Unwaith bob blwyddyn daw’r cyfle i hedfan ym Mryste. Nos Wener cyntaf bob Rhagfyr mae Gerard Langley, Wotjek a’r criw yn ein hatgoffa pa mor ddawnus a hwyliog y gallant fod.
Daeth The Blue Aeroplanes ynghŷd am y tro cyntaf yng nghanol wythdegau’r ugeinfed ganrif ac wedi ambell i record gelfyddydol ‘wahanol’ daeth y goreuon i darannu drwy recordiau Swagger, Beatsongs, Life Model a Rough Music (yn ogystal â Friendloverplane 2). I mi rhain oedd grŵp y 90au a pery eu gwychder hyd heddiw. ‘The thinking man’s REM’ meddai’r NME amdanynt.
Felly, i ffwrdd a ni, tri ohonom, ar wibdaith i Fryste. Gloddeta fel brenhinoedd, yfed fel na bai yfory, a cherddoriaeth, dawns, celf a barddoniaeth i gadw’r ymennydd yn ddiwylliedig am wythnos ddwy!
Mi gredaf mai fy hoff gân gan y Blue Aeroplanes yw Your Ages – gwrandewch arni tra fy mod i’n gwamalu am y band yn fan hyn.
Drymiwr, 6 gitarydd, dawnsiwr (‘gwahanol’), arlunydd, a Gerard yn adrodd barddoniaeth i gyfeiliant cerddoriaeth wefreiddiol a gwreiddiol. Mae’r cyfan yn llawn egni, swnllyd, hyfryd a cherddorol. Yn y Fleece ym Mryste oedd y cyfan, a’r cyfanwaith yn fwy na hyn oll.
Bu sawl awr wedi’r gig hefyd o deithio o dafarn i dafarn a chael mwynhau ambell ddawns ac ambell beint bach. Hyfryd!
Os y byddaf yma flwyddyn nesaf mi fyddaf, eto, yn teithio tua Bryste i fwynhau The Blue Aeroplanes.