Tafwyl

Aeth yr haf heibio a daeth mis Medi i’n paratoi ar gyfer yr hydref a’r marwolaeth amryliw.  Sdim byd gwell na noson aeafol i fwynhau pleserau cynnes dynolryw!

Ond cyn iddo ddiflanu o’n cof rhaid sôn rhyw ychydig am brofiad arall ges i eleni.  Euthum i Tafwyl am y tro cyntaf, a dyna beth oedd profiad.  Roedd dros 34,000 o bobl yn yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd dros ddeuddydd ac roedd hon yn teimlo fel gŵyl go iawn, yn rhyw Reading Festival mini neu gyffelyb a’r cyfan yn Gymraeg.  Oedd, roedd tua 90% o’r bobl glywais i’n siarad ar y maes yn siarad Cymraeg hefyd!  Hyfryd.  Roedd y pnawn/nos Sadwrn yn fendigedig.  Cyfle i gael ymlacio gyda pheint yn yr haul tra’n gwylio/gwrando ar Yws Gwynedd, Swnami, Huw M, Gareth Bonello ac ati.  Siwrne fer at y stondinau lu a gwario amser ag arian wrth fwynhau.  Da iawn Menter Caerdydd – gwych!

Wrth gyrraedd, ac o ddiddordeb i gerddor gwerin, roedd hyn yn eich disgwyl:

Bendigedig!  Criw ifanc yn dangos y ffordd yn wych.  Roeddwn MOR falch i mi fynd, os taw dim ond i weld a mwynhau y rhain yn unig!  Ardderchog!

Diolch am drefnu griw Caerdydd.  Byddaf yno eto’r flwyddyn nesaf.

Hamddena

Bu diwedd Awst yn gyfnod prysur o hamddena caled.  Anodd yw gorfod mynd i fwynhau!  🙂

Yn ystod y cyfnod hwn bu sawl profiad ac aml i gyfnod hwyliog.  Dyma rai ohonynt.

Bu’r gwyliau yn gyfnod o deithio o Amsterdam i Cologne i Frwsel, Waterloo ac yna Paris.  Yno yn Paris ar y Metro cefais gyfle i fwynhau’r gŵr hwn yn mynd drwy’i bethau.  Mae gen i Ffrangeg safon Lefel A (neu felly oedd hi, ond mae’n gwaethygu gyda diffyg ymarfer), ond cefais drafferth mawr deall hwn.  Cefais wybod bod rapwyr Marseille a Paris yn defnyddio rhyw iaith Greolaidd newydd sydd yn llawn verlan Ffrengig wedi ei gymysgu gydag Arabeg.  Ta waeth am hynny, roedd e’n ysgubol.

Nid rapio’n unig fu hanes y daith hon.  Bu’n rhaid wrth ymweliad â’r Acoustic Music Company yn Brighton i gael mwynhau cwmni ambell i fandolin ryfeddol.  Yn y fan hyn mae 4 wal sydd yn gyffelyb i hon:

Acoustic Music Company

Roedd mandolinau gwych o bob math yno.  Y mwyafrif helaeth o gyfandir yr Amerig a’r prisiau yn ddychrynllyd braidd. Cefais y profiad hyfryd o ganu mandolin oedd yn werth dros £17k!  Ac oedd, roedd hi’n swnio’n grêt.  Yno hefyd roedd un fandolin fach hyfryd las gan Rigel (yngenir yn yr un modd a’r enw bachgen Nigel).  Fe’i gwelir yn fan HYN, y fandolin gyntaf ar y ddalen – ac mae’n las!  O Mam Bach!  Sôn am offeryn hyfryd i’w chwarae!  Y sain yn hollol fendigedig a’r offeryn yn teimlo’n iawn ac yn edrych yn wych.  Trueni na fyddai gen i ddwy fil a hanner i’w sbario!

Lle rhyfedd yw’r Acoustic Music Company.  Mae’n go debyg na fyddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n cerdded heibio fawr callach ei fod yn bodoli.  Mae gitarau go fendigedig yno hefyd, ond nid oedd amser i wario’n edrych ar y rheiny.

ACM Brighton

Bu cyfle da am gwrw neu ddau ar fy nheithiau hefyd.  Nid yw enw da y Belgiaid am gwrw yn un gwirion a daeth cyfle i fwynhau sawl math gwahanol gyda fy nghyfaill, Chris sydd yn byw yn Waterloo.  Roedd hwn yn un o’r goreuon:

Mynach

A chyda’r cwrw daeth platiad o giwbiau o gaws gyda dips mwstard a phupur hallt.  Hyfryd iawn dros ben.  Rhywbeth i gynhesu’r galon.

Ni chefais lyfu fy nghlwyfau’n hir yn ôl yng Nghymru.  Roedd gŵyl gwrw Abertawe dros y penwythnos a bu’n rhaid ymweld â honno gyda hogia ni.  Dean, Paul, a’r Eos.  Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gyflym ddatblygu blas am gwrw chwerw (chwerw go iawn) gyda hopys cryf.  Mae Cwrw Celt o Gaerffili yn unigryw, blasys a da.  Joio!20150829_174923

Awn yn ôl cyn bo hir at sesinau gwerin yr hydref.  Wyt ti’n barod?

Tŷ Tawe, Abertawe 14 Awst 2015

Bu Gareth Rees a John Davies yn arwain criw i greu bar newydd ar lawr gwaelod Tŷ Tawe ers rhai wythnosau ac er nad yw’n barod go iawn eto, roedd hwn yn gyfle ardderchog i ystyried addasrwydd y lle ar gyfer sesiwn werin.

Gosodwyd bar newydd pren, casgen gwrw tu ôl iddi, silffoedd pren a phren ar hyd y waliau, yn ogystal â haenau newydd o baent i sicrhau awyrgylch mwy werinol tafarn. Yno mae bwrdd dartiau hefyd a chyn bo hir bydd dodrefn newydd hefyd.

I’r awyrgylch newydd arbennig hwn daeth cerddorion i fwynhau a thaflu alawon i’r awyr gan adael iddynt hedfan fry. Daeth criw da ynghyd o gerddorion a gwrandawyr i lenwi’r dafarn. Sara, Geraint, Jacob, John, Caradog, Aneirin, Eos, Nuw, Michal, a minnau. Daeth Eleri Gwilym o’r Sgeti hefyd a chanu cân neu ddwy yn hyfryd, er nad oedd yn arddull draddodiadol werinol efallai.

Yna bu alawon ar aden a chaneuon yn morio’n donnog gyda’r criw cyfan yn ymuno. A chafwyd tawelwch persain ar gyfer canu sych Eos Hirwaun a chanu gwyllt ar adegau eraill.

Roedd y cwrw yn wych, cwrw 3 Cliffs Bay gan Gwmni Bragu Abertawe.

Noson ardderchog. Bydd y dafarn newydd hon yn gaffaeliad! 🙂

Telynor

Sesiwn yng Nghymru

Bu lansiad swyddogol Sesiwn yng Nghymru yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar bnawn Sadwrn y Sesiwn Fawr (18/7/2015) ac fe aeth y cyfan rhagddo yn gampus.  Bu nifer dda yn mwynhau’r gerddoriaeth, darlleniadau, a’r barddoniaeth.

Roedd hi’n drueni bod dau ddigwyddiad o’r un naws yn digwydd yr un pryd gyda Gwilym Bowen Rhys yn arwain criw drwy alawon gwerin yn yr ystafell drws nesaf:

IMG-20150718-WA0021

Ac roedd y cyfan yn ormod i ambell un ar ddechrau’r lansiad!

IMG-20150718-WA0023

Ond bu hwyl a miri am dros awr dda.  Gan mai fi oedd wrth wraidd y cyfan dwi ddim am roi beirniadaeth yn fan hyn (hunan-glod yn beth rhyfedd), ond rhof sawl fideo i chi gael blas o’r hyn a fu.  Bwriedir lansio eto yn Abertawe tua mis Medi/Hydref, felly os hoffech fod yn ran o’r hwyl – cadwch olwg ar y wefan hon!

IMG-20150719-WA0001

Sesiwn Fawr Dolgellau

Bu’r Sesiwn Fawr yn Nolgellau unwaith yn rhagor a braf yw gweld bod yr ŵyl yn dychwelyd at ei gwreiddiau gwerinol.  Roedd ambell sesiwn werin o amgylch y dref a’r rheiny yn rai da iawn.  Bu un yng ngardd gefn y Stag a bu’r gerddoriaeth yn hedfan am gyfnod yn ystod y pnawn.  Erbyn oriau mân y bore roedd rhagor wrthi tu allan i’r Torrent.

Grêt oedd gweld hyn.  A minnau heb fod i’r Sesiwn Fawr ers sawl blwyddyn dwi’n go siwr y byddaf am fynd blwyddyn nesaf.

Bu nifer dda o gwmpas y lle ac, er nad oedd y degau o filoedd wedi tyrru fel ag a fu ers talwm, roedd yr awyrgylch yn wych a’r gigs yn llawn yn y 7 llwyfan.

Dyma Lisa Jên a Jarman yn rhoi sioe i’r dorf.  Joiwch:

Bandana yn Ysgol Bryntawe

Wel, dyna i chi newyddion i godi’r galon.  Bu Bandana yn gwneud gig yn Ysgol Bryntawe ar ddiwrnod ola’r flwyddyn academaidd eleni.  Mae hynny ynddo’i hun yn beth gwych.  Ond gwyliwch yr ymateb rhagorol.  Bendigedig!

Da iawn Bandana a’r Ysgol a phwy bynnag arall fu’n trefnu.

Gyda llaw – dim syniad pam fo’r dyddiad ar hwn ym mis Mehefin!  Y dyddiad heddiw yw 17/7/2015!

Maelog

Does dim llawer o lefydd gwell i ganu na mewn gŵyl fwyd.  Yno mae’r gynulleidfa yn werthfawrogol gyda llond bol o fwyd a diod ac mi gaiff y band gyfle i hel eu boliau wedyn!  Dwi’n gwybod o brofiad personol!  🙂

Felly, da oedd gweld, ynghanol grwpiau Americanaidd lu (a’r cyfan oll o Gaerdydd) bod grŵp Cymraeg/Galisiaidd yn canu yn y bae.  Hwrê!  Yr iaith Gymraeg i’w chlywed yng nghanol Caerdydd a’r miloedd yno’n gynulleidfa barod.  Os na aiff y bobl at gerddoriaeth Gymraeg mae’n rhaid i gerddoriaeth Gymraeg fynd at y bobl…

Eisteddais gyda sudd oren a rol lysieuol o ryw fath tra’n gochel rhag y glaw mewn pabell fawr a gwylio a gwrando ar Maelog / Maelog.  Wyf roc a rol!  😦

Fe wyddoch, os y cawsoch gyfle i ddarllen Sesiwn yng Nghymru erbyn hyn, nad ydw i’n gefnogwr brŵd i’r pibau Cymreig aflafar, ac yn anffodus dwi’n teimlo’r un peth at y pibau o Galisia.  Felly, nid oedd llawer o hwyliau arna i ar gyfer gwrando ar sgrech y rhain.  Ond ar yr un pryd dwi’n gwybod yn iawn bod Dan Lawrence, Rhian Jones a Gareth Westacott yn gerddorion heb eu hail.  Roedd mwy nag un ffidil heddiw a’r ddwy yn hedfan gyda’i gilydd.

Braf oedd cael mwynhau cerddoriaeth o safon yn y bae yng Nghaerdydd.  Roedd Maelog yn wych.  Prin yw’r alawon swynol hyfryd – alawon dawns sydd i’w cael yma a’r rheiny yn llawn bywyd ac asbri.  Mae’r cerddorion oll i gyd yn ardderchog a’r grŵp yn well fyth pan fo’r pibau yn rhoi lle i’r chwibanoglau.  I ddweud y gwir, roeddwn i wrth fy modd yn gwrando.  Daeth cân neu ddwy hefyd, Brethyn Cartref yn llawn hwyl a’r drwm mawr yn taflu’r holl le i fyd gwerin gwirion gwych.  Ambell i gân ac alaw Gymreig bob yn ail ag alawon o Galisia, ac mae’r cyfan yn gweithio i’r dim.

Os am hwyl gwerinol ewch i wrando ar Maelog cyn gynted ag y bo modd.

Dilynwch hwy ar y Trydar YMA i ganfod ymhle maent yn canu nesaf.

Anhrefn?

Amser cinio dydd Sul yn Abertawe yng nghanol haf a’r glaw yn tywallt i lawr does dim rhaid meddwl yn hir am ble i fynd – Galerie Simpson a sgwrs gan Rhys Mwyn ar ‘Counter Culture‘!

Mae’r Stryd Fawr yn Abertawe wedi bod ar i lawr ers degawdau, nid yno mae’r siopau poblogaidd, nid yno mae’r torfeydd yn tyrru na’r bwytai a’r tafarndai sy’n denu’r byd ifanc.  Ond yn ddiweddar, dros y ddwy flynedd ddiwethaf daeth ychydig o dro ar fyd a hwnnw nid o dan nawdd llywodraeth na chyngor, ond drwy law artistiaid, cerddorion, arlunwyr, theatrau ac orielau newydd

Yno daethant â’u horielau, theatrau (gyda chymorth yr Evening Post), a gweithdai cerddorol a gweithdai arlunwyr.  Na, nid yw’r lle wedi ei drawsnewid, ond mae ‘na deimlad gwahanol i’r lle a does dim rhaid dychmygu’n ormodol i weld y gallai’r Stryd Fawr ddatblygu’n ganolfan gelfyddydol newydd i Abertawe.

A heddiw, i ganol byd hanner dirwasgedig a hanner celfyddydol Stryd Fawr Abertawe daeth Rhys Mwyn i’n harwain ar daith seicoddaearyddol ar draws Cymru o’r Rhufeiniaid at y tywysogion Cymreig a thrwy’r chwyldro pync i S4C ddi-ddiwylliant, YouTube di-Gymraeg ac at yfory ble ceir gemau cyfrifiadurol treisgar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid wyf am wenieithu, ond byddai’n annheg ysgrifennu’r llith hon heb gydnabod dylanwad Rhys Mwyn a’r Anhrefn arnaf yn fy ieuenctid. Y nhw, yn anad neb arall, ddaeth a gwleidyddiaeth a chymdeithaseg ddealladwy a pherthnasol i fy myd, o gerddoriaeth wahanol i ‘anti-vivisection’, i’r ‘Anti-fascist Action’, i fwyta’n llysieuol, i sosialaeth a sylweddoli lle’r Gymraeg yng Nghymru yfory.

Yn Galerie Simpson a’u harddangosfa o waith Jamie Reid roedd cloriau recordiau, arlunweithiau, a phosteri oedd yn ymwneud â’r Sex Pistols, yr Anhrefn ac ambell sefydliad arall o’r byd pync.  Ac yn uchafbwynt i’r cyfeiliant gweledol roedd Rhys yn trafod y byd a’i bethau archeolegol, chwyldroadol a gwleidyddol.

Mae Rhys Mwyn yn siaradwr naturiol apelgar, yn diddanu, syfrdanu a cellwair ar yr un pryd ac, er ei bod yn anodd dilyn trywydd unffurf i’r sgwrs, mae’n ddifyr tu hwnt a byddai’n anodd iawn rhagori arno.  Y siaradwr gwâdd pync.  Ni chytunais a phob dim ddywedwyd, ond dyna’r pwynt mae’n debyg, cyfle i Rhys gael dweud ei ddweud ac i ni wedyn ystyried, myfyrio a thrafod.  Ysgogol.

I gynulleidfa o fwyafrif llethol o siaradwyr Saesneg llwyddodd i gynnal y Gymraeg yn ran hanfodol o’r digwyddiad yn naturiol iawn ac mae hynny’n beth clodwiw dros ben.

Nid oedd y bwyd yn ran o’r ‘counter-culture’ ac wedi cegiad o gaws haloumi, bara pitta, tomato a quiche, daeth yn amser ffarwelio a dychwelyd i’r beunyddiol.  Da oedd yr ysbaid o fyfyrio chwyldroadol.

Anhrefn dros Gymru!

Cymru V Belg

Cymru V Belg

Weithiau’n unig y digwydd – aliniad
Pob planed yn gelfydd
 ffawd, gan godi ein ffydd
A’n llenwi â llawenydd.

Oeddwn.  Roeddwn i yno.  Canais gyda’r dorf, bloeddiais, cynhyrfais a dathlais.  Roedd tîm Cymru yn arwrol a’r cyfan yn creu awyrgylch wefreiddiol.

Felly, pa gemau eraill sydd wedi rhoi awyrgylch o’r fath i ni?  Dyma’r rhai wnes i eu mwynhau dros y saith mlynedd ar hugain diwethaf.  Bum mewn dros gant o gemau Cymru (llond dwrn yn unig dramor, ond mae’r rheiny bob amser yn well ac heb eu cynnwys yma), ond dyma’r rhai roddodd awyrgylch wych:

Cymru v Sbaen (1989) – ar y Cae Ras.  Hollwych!

Cymru v Almaen (1991) – y gôl yna gan Ian Rush ac arwriaeth Southall!

Cymru v Romania (1994) – roedd yr awyrgylch cyn y gêm yn hollol drydanol.  Anghofiwn ni’r canlyniad.

Cymru v Eidal (2003) – Bellissimo!  Hon oedd yr un orau i mi.

Cymru v Rwsia (2004) – colli yn ymyl y lan go iawn, ond sôn am awyrgylch wych cyn y gêm!

Cymru v Gogledd Iwerddon (2011) – y tensiwn rhwng y cefnogwyr cyn y gêm yn hollol annisgwyl wrth i gefnogwyr Cymru rwygo baneri jac yr undeb cefnogwyr Gogledd Iwerddon i lawr.

Felly, sut oedd Cymru v Belg (2015) yn cymharu o ran awyrgylch?  Mae’n ddifyr nad oes gêm Cymru v Lloegr yn y rhestr, ond er i mi fynd i sawl un o’r gemau hynny nid oes yr un ohonynt y gallwn ddweud bod awyrgylch gwych (na drwg) cyn y gêm.

Bu cryn drin a thrafod yn y cyfryngau cyn y gêm v Belg ac roedd y tensiwn yn codi bob munud.  Ond allwn i ddim dweud bod yno awyrgylch drydannol na gwych o flaen y gêm.  Roedd hi’n go dawel tu allan i’r stadiwm ac efallai mai gêm nos Wener oedd yn gyfrifol am hynny a phobl yn cyrraedd ar ôl diwrnod o waith.  Ta waeth, roedd tu mewn i’r stadiwm yn fyd arall.

Ni wnaeth cefnogwyr Belg yr un math o sŵn a thro diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl â’u baner Gary Speed, ac roedd yr anthem genedlaethol yn wirioneddol wych.  Diolch i Sophie Evans am arwain mor dda.  Bu canu tros-ffiniau clwb gyda’r holl dorf yn mwynhau ‘Hymns and Arias’ (cân y Swans fel arfer) yn ogystal â Gwŷr Harlech, ‘Zombie Nation’ a ‘Cant’ Take My Eyes Off You’ ac yna, ugain mund cyn diwedd y gêm daeth y trobwynt o ran awyrgylch pan arweiniodd y Barry Horns y dorf i ganu’r anthem genedlaethol a’i ail-tharo ac yna ei chanu eto cyn y diwedd.

Dyna drobwynt na brofais cyn nos Wener.  Roedd yr effaith ar y chwaraewyr yn amlwg, ar y ddau dîm.  Fe glywir weithiau bobl yn sôn am wallt eich gwar yn codi a chroen gŵydd, y tro hwn roedd hynny’n ffaith.  Ni allai neb oedd yno fod wedi methu profi’r ias.

Felly, pa wahaniaeth wna hyn oll i Gymru oddi ar y maes pel-droed?  A fydd hyder Cymry yn codi yn yr un modd â’r tîm cenedlaethol?  Efallai, efallai… efallai y cawn dystiolaeth gadarn o hynny.  Os gyrhaeddith tîm Cymru y bencampwriaeth yn Ffrainc diddorol fydd gweld a fydd unrhyw ddylanwad ar arferion pledleisio pobl Cymru yn etholiad Senedd Cymru yn 2016.