Braf yw cael ymweld â thafarndai gwahanol ledled Cymru i gael canu a chwarae sesiwn wrth lymeitian ambell beint o gwrw. Bu Dan Morris yn sôn ers tro am dafarn y Cwmdu gan ei fod yntau’n byw yng nghyffiniau Llandeilo.
Felly, gyda Dan a Claudine (dau ffidlwr o fri) aeth Gareth Rees a minnau rhyw nos Sadwrn braf o wanwyn oer yn 2015 draw i’r dafarn gyda’n ffidlau a’n mandolinau yn barod.
Mae’r dafarn, sydd mewn man hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gâr nid nepell o Dalyllychau, ar lan afonig fechan sy’n canu’n sionc wrth gerdded ati. Saif yr adeilad yn union fel ag y byddai wedi sefyll yn gadarn rhai canrifoedd yn ôl yng nghanol teras. Y noson honno roedd awyrgylch ar y ffordd at y dafarn yn union fel y dychmygwn y byddai pentrefi Cymru i gyd wedi bod yn ystod 40au’r ugeinfed ganrif. Dim sŵn moduron a plant yn chwarae pel-droed ar ganol yr heol.
Ond, Saesneg oedd iaith y plant.
Tu mewn i’r dafarn daw hud y lle’n amlwg. Hen dafarn na newidiwyd ers degawdau lawer. Y bar bychan yn fwy o dwll yn y wal a’r cyrfe a’r seidrau gan fragdai lleol. Na, doedd yno yr un enaid byw yn siarad Cymraeg yn y dafarn ar wahân i ni. Acenion canolbarth Lloegr gafwyd gan rhywrai yn trafod eu bywyd carwriaethol ger y bar a rhai eraill mwy ffroenuchel wedi bod yn bwyta yn y bwyty gerllaw.
Roedd Dan Morris ar ei orau y noson honno. Alawon yn chwyrlio a’n fflio, harmoneiddio jigs a rîls ar eu hyd ar gyflymder gwyllt a’r canu mor swynol nes… wel, nes i ddim byd ddigwydd. Roedd hi’n amlwg bod sesiwn werin Gymraeg yn beth dieithr yno. Er, dywedodd y lletywr wrth i ni ymadael y dylen alw eto i’r ‘folk evening’ a drefnwyd yno yn rheolaidd. Dangosodd luniau o rhywun yn canu’r ‘didgeridoo’ ac ambell un arall gyda gitar ar y wal, yr un wal a ddangosai luniau balch o Carlo, darpar frenin Lloegr, yn mwynhau peint yn y Cwmdu.
Bu’n sesiwn a hanner i ddweud y gwir ac efallai bod y diffyg diddordeb gan fynychwyr y dafarn wedi bod yn beth da i ni gan ein bod wedi cael rhwydd hynt i fwynhau’r awyrgylch gerddorol Gymreig.
Bu uchafbwyntiau cerddorol wrth reswm. Rhoddais fy ffôn i recordio am gyfnod ac erbyn hyn mae gen i bron i ddwy awr o recordiad o’r noson. Roedd gan Dan alawon newydd a ganfu mewn hen lawysgrif a bu cryn chwerthin a diddanwch o gyd-ddarllen o lyfr “Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton” yn ôl argraffiad 1593. Yno, yng nghanol cerddi ac anerchiadau go ddifyr roedd “Cywydd i’r Bel Droed” a gyhoeddwyd yn 1575 gyda’r diweddglo hyfryd:
“gwneiff dedwydd yn gelfydd gall“
Pel droed yn 1575! Pwy fyddai’n meddwl!
Ond roedd uchafbwynt hwy i ddod. Tua unarddeg o’r gloch, a hithau’n dywyll fel y fagddu tu allan derbyniais gennad i fynd allan i’r nos i sefyll am funud. Wedi gwrthod ambell waith gan gredu mai strytyn neu dynnu coes oedd bwriad y gwahoddwr, euthum allan a rhyfeddu. Aeth munud yn hanner awr o syllu at y sêr. Er i mi gael fy magu yng nghefn gwlad Cymru a chysgu sawl noson mewn man tywyll a gwledig, ni welais erioed y fath wybren serog o’r blaen. Roedd y miloedd ar filoedd o sêr a sawl seren wîb yn iasol a dychrynllyd, yn wefreiddiol ac yn codi ofn yr un pryd. Daeth rhyw deimlad rhyfedd drosta i fel petai’r gofod yn rhywbeth 3D a bron na allwn estyn fy llaw a chyffwrdd y sêr gan eu bod mor glir. Doeddwn i ddim am adael y fan a gallwn fod wedi sefyll yno’n synfyfyrio am oriau lawer.
Siom oedd yr awyrgylch Saesneg a Seisnig yn Nhafarn Cwmdu ac ni fydd brys dychwelyd am sesiwn, er i mi fwynhau y gerddoriaeth a’r noson gyffredinol. Bydd rhaid ceisio tafarn mwy Cymreig i gyd-ganu gyda Dan a Claudine i’r dyfodol. Ond wrth deithio am adref y noson honno gwyddwn y byddwn yn dychwelyd rhyw dro gyda’r plant fel eu bod hwythau yn cael y cyfle i werthfawrogi sêr y nen yn gwenu fel na welais i erioed o’r blaen.