Noson arall yn nhafarn Tŷ Tawe, ond y tro hwn, noson go dawel. Criw bychan iawn ddaeth draw i fwynhau Tudur Owen, Caryl Parry Jones ac eraill yn gwamalu am rygbi, cwpan rygbi y deunaw gwlad, a rhagor o rygbi.
Roedd hi’n hwyl cael clywed ffraethni naturiol Caryl a Tudur ac roedd hi’n grêt bod radio Cymru wedi dewis Tŷ Tawe ar gyfer nos Lun a chomedi, ond rhywsut rhywfodd doedd y rhaglen ddim yn gweithio i ni fel cynulleidfa fyw.
Mae ateb posibl i’r peth – cynnig cyfle i’r gynulleidfa roi ambell i sylw. Byddai hynny’n gwneud yr holl raglen yn fwy ‘byw’ ac yn ei wneud yn fwy o hwyl i bawb.
Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015? Sut aeth hi? Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?
Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:
Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr. Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu. Joio! 🙂
Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf. Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw. Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.
Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!
Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi. Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.
Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle. Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd? Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.
Hyfrydwch pur oedd cael mwynhau ym mar newydd Tŷ Tawe neithiwr a hwnnw’n orlawn ar gyfer Steffan Alun ac Ellis James a’u comedi gwefreiddiol.
Tra fod y ddau gomediwr yn dod o’r de orllewin, mae Steffan Alun yn ŵr o Abertawe a’i hiwmor yn lleol, ffraeth, digri a doniol. Mae’n anodd, mae’n siŵr, i gynhesu cynulleidfa ar gyfer comediwr arall, ond llwyddo wna Steffan Alun yn rhwydd gan lithro’n rhugl o dynnu coes coeglyd ar ryfeddu at Gymreictod S4C.
Yna daeth Ellis James. Mae’n gomediwr naturiol, profiadol ac aeddfed a’i ddigrifwch yn boenus ar adegau. Pwy wnaiff fyth anghofio’r ddelwedd ohono’n dawsnio yng Nghaerdydd mewn gig llawer rhy cŵl i fachgen o’r gorllewin, neu wedyn yn ddiamddiffyn mewn gig yng nghefn gwlad Ceredigion. A dychmygwch y partion a fu pan ymwelodd Ffrancwyr â phobl ifanc Caerfyrddin rhai blynyddoedd yn ôl. Does dim angen dweud mwy mae’n siwr. Chwerthin, hwyl, Cymreictod naturiol, a chwmni da.
Dyma awgrym o’r hyn sydd i ddod a dwi’n amau bod rhagor i ddod yng Nghlwb Comedi Tŷ Tawe.