Sesiwn yng Nghymru

Bu lansiad swyddogol Sesiwn yng Nghymru yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar bnawn Sadwrn y Sesiwn Fawr (18/7/2015) ac fe aeth y cyfan rhagddo yn gampus.  Bu nifer dda yn mwynhau’r gerddoriaeth, darlleniadau, a’r barddoniaeth.

Roedd hi’n drueni bod dau ddigwyddiad o’r un naws yn digwydd yr un pryd gyda Gwilym Bowen Rhys yn arwain criw drwy alawon gwerin yn yr ystafell drws nesaf:

IMG-20150718-WA0021

Ac roedd y cyfan yn ormod i ambell un ar ddechrau’r lansiad!

IMG-20150718-WA0023

Ond bu hwyl a miri am dros awr dda.  Gan mai fi oedd wrth wraidd y cyfan dwi ddim am roi beirniadaeth yn fan hyn (hunan-glod yn beth rhyfedd), ond rhof sawl fideo i chi gael blas o’r hyn a fu.  Bwriedir lansio eto yn Abertawe tua mis Medi/Hydref, felly os hoffech fod yn ran o’r hwyl – cadwch olwg ar y wefan hon!

IMG-20150719-WA0001

Plu a Kizzy Crawford

Prynhawn Sul yn y Sesiwn Fawr yn Nolgellau a chael dadebru tra’n mwynhau lleisiau hamddenol a chaneuon swynol Y Plu yn Nhŷ Siamas.  Roedd y neuadd yn orlawn a rhai’n methu dod i mewn hyd yn oed.

Dwi wrth fy mod gyda Gwilym Bowen Rhys yn ein harwain drwy caneuon ac alawon gwerin, mae’n orchestol yn aml, ac mae’r Bandana yn rocars o fri.  Ond dwi ddim cweit mor hoff o’r Plu.  Ychydig yn rhy ‘neis’ i mi efallai?  Mae’n swnio weithiau fel noson lawen o’r 70au!

Ar y llaw arall roedd Kizzy Crawford yn wirioneddol wych.  Yn dweud y pethau iawn, yn sefyll ac yn edrych yn iawn, yn canu’n wych ac yn llawn hyder rhyfeddol.  Dyma ddawn ar dwf go iawn.  Fe’i gwelais yn canu ddiwethaf ym Merthyr Tydfil mewn rali Cymdeithas yr Iaith, ond yn y ddwy flynedd a fu bu trawsnewid.  “Dwi newydd gyrraedd yn ôl o ganu yn yr Almaen ac roedd hynny’n cŵl, ond ddim mor cŵl a chanu yn Nolgellau heddiw” meddai hi… Dyna sut mae sicrhau cefnogaeth y dorf fawr hon!  Kizzy CrawfordHollwych.

Kizzy o Bell

Maelog

Does dim llawer o lefydd gwell i ganu na mewn gŵyl fwyd.  Yno mae’r gynulleidfa yn werthfawrogol gyda llond bol o fwyd a diod ac mi gaiff y band gyfle i hel eu boliau wedyn!  Dwi’n gwybod o brofiad personol!  🙂

Felly, da oedd gweld, ynghanol grwpiau Americanaidd lu (a’r cyfan oll o Gaerdydd) bod grŵp Cymraeg/Galisiaidd yn canu yn y bae.  Hwrê!  Yr iaith Gymraeg i’w chlywed yng nghanol Caerdydd a’r miloedd yno’n gynulleidfa barod.  Os na aiff y bobl at gerddoriaeth Gymraeg mae’n rhaid i gerddoriaeth Gymraeg fynd at y bobl…

Eisteddais gyda sudd oren a rol lysieuol o ryw fath tra’n gochel rhag y glaw mewn pabell fawr a gwylio a gwrando ar Maelog / Maelog.  Wyf roc a rol!  😦

Fe wyddoch, os y cawsoch gyfle i ddarllen Sesiwn yng Nghymru erbyn hyn, nad ydw i’n gefnogwr brŵd i’r pibau Cymreig aflafar, ac yn anffodus dwi’n teimlo’r un peth at y pibau o Galisia.  Felly, nid oedd llawer o hwyliau arna i ar gyfer gwrando ar sgrech y rhain.  Ond ar yr un pryd dwi’n gwybod yn iawn bod Dan Lawrence, Rhian Jones a Gareth Westacott yn gerddorion heb eu hail.  Roedd mwy nag un ffidil heddiw a’r ddwy yn hedfan gyda’i gilydd.

Braf oedd cael mwynhau cerddoriaeth o safon yn y bae yng Nghaerdydd.  Roedd Maelog yn wych.  Prin yw’r alawon swynol hyfryd – alawon dawns sydd i’w cael yma a’r rheiny yn llawn bywyd ac asbri.  Mae’r cerddorion oll i gyd yn ardderchog a’r grŵp yn well fyth pan fo’r pibau yn rhoi lle i’r chwibanoglau.  I ddweud y gwir, roeddwn i wrth fy modd yn gwrando.  Daeth cân neu ddwy hefyd, Brethyn Cartref yn llawn hwyl a’r drwm mawr yn taflu’r holl le i fyd gwerin gwirion gwych.  Ambell i gân ac alaw Gymreig bob yn ail ag alawon o Galisia, ac mae’r cyfan yn gweithio i’r dim.

Os am hwyl gwerinol ewch i wrando ar Maelog cyn gynted ag y bo modd.

Dilynwch hwy ar y Trydar YMA i ganfod ymhle maent yn canu nesaf.

Sesiwn Tŷ Tawe – Gorffennaf 2015

Pan gyrhaeddais i Tŷ Tawe neithiwr roedd nifer dda o gerddorion yno eisoes yn canu Llongau Caernarfon a’r hwyliau yn codi. Cyfle perffaith felly i griw ohonom esgeuluso’r gerddoriaeth am ychydig i gael gwlychu pig a rhannu jôc neu dri.

Beth wyt ti’n galw dyn sy’n rhoi arian i 7 o bob 10 unigolyn mae’n ei weld? Dimitri…. Meddai Aneirin. Rhyfedd sut gall cwrw wneud i’r jôcs mwyaf hurt i fod yn hynod ddoniol.

Be ti’n galw Groegwr sy’n edrych dros ei ysgwydd drwy’r amser? Troy…

Rhagor o giglan gwirion a chyfle am ddiod bach arall. Dwi’m yn siŵr os yw’r cerddorion yn gwerthfawrogi ein chwerthin. Tybed a oes tarfu?

Agorwyd y cistiau a dechrau. Yno roedd criw bach go daclus, yn enwedig o ystyried bod y Moniars yng ngŵyl y Gwach nemawr 7 milltir i ffwrdd. Daeth ambell un draw ar eu ffordd adref o’r Gwach hefyd. Felly, cerddorion –

Aneirin – ffidil
Chris (Eos) – gitâr ac ambell gân
Huw – chwibanogl
Nigel – telyn deires
John – mandolin
Michal – pibau
John – gitâr Sbaenaidd
Mel – ukulele
Robin – canu
Sylvie – mandolin
A drymiwr ar y tabwrdd hefyd.

O ie! A fi ar y banjo.

Ar ben hynny roedd Catrin tu ôl i’r bar yn lleisio ambell alaw werin hefyd.

Roedd Aneirin yn hedfan a digon o hwyl a’r bwced ar y bar yno i hel £70 at gylch meithrin y Gendros.  Llwyddiant? Ysgubol!

Ond wrth i’r noson fynd rhagddi mae wastad amser am jôc fach arall…

Beth yw triple harp yn Gymraeg? Telyn telyn telyn!

Gŵyl Gwrw Tŷ Siamas

Wedi wythnos o wyliau Pasg gweithgar o gerdded Cader Idris (Llwybr Fox fyny a lawr ar hyd Llwybr Pilin Pwn), Llyn Tegid, Nant y Moch (ar drywydd Brwydr Hyddgen), godre’r Gader a dioddef erbyn diwedd yr wythnos gyda chlunwst, roedd yn rhaid wrth ddiwrnod i ymlacio, a pha well na Gŵyl Gwrw Tŷ Siamas.

Gyda dewis da o gyrfe Cymreig a lleoliad wrth fy modd roedd hi’n braf iawn cael eistedd a sgwrsio gyda hen gyfeillion o Ddolgellau.  Bu cryn newid yn Nhŷ Siamas ac er mai yn y bar oedd y casgenni, yn y neuadd, neu’r hen safle amgueddfa, ac nid yn yr awditoriwm oedd y grwpiau a’r gerddoriaeth.

Y cyrfe i ddechrau felly –

Cwrw Llŷn – Y Brawd Houdini
Bragdy Seren – Cwrw Seren
Bragdy Waen – Pamplemoose
Bragdy Lleu – Cwrw Lleu
Mŵs Piws – Cwrw Ysgawen
Bragdy Mantle – Cwrw Teifi
Cwrw Cader – Cwrw Coch.

Anodd fyddai dewis pa un oedd orau ac efallai mai gwell fyddai peidio ceisio!

Iwan Huws – un o’r Cowbois wrth gwrs, yn canu ei hunan gyda’r gitâr ac yn swynol iawn, os rhywfaint yn dawel ac isel.  Dwi’m yn siwr os y cafodd wrandawiad teg, ond roedd yn gerddoriaeth cefndir swynol a thawel.

Band Arall – Yr hogia lleol yn rhoi cyfle i bawb glywed caneuon ac alawon eu record newydd, Lleuad Borffor.  Mae’r alaw Lliw’r Machlud yn hyfryd wych ac mae’n hynod braf meddwl bod rhywrai (Hefin Jones yn yr achos hwn) yn dal i gyfansoddi alawon dawns yng Nghymru.  Mae nhw’n grŵp gwerin o’r iawn ryw, dim gormod o sglein na sigl roc a rôl, ond hwyl cefn gwlad Meirionnydd yn fyw iawn.

Welsh Whisperer – Roedd hwn yn agoriad llygad!  Â’i lais melfedaidd a’r mwstas yn denu’r merched, prin ei fod yn cael llonydd i ganu!  joio mas draw!

Daeth Traed Moch Môn i’r llwyfan yn hwyrach.  Dychmygwch grŵp hanner Cymraeg a hanner Gwyddelig yn tarannu fel rhwy fersiwn dwyieithog o’r Pogues yn Nhŷ Siamas.  Wel, dyna gafwyd.  Caneuon gwyllt Gwyddelig eu naws megis Wild Rover ac yna caneuon gwerin Cymraeg fel Hen Ferchetan bob yn ail.  I fod yn onest wnes i ddim eu mwynhau yn fawr, ond llwyddasant i gael pawb i ganu Sosban Fach a’i debyg ac mae’n siwr i’r mwyafrif o’r gynulleidfa gael amser da.

Annisgwyl oedd Gwilym Rhys Bowen a’i gyd-gerddor a chyfaill, Elidir, yn canu ar ddiwedd y noson.  Gitâr a ffidil a lleisiau’r ddau yn cytseinio’n wych a’r hwyl naturiol yn fendigedig.  Rhywbeth i’n hatgoffa o ganu Robin Llwyd ab Owain gyda Cilmeri o’r oes a fu.  Roedd hwn yn ddiwedd hollol fendigedig ac wir yn addas i ddod a gŵyl gwrw Tŷ Siamas i ben.

Melys moes mwy.

Sesiwn Nadolig y Queens

Daeth y cyfle unwaith yn rhagor i ddathlu cyfnod y Nadolig a Chalan drwy daro cân yn y Queens, Abertawe.  Un o’r ychydig prin o dafarnau ‘go-iawn’ sydd wedi goroesi yng nghanol y ddinas i fyd yr unfed ganrif ar hugain.  Hen dafarn fawr (ble bu arth) gyda nenfwd uchel a ffenestri mawr hyfryd sy’n caniatau i’r doeth edrych allan ar y byd ac i weddill y byd gael edrych i mewn yn genfigenus o fwyniant moethus a chynnes y dafarn wresog hon.

Ceir awyrgylch gwych yn y dafarn hanesyddol hon bob amser.  Ers talwm roedd yn gyrchfan morwyr pan oeddynt adref yn ymlacio ac, o’r herwydd, roedd merched ifanc (iawn) yn dawsnio ar y bar a Magdaleniaid yn hyrwyddo eu nwyddau.  Byddent yn ysgrifennu eu pris o dan eu hesgidiau ac felly drwy groesi eu coesau gallai’r morwyr weld yn union pa fargen oedd ar gael iddynt.

Roedd tafarn arall gerllaw, a ddiflannodd rai degawdau yn ôl bellach, Gwesty’r Cuba.  Yno roedd rhagor o wragedd yn rhannu eu doniau a bu cryn elyniaeth rhwng y ddwy giwed a ddatblygai ar ambell nos Sadwrn yn ymladdfa ar y stryd!

Ni welir y fath weithgareddau yn y Queens bellach ac, ar wahân i’r lluniau o longau yn y cei o’r blynyddoedd a fu, prin iawn yw’r cof am y y fath ddyddiau.  Tan yn ddiweddar roedd arth fawr wedi ei stwffio yn sefyll ar ei choesau ôl i groesawu ymwelwyr fel porffor ger un o’r mynedfeydd, ond er trueni mawr nid yw’r arth naw troedfedd yno bellach, wedi hir ddafeilio a dioddef enbyd ar draul yfwyr yn gorfodi hetiau, sbectolau haul, diodydd a sigarennau ac ati arno ar hyd y blynyddoedd.

Y Queens Hotel yw’r enw swyddogol ar y lle, er na fu’n westy erioed.  Deil y fath enw (ynghyd â nifer o dafarndai cyffelyb, megis y Manselton Arms yn Abertawe hefyd) mae’n debyg oherwydd bod tafarn ar un adeg yn le pechadurus tra bod gwesty yn le derbyniol gan bawb. Enwyd rhai tafarndai felly yn Westy hyn a’r llall er mwyn peidio pechu rhan bwysig o’r gymuned.

Un o hynodrwydd y sesiwn hon yn y Queens bob blwyddyn yw bod cerddorion yn mynd a dod bob yn un fel ei bod yn fwy na phosibl i un cerddor beidio gweld cerddor arall yn yr un sesiwn!  Y tro hwn, ar ddechrau’r sesiwn roedd gwraig o’r Amerig wedi dod draw gan iddi glywed am fwynhad yn sgil y seiswn y flwyddyn flaenorol.  Roedd ganddi ddiddordeb yn y canu Cymraeg a bu’n disgwyl yn eiddgar ers blwyddyn!  Am un o’r gloch roedd hi yn mwynhau pryd o fwyd tra’n disgwyl dechrau’r sesiwn.  Am ddau o’r gloch roedd hi’n canu’r gitar i gyfeilio’r chwiban dun, ond erbyn tri o’r gloch roedd hi wedi ymadael am ei llety.

Erbyn diwedd y prynhawn roedd oddeutu deg cerddor a’r gerddoriaeth wedi bod yn hedfan am gryn dipyn o amser.  Yn anffodus, amser sydd yn difa popeth a datblygodd y sesiwn yn sesiwn ganu erbyn iddi nosi (llun gan Chris Reynolds).  Aeth un gân yn ddwy a’r ddwy yn ddeg.  Mae’n rhyfedd sut mae Cymry Cymraeg yn ymddangos o’r unlle pan fo sesiwn ganu yn datblygu.  Aeth y gymanfa anffurfiol honno yn ei blaen am beth amser tra llifai’r cyrfe i lonni a thwymo calon pawb dros gyfnod y Nadolig oer hwn.

Llanwrtyd

Bu’r ddefod coffau Cilmeri eleni eto yn brofiad dymunol, er bod tristwch mawr yn sgil colli Gerallt Lloyd Owen, bardd Cilmeri.  Camp fawr oedd teyrnged Geraint Jones (Trefor) a’i weledigaeth deimladwy dros Gymru.

Yn dilyn diwrnod hir aeth criw mawr draw i’r Neuadd Arms, Llanwrtyd i lymeitian, canu gwerin ac aros y nos mewn llety lleol.

Noson lawen a gafwyd, yn hytrach na sesiwn, mewn gwirionedd.  Arweiniodd Geraint (Jacob) Roberts y noson gan wahodd pawb oedd yn yr ystafell (tua 30 ohonom) yn eu tro i gymryd rhan drwy gân, alaw, dawns, datgan jôc, neu adrodd farddoniaeth.  Aeth y noson yn ei blaen yn ddi-fai gydag ambell i berfformiad gwefreiddiol ac yna ambell i jôc ychydig fasweddus…

Gwrandawyd ar ambell i gân werin na chlywir yn aml y noson honno a sawl cân wladgarol, wrth reswm.  Ond, fel a ddigwydd yn rhy aml o lawer, wrth i’r noson fynd yn ei blaen penderfynodd un o gwsmeriaid y dafarn ganu emyn.  Ni welaf unrhyw fai ar hynny, mae gan emyn le yn ein traddodiad gwerin erbyn hyn yn bendant.  Ond y trueni yw bod un emyn yn dueddol o droi’n gymanf ac fe gollir y sesiwn werin am y noson, oni bai bod modd troi’r noson yn ôl rhywsut.  Erbyn i’r ystafell daro nodau cyntaf y drydedd emyn y noson hon roedd o leiaf un unigolyn wedi cael llond bol a cododd yn swnllyd a datgan ei phrotest yn groyw i’r byd – ‘rydych chi’n canu caneuon o draddodiad sydd wedi lladd y diwylliant gwerin Cymraeg’ meddai.

Aeth hi’n dipyn o ddadl wedyn rhwng dau gerddor, dadl unffordd braidd, ond digon i lesteirio ar hwyl y noson a dod a’r cyfan i ben.  Ac felly, wedi digon o ddrachtio a chanu dyma gerdded y canllath byr at y llety.  Llety bync ydoedd ac roedd yn rhaid rhannu ystafell ymolchi rhwng sawl llofft.  Ynghanol nos dihunodd cyfaill (fe’i alwn yn X am y tro) a cheisio’r tŷ bach.  Wedi cwblhau ei fusnes ceisiodd ganfod ei lofft a llwyddo i ddeffro cerddor arall o drwmgwsg.  Yn ffodus canfu ddrws llofft ar agor ac i mewn ag ef a dringo mewn i’r gwely… at gerddor arall!  Cafodd hwnnw’r fath fraw nes iddo weiddi nerth esgyrn ei ben a llwyddo i ddihuno gweddill y llety.  Dyna beth oedd croeso a lletygarwch!

Dychwelwn i Gilmeri eto eleni.