Cilmeri 2015

Poni welwch chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch chwi’r deri’n ymdaraw?

Nid oedd y tywydd yn ffafriol o gwbl eleni gyda’r gwynt a’r glaw’n hyrddio drwy’r coed ac yn ddychrynllyd ddrycinog.

Er hynny, daeth dros gant a hanner i Cilmeri i gofio ac i ystyried yr her i’r dyfodol eleni.

Yn y bore aeth criw o thua 45 i Eglwys Llanynis i wrando, canu, a myfyrio.  Dyna i chi beth yw profiad ysbrydol a rhyfeddol.  Mae’n wahanol bob blwyddyn, ond deil yr awyrgylch yn wastad.  Yr unig drueni yw nad yw’r person plwy yn gallu siarad llawer o Gymraeg ac, felly, dim ond ambell i air o Gymraeg a geir ganddo cyn iddo fynd rhagddo i siarad mewn Lladin a Saesneg.

Bu cryn chwerthin ymysg rhai wrth i bregeth y bore ystyried bywyd “Llywelyn Fawr”!  Ond eto, roedd yn brofiad gwerth chweil.

Ar ôl cinio yn y dafarn a sgwrs gyda’r hwn a’r llall arweiniwyd yr osgordd ar orymdaith gan Fand Cambria drwy’r gwlychwynt at y maen ym mhendraw’r pentref.  Rhoddwyd areithiau penigamp gan yr aelod cynulliad lleol (Rhyddfrydwr!) – William Powell – ac araith ardderchog gan Jamie Bevan (Cymdeithas yr Iaith) lle bu’n tanio ac yn ymfalchio yng nghamp ei dad i ddysgu’r Gymraeg mor llwyddiannus.  Gwych hefyd oedd pibau Jacob.

Er y tywydd erchyll a phawb yn wlyb at y croen roedd pob eiliad werth y drafferth.

Dychwelodd pawb at y dafarn a chynhesrwydd peint a sesiwn werin.  Yno roedd Gareth Westacott ar y ffidil, Rhian Bebb ar yr acordion, Hefin Jones ar y bouzouki, Geraint Roberts ar y chwibanoglau a minau ar y banjo.  Datblygodd yn sesiwn ganu gyda Calfin ac Iwan o Lanfihangel yr Arth a Thalgarreg yn arwain gyda Catrin Rowlands.

Unig drueni’r diwrnod oedd gorfod ei throi hi, drwy’r glaw, yn ol dros y mynyddoedd tua’r deheubarth.

Sesiwn Werin Tŷ Tawe Rhagfyr 2015

Mae sesiynau gwerin y dafarn newydd yn Nhŷ Tawe yn ddifyr.  Mae nhw’n wahanol.  Pam?  Dwn im, ond mae nhw.  Mae’r awyrgylch yn wahanol a’r hwyliau’n anoddach i’w codi.  Ond pan mae nhw’n codi…

Telyn deires, cantorion, ffidil, gitar, banjo, mandolin, iwcalili, chwibanoglau a chanu mawr!  Do, mi fu’n noson fach dda – digon o ganu carolau hefyd a sawl jig a rîl wyllt.

Bu cyri yn y Vojon yn gyntaf yn hwb i’r enaid, deffro’r gweflau a chynhyrfu’r corff.  Bu’n rhaid wedyn wrth ambell beint o ‘deep slade dark’ o fragdy Abertawe i gadw’r sychdwr draw.

Ni fu’n noson hwyr, digon o ddim nid yw dda.

Telsa Gwynne (1969 – 2015)

Telsa Gwynne (1969 – 2015)

I gystudd fe ddaeth gosteg – rhoi heddwch
A rhyddid i geindeg;
I ni, er melltith annheg
Ei hud ddeil i ehedeg.

Wedi salwch hir bu ergyd drom o golli Telsa ddoe. Ni fu’n fwriad gen i erioed i sgwennu teyrngedau ar y blog hwn a gobeithio na fydd raid gwneud hynny eto am amser hir, ond weithiau does dim dewis.

Dywedodd cyfaill wrthyf am Gwglo ei henw bore yma i gael gweld yr holl deyrngedau Saesneg a gyfansoddwyd a gwneuthum hynny. Mae’r Trydarfyd, Gweplyfr a’r blogiau yn llawn negeseuon a chofiannau, i’r fath raddau fel ei fod yn syndod o’r mwyaf i mi. Achos, i mi gael esbonio, er fy mod yn ei hadnabod yn weddol dda, ni sylweddolais erioed ei bod mor adnabyddus ar draws sawl maes o amgylch y byd. Yn wir, o ddarllen y blogs:

Gwglais! Chwiliais! Darllenais dri,
Nid hon a ddisgrifir yw fy Nhelsa i.

Felly rheidrwydd yw colbio’r allweddell hwn i goffau a dathlu cyfraniad Telsa Gwynne i Gymru a’r Gymraeg.

Roedd Telsa yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau. Rhannwyd y gwreiddiau hynny yn ganghennau o’r Hen Ogledd ac o Gymru. Byddai’n ymweld â’i theulu yn ardal Newcastle ambell dro ac yn dychwelyd i Dŷ Tawe gyda photeli medd o Lindisfarne er mwyn i gerddorion y sesiwn werin gael blasu beth oedd yr hen Frythoniaid yn ei yfed! Ond o ddewis, daeth Telsa i fyw i Abertawe i hyfforddi a gweithio fel nyrs ac ymsefydlu yma yn ei Chymru hi. Dysgodd Alan (ei gŵr) a hithau Gymraeg ac aeth Telsa ymlaen i wneud gradd Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd hi newydd gychwyn ar ddoethuriaeth yn Academi Hywel Teifi pan gyrhaeddodd yr aflwydd a’i gorfodi i roi’r gorau iddi.

Gwirionodd Telsa ar y Gymraeg a’r pethau Cymreig. Telsa oedd un o brif weinyddion y bar yn sesiynau gwerin Tŷ Tawe am flynyddoedd maith, hi oedd un o brif wirfoddolwyr Caffi Clonc fore Sadwrn Tŷ Tawe, a bu’n aelod o bwyllgor rheoli Menter Iaith Abertawe am flynyddoedd. Bu ei chyfraniad yn enfawr ac mae’r golled yn enbyd. Wrth gyrraedd y caffi yn Nhŷ Tawe ar fore Sadwrn, neu wrth gyrraedd gig neu sesiwn werin roedd gwên, sgwrs rwydd a diwylliedig yn disgwyl unrhyw un. Cofiaf yn iawn am ei gofid wrth roi cymorth cyntaf i Mirain (4 oed) wedi iddi wasgu ei bys yng nghornel drws yn Nhŷ Tawe.

Awgrymais rhyw dro y dylai gael ei thalu am redeg y bar mor ddiffwdan o fis i fis, ond ei hymateb oedd ei bod wedi derbyn gymaint o fudd oddi wrth Tŷ Tawe wrth ddysgu’r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd ac o gael cyfeillion Cymraeg yno, ei bod yn teimlo mai ad-dalu yn unig a wnâi. Gwrthododd unrhyw daliad yn bendant.

Roedd ei chwmni yn ddifyr bob amser. Gwirionai ar farddoniaeth Gymraeg a Saesneg. Ymhyfrydai ei bod wedi canfod hen gywyddau maswedd nad oedd rhyw ddarlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe eisiau eu trafod a byddai yn ceisio eu trafod â hwy cyn amled a phosib! Mwynhâi wrando ar feirdd yn adrodd eu gwaith ac roedd yn hoff iawn o grwpiau gwerin-pync ymhob iaith. Byddai wedi bod wrth ei bodd gyda’r treigliad o’i henw a wneuthum uchod er efallai y byddai’n fy ngheryddu’n ysgafn am y peth.

Rhoddodd sawl un ohonom ar ben ffordd yn y byd cyfrifiadurol ac roedd ei blog Cymraeg gystal pob tamaid a’r memrwn Saesneg y bu’n ei gadw hefyd. Bu’n ein hannog i ystyried defnyddio systemau cyfrifiadurol tu hwnt i Microsoft ac Apple (rhywbeth nad yw’n anghyffredin erbyn hyn), ond mewn gwirionedd roedd ei chefndir yn y maes hwnnw yn guddiedig i’r rhan fwyaf ohonom. Gwyddom, wrth reswm, am ei gallu rhyfeddol gyda chyfrifiaduron a datblygu meddalwedd, ond nid oedd yn destun trafod rhyngom. Ac felly, rhyfeddach fyth im yw darllen negeseuon pobl ar y we heddiw yn talu teyrngedau o bob cornel o’r byd.

Bu’r cyfnod o waeledd yn hir, ond parhaodd ei gwenau. Bu’r profiad o ymweld â Telsa a hithau’n sâl yn un cymysg. Profiad o rwystredigaeth bod rhywun mor annwyl, egwyddorol a hwyliog yn gorfod dioddef, ond profiad hyfryd hefyd o gael trin a thrafod y byd a’i bethau. Celodd ei phoen rhagom gymaint ag oedd hynny’n bosibl. Dywedodd wrthyf bod y pethau dibwys wedi mynd yn angof iddi a’i bod am ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Y pethau hynny pan yn sgwrsio gyda mi oedd byd natur, adar, blodau, barddoniaeth, canu (gyda gitâr), y ‘pethau’ Cymraeg, ac hanes ei theulu. Ar un achlysur roedd cyfaill arall iddi wedi galw heibio ac wedi rhoi cregyn o lan y môr Abertawe iddi’n anrheg gan nad oedd Telsa erbyn hynny’n gallu mynd at y traeth. Yno y buom am orig yn gwrando ar seiniau rhyfeddol llanw a thrai mewn cragen.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Alan a’r teulu agos i gyd.

Ymweld

Clyw’n llef yr hydref oer hyn – er yr haul
Teimlwn rew diderfyn
A gwae o golli Telsa Gwynne.

 gwendid fe es yn gyndyn – i’w gweld
Es ag ofn meidrolyn,
Gwiw awr fu â Telsa Gwynne.

Hoff orig i ganu offeryn – fu
Yn fwyn ar ddydd gwrthun,
Hael ei sgwrs oedd Telsa Gwynne.

Drwy awr dreng adroddodd englyn – a’i hwyl
Yn parhau i’m dilyn.
Loes gudd oedd loes Telsa Gwynne.

Er yn dawel yn ei gwely’n dioddef,
Hud ei hedd drwy ddeigryn
A gwefr ddaeth gan Telsa Gwynne.

Yn dirion gwelsom aderyn yr haf
A holl rin blodeuyn.
Ni welais gur Telsa Gwynne.

Gwylio heb weled gelyn – yn hwyliog
Heb wylo na dychryn,
Mwynhau gwenau Telsa Gwynne.

Yr eigion glywsom mewn cregyn – tonnau
Fel tannau hen delyn
Yn gain, alaw Telsa Gwynne.

Ond yn dyner dychwel deryn – a daw
I dir wefr blaguryn
Llon o gofio’n Telsa Gwynne.

Calan Gaeaf

Nid pawb sydd a’r amynedd, na’r arddeliad, i drefnu noson Calan Gaeaf oddi wrth yr heip Seisnig-Americanaidd, ac felly mae’n diolch yn fawr i Tracey a Geraint am drefnu noson o hwyl yn y ganolfan sgowtiaid uwchben Ystalyfera.

Mewn lleoliad hyfryd bu coelcerth fawr, canu, tysen bôb a chaws a ffa, danteithion melys, casgen o gwrw (cyfraniad gan Gareth Rees) a sesiwn werin gyda thwmpath anffurfiol yn ychwanegu at yr achlysur.

Noson braf iawn.  Do, mi wisgais fwgwd a bu cryn ganu a llymeitian rhwng y pymtheg ar ugain a ddaeth.

Byddai’n braf gweld yr un peth yn digwydd yn flynyddol.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015?  Sut aeth hi?  Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?

Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:

Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr.  Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu.  Joio!  🙂

Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf.  Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw.  Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.

Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!

Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi.  Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.

Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle.  Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd?  Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015 – yr uchafbwyntiau.

Sesiwn Tŷ Tawe Medi 2015

Roedd hon yn un o’r nosweithiau mawr hynny na all aros yn y cof yn hwy nag ychydig ddyddiau!  Yno roedd cerddorion lu yn canu’r delyn deires, pibau, chwibanoglau, acordionau, mandolinau, gitarau, iwcaliliau, a ffidlau a do, bu’r alawon yn hedfan am sbelan go lew.  Yn ychwanegol i hyn oll roedd tair casgen o gwrw ac erbyn diwedd y noson roedd y dair yn sych!  Cwrw 3 Cliffs Gold (Cwmni Bragu Abertawe), Gower Power (Bragwyr Y Gŵyr), a Digger’s Gold (Bragdy Grey Trees, Aberdâr).  Roedd y tri yn flasus tu hwnt!  Ac i’w hyfed cafwyd gwydrau newydd Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe!  Hyfryd!

gwydrauRoedd cerddorion ardderchog ymysg y cwmni arferol.  Dan Morris yn gwefreiddio fel ag y mae bob amser:

Erbyn diwedd y noson roedd yr awyrgylch, y cwrw, a’r gerddoriaeth wedi datblygu’n ddigon i ambell un i roi unawd:

geraintAc yna, i ganol y noson urddasol hon daeth y pibau i bibo fel côr o’r ochr draw:

PibauFe welir yn y llun uchod bod 4 pibydd yn ormod!  Brith iawn yn wir!

Roedd dechrau’r noson yn gyfle i gyflwyno’r llyfr, Sesiwn yng Nghymru i Abertawe a gobeithio yn wir y gwnaeth y nifer dda o bobl ddaeth draw fwynau’r noson a’r hwyl.  Diolch i bawb am ei gwneud yn sesiwn i’w chofio, gan gynnwys Heledd a Llinos a roddodd i ni eu fersiwn hwythau o gân hyfryd Huw M – Seddi Gwag.

Noson fendigedig.  Mae’n bosib y daw sawl fideo arall i’r fei cyn bo hir…

Tafwyl

Aeth yr haf heibio a daeth mis Medi i’n paratoi ar gyfer yr hydref a’r marwolaeth amryliw.  Sdim byd gwell na noson aeafol i fwynhau pleserau cynnes dynolryw!

Ond cyn iddo ddiflanu o’n cof rhaid sôn rhyw ychydig am brofiad arall ges i eleni.  Euthum i Tafwyl am y tro cyntaf, a dyna beth oedd profiad.  Roedd dros 34,000 o bobl yn yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd dros ddeuddydd ac roedd hon yn teimlo fel gŵyl go iawn, yn rhyw Reading Festival mini neu gyffelyb a’r cyfan yn Gymraeg.  Oedd, roedd tua 90% o’r bobl glywais i’n siarad ar y maes yn siarad Cymraeg hefyd!  Hyfryd.  Roedd y pnawn/nos Sadwrn yn fendigedig.  Cyfle i gael ymlacio gyda pheint yn yr haul tra’n gwylio/gwrando ar Yws Gwynedd, Swnami, Huw M, Gareth Bonello ac ati.  Siwrne fer at y stondinau lu a gwario amser ag arian wrth fwynhau.  Da iawn Menter Caerdydd – gwych!

Wrth gyrraedd, ac o ddiddordeb i gerddor gwerin, roedd hyn yn eich disgwyl:

Bendigedig!  Criw ifanc yn dangos y ffordd yn wych.  Roeddwn MOR falch i mi fynd, os taw dim ond i weld a mwynhau y rhain yn unig!  Ardderchog!

Diolch am drefnu griw Caerdydd.  Byddaf yno eto’r flwyddyn nesaf.