi sefyll yn gadarn rhai canrifoedd yn ôl yng nghanol teras. Y noson honno roedd awyrgylch ar y ffordd at y dafarn yn union fel y dychmygwn y byddai pentrefi Cymru i gyd wedi bod yn ystod 40au’r ugeinfed ganrif. Dim sŵn moduron a plant yn chwarae pel-droed ar ganol yr heol.
Ond, Saesneg oedd iaith y plant.
Tu mewn i’r dafarn daw hud y lle’n amlwg. Hen dafarn na newidiwyd ers degawdau lawer. Y bar bychan yn fwy o dwll yn y wal a’r cyrfe a’r seidrau gan fragdai lleol. Na, doedd yno yr un enaid byw yn siarad Cymraeg yn y dafarn ar wahân i ni. Acenion canolbarth Lloegr gafwyd gan rhywrai yn trafod eu bywyd carwriaethol ger y bar a rhai eraill mwy ffroenuchel wedi bod yn bwyta yn y bwyty gerllaw.
Roedd Dan Morris ar ei orau y noson honno. Alawon yn chwyrlio a’n fflio, harmoneiddio jigs a rîls ar eu hyd ar gyflymder gwyllt a’r canu mor swynol nes… wel, nes i ddim byd ddigwydd. Roedd hi’n amlwg bod sesiwn werin Gymraeg yn beth dieithr yno. Er, dywedodd y lletywr wrth i ni ymadael y dylen alw eto i’r ‘folk evening’ a drefnwyd yno yn rheolaidd. Dangosodd luniau o rhywun yn canu’r ‘didgeridoo’ ac ambell un arall gyda gitar ar y wal, yr un wal a ddangosai luniau balch o Carlo, darpar frenin Lloegr, yn mwynhau peint yn y Cwmdu.
Bu’n sesiwn a hanner i ddweud y gwir ac efallai bod y diffyg diddordeb gan fynychwyr y dafarn wedi bod yn beth da i ni gan ein bod wedi cael rhwydd hynt i fwynhau’r awyrgylch gerddorol Gymreig.
Bu uchafbwyntiau cerddorol wrth reswm. Rhoddais fy ffôn i recordio am gyfnod ac erbyn hyn mae gen i bron i ddwy awr o recordiad o’r noson. Roedd gan Dan alawon newydd a ganfu mewn hen lawysgrif a bu cryn chwerthin a diddanwch o gyd-ddarllen o lyfr “Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton” yn ôl argraffiad 1593. Yno, yng nghanol cerddi ac anerchiadau go ddifyr roedd “Cywydd i’r Bel Droed” a gyhoeddwyd yn 1575 gyda’r diweddglo hyfryd:
“gwneiff dedwydd yn gelfydd gall“
Pel droed yn 1575! Pwy fyddai’n meddwl!
Ond roedd uchafbwynt hwy i ddod. Tua unarddeg o’r gloch, a hithau’n dywyll fel y fagddu tu allan derbyniais gennad i fynd allan i’r nos i sefyll am funud. Wedi gwrthod ambell waith gan gredu mai strytyn neu dynnu coes oedd bwriad y gwahoddwr, euthum allan a rhyfeddu. Aeth munud yn hanner awr o syllu at y sêr. Er i mi gael fy magu yng nghefn gwlad Cymru a chysgu sawl noson mewn man tywyll a gwledig, ni welais erioed y fath wybren serog o’r blaen. Roedd y miloedd ar filoedd o sêr a sawl seren wîb yn iasol a dychrynllyd, yn wefreiddiol ac yn codi ofn yr un pryd. Daeth rhyw deimlad rhyfedd drosta i fel petai’r gofod yn rhywbeth 3D a bron na allwn estyn fy llaw a chyffwrdd y sêr gan eu bod mor glir. Doeddwn i ddim am adael y fan a gallwn fod wedi sefyll yno’n synfyfyrio am oriau lawer.
Siom oedd yr awyrgylch Saesneg a Seisnig yn Nhafarn Cwmdu ac ni fydd brys dychwelyd am sesiwn, er i mi fwynhau y gerddoriaeth a’r noson gyffredinol. Bydd rhaid ceisio tafarn mwy Cymreig i gyd-ganu gyda Dan a Claudine i’r dyfodol. Ond wrth deithio am adref y noson honno gwyddwn y byddwn yn dychwelyd rhyw dro gyda’r plant fel eu bod hwythau yn cael y cyfle i werthfawrogi sêr y nen yn gwenu fel na welais i erioed o’r blaen.
Dyma un o’r sesiynau gorau yng Nghymru erbyn hyn yn fy marn i. Nid yw’n sesiwn reolaidd ac nid oes dyddiadau cadarn, ond mae’nt yn digwydd yn achlysurol ac mae’n werth ceisio’r dyddiadau os oes diddordeb mewn diwylliant gwerin gennych.
Mae Felindre ei hun yn le rhyfeddol, hardd a hyfryd hefyd. Yno, nid nepell o Abertawe, yn wir nemawr 7 milltir o ganol Abertawe, mae rhywun yn sefyll mewn pentref Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru. Mae gwŷr a gwragedd lleol y dafarn yn sgwrsio’n Gymraeg a’r hwyliau yn hollol Gymreig.
Cyrhaeddodd pawb yn ling-di-long braidd. Daeth Aneirin a’i ffidil i’n llonni a bu cryn hwyl ar ei anniddigrwydd dechreuol, ond cododd yr hwyliau, llowciwyd cwrw ac ymunodd Aled bach â ni. Roedd Aled, yn tua tair oed wedi cael gafael ar ukelele ac yn sefyll o’n blaenau tra roedden ni’n chwarae ac yn gwneud sioe fawr o sefyll fel Elvis a gwneud melinau gwynt gyda’i fraich tra’n strymian i gydfynd â’r gerddoriaeth.
London Pride a chwrw Aur o gyffiniau Abertawe oedd i’w fwynhau yn y Sheps y noson honno ac yno y datblygodd teimlad meddw braf hwyliog o ganol prynhawn tan tua 7 o’r gloch. Mae’r sheps yn le perffaith am sesiwn o dan reolaeth gan bod yn rhaid ymadael am 6.30pm a rhaid i’r gerddoriaeth ddod i ben hefyd gan bod cwsmeriaid am gael eu lle yno i fwyta wedi hynny. Rhaid yw teithio yn ôl wedyn i Dreforys neu Abertawe i gael mwy o hwyl!
Yn y Sheps roedd llond trol o gerddwyr Clwb Cerdded Pontarddulais oedd wedi bod am dro o amgylch yr argaeau yn Felindre cyn dychwelyd lawr i’r Sheps am damaid i’w fwyta a cherddoriaeth werin.
Mae tafarnwr y Sheps yn rhoi bwyd a chwrw i’r cerddorion, a’r tro hwn, yn dilyn y cwrw a’r canu, daeth y cynig o gawl i hoeni’r galon. Aeth rhai ati i’w fwyta tra roedd eraill am ddal ati i yfed a chanu am ychydig. Erbyn i’r rheiny fynd ati i fwyta eu cawl daeth yn amlwg bod un o’r bechgyn, yn ei gwrw, wedi bwyta cawl y cerddorion eraill i gyd. Roedd wedi llowcio 5 powleniaid o gawl! Nid oedd yn ŵr poblogaidd y noson honno.
Efallai na wnaeth y gerddoriaeth hedfan go iawn y diwrnod hwn, mae angen bod yn onest a chydnabod nad yw hynny’n digwydd bob tro. Ond bu hwyl, llawer iawn ohono, ac mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at brynhawn arall yn y Sheps.