Nid pawb sydd a’r amynedd, na’r arddeliad, i drefnu noson Calan Gaeaf oddi wrth yr heip Seisnig-Americanaidd, ac felly mae’n diolch yn fawr i Tracey a Geraint am drefnu noson o hwyl yn y ganolfan sgowtiaid uwchben Ystalyfera.
Mewn lleoliad hyfryd bu coelcerth fawr, canu, tysen bôb a chaws a ffa, danteithion melys, casgen o gwrw (cyfraniad gan Gareth Rees) a sesiwn werin gyda thwmpath anffurfiol yn ychwanegu at yr achlysur.
Noson braf iawn. Do, mi wisgais fwgwd a bu cryn ganu a llymeitian rhwng y pymtheg ar ugain a ddaeth.
Byddai’n braf gweld yr un peth yn digwydd yn flynyddol.
Bu hon yn nosod dda a chriw da ym mar Tŷ Tawe – y bar newydd di-enw hyd yma. Dwi’n mynnu ei alw’n Maesyfed, ond nid yw hynny’n plesio pawb!
Wna i ddim rhoi gormod o fanylion, ar wahan i ychwanegu’r fideo hwn o ddiwedd y nos pan fo’r rhan fwyaf wedi gadael a rhyw 4-5 o bobl ar ôl. Persain ynde?
Mae’r Saeson yn sôn am ‘guilty pleasures’ ac mae Martyn Joseph yn un o’r rheiny i mi!
Nid yw’n ffitio i mewn i’r ddelwedd o gerddor dwi’n ei hoffi fel rheol, mae’n llawer rhy lân a chywir. Ond wir i chi, mae Martyn Joseph yn rhoi ias i lawr meingefn ac yn haeddu pob broliant posibl.
Heno, ym Mhontardawe, clywsom y caneuon Swansea, Cardiff Bay, Dic Penderyn, a Proud Valley Boy, ymysg eraill. Noson arall i’w thrysori yng nghwmni canwr gwerin Cymreig.
Bu cyd-ganu ar adegau ac ambell i chwerthiniad iach. Diolch Martyn.
Noson arall yn nhafarn Tŷ Tawe, ond y tro hwn, noson go dawel. Criw bychan iawn ddaeth draw i fwynhau Tudur Owen, Caryl Parry Jones ac eraill yn gwamalu am rygbi, cwpan rygbi y deunaw gwlad, a rhagor o rygbi.
Roedd hi’n hwyl cael clywed ffraethni naturiol Caryl a Tudur ac roedd hi’n grêt bod radio Cymru wedi dewis Tŷ Tawe ar gyfer nos Lun a chomedi, ond rhywsut rhywfodd doedd y rhaglen ddim yn gweithio i ni fel cynulleidfa fyw.
Mae ateb posibl i’r peth – cynnig cyfle i’r gynulleidfa roi ambell i sylw. Byddai hynny’n gwneud yr holl raglen yn fwy ‘byw’ ac yn ei wneud yn fwy o hwyl i bawb.
Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe 2015? Sut aeth hi? Os oes rhaid gofyn – lle’r oeddech chi?
Af i ddim ati i sgwennu am bob dim ddigwyddodd, dim ond sôn am fy uchafbwyntiau i o’r penwythnos:
Roedd René Griffiths yn hwyl ac yn mwynhau’r perfformiad – bydd angen ei wahodd yn ôl yn sicr. Aeth y sesiwn werin yn hwyrach ar y nos Wener yn dda, digon o gerddorion, digon o gwrw, a phawb mewn hwyliau canu. Joio! 🙂
Ar y dydd Sadwrn, wrth i’r casgenni gael eu gwagio’n araf, bu Bryn Fôn wrthi yn gyntaf. Er nad ydw i’n ffan mawr, mae’n bwysig nodi pa mor safonol ydyw yn fyw. Set acwstig oedd hwn ganddo ac roedd yn broffesiynol a gwych.
Rhan gorau’r Welsh Whisperer oedd Ceidwad y Beudy – os na chlywoch chi hon – ewch i’w weld!
Mae Lowri Evans wedi canu ymhob un Tyrfe Tawe o’r dechrau un (tua 13 gŵyl erbyn hyn) a tydi hi byth yn siomi. Llais swynol hyfryd a’r acen hyfrytaf un.
Sonia i ddim am y rygbi na’r pel-droed (colli’r gem, er llwyddo!), ond daeth Yucatan i’r noson a’u hanthemau gwych a’u sain yn treiddio drwy’r lle. Ai Yucatan yw grŵp gorau Cymru ar hyn o bryd? Dwi’n credu eu bod ben ag ysgwydd uwchlaw sawl un arall sy’n derbyn llawer iawn mwy o sylw.
Roedd hon yn un o’r nosweithiau mawr hynny na all aros yn y cof yn hwy nag ychydig ddyddiau! Yno roedd cerddorion lu yn canu’r delyn deires, pibau, chwibanoglau, acordionau, mandolinau, gitarau, iwcaliliau, a ffidlau a do, bu’r alawon yn hedfan am sbelan go lew. Yn ychwanegol i hyn oll roedd tair casgen o gwrw ac erbyn diwedd y noson roedd y dair yn sych! Cwrw 3 Cliffs Gold (Cwmni Bragu Abertawe), Gower Power (Bragwyr Y Gŵyr), a Digger’s Gold (Bragdy Grey Trees, Aberdâr). Roedd y tri yn flasus tu hwnt! Ac i’w hyfed cafwyd gwydrau newydd Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe! Hyfryd!
Roedd cerddorion ardderchog ymysg y cwmni arferol. Dan Morris yn gwefreiddio fel ag y mae bob amser:
Erbyn diwedd y noson roedd yr awyrgylch, y cwrw, a’r gerddoriaeth wedi datblygu’n ddigon i ambell un i roi unawd:
Ac yna, i ganol y noson urddasol hon daeth y pibau i bibo fel côr o’r ochr draw:
Fe welir yn y llun uchod bod 4 pibydd yn ormod! Brith iawn yn wir!
Roedd dechrau’r noson yn gyfle i gyflwyno’r llyfr, Sesiwn yng Nghymru i Abertawe a gobeithio yn wir y gwnaeth y nifer dda o bobl ddaeth draw fwynau’r noson a’r hwyl. Diolch i bawb am ei gwneud yn sesiwn i’w chofio, gan gynnwys Heledd a Llinos a roddodd i ni eu fersiwn hwythau o gân hyfryd Huw M – Seddi Gwag.
Noson fendigedig. Mae’n bosib y daw sawl fideo arall i’r fei cyn bo hir…
Hyfrydwch pur oedd cael mwynhau ym mar newydd Tŷ Tawe neithiwr a hwnnw’n orlawn ar gyfer Steffan Alun ac Ellis James a’u comedi gwefreiddiol.
Tra fod y ddau gomediwr yn dod o’r de orllewin, mae Steffan Alun yn ŵr o Abertawe a’i hiwmor yn lleol, ffraeth, digri a doniol. Mae’n anodd, mae’n siŵr, i gynhesu cynulleidfa ar gyfer comediwr arall, ond llwyddo wna Steffan Alun yn rhwydd gan lithro’n rhugl o dynnu coes coeglyd ar ryfeddu at Gymreictod S4C.
Yna daeth Ellis James. Mae’n gomediwr naturiol, profiadol ac aeddfed a’i ddigrifwch yn boenus ar adegau. Pwy wnaiff fyth anghofio’r ddelwedd ohono’n dawsnio yng Nghaerdydd mewn gig llawer rhy cŵl i fachgen o’r gorllewin, neu wedyn yn ddiamddiffyn mewn gig yng nghefn gwlad Ceredigion. A dychmygwch y partion a fu pan ymwelodd Ffrancwyr â phobl ifanc Caerfyrddin rhai blynyddoedd yn ôl. Does dim angen dweud mwy mae’n siwr. Chwerthin, hwyl, Cymreictod naturiol, a chwmni da.
Dyma awgrym o’r hyn sydd i ddod a dwi’n amau bod rhagor i ddod yng Nghlwb Comedi Tŷ Tawe.
Aeth yr haf heibio a daeth mis Medi i’n paratoi ar gyfer yr hydref a’r marwolaeth amryliw. Sdim byd gwell na noson aeafol i fwynhau pleserau cynnes dynolryw!
Ond cyn iddo ddiflanu o’n cof rhaid sôn rhyw ychydig am brofiad arall ges i eleni. Euthum i Tafwyl am y tro cyntaf, a dyna beth oedd profiad. Roedd dros 34,000 o bobl yn yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd dros ddeuddydd ac roedd hon yn teimlo fel gŵyl go iawn, yn rhyw Reading Festival mini neu gyffelyb a’r cyfan yn Gymraeg. Oedd, roedd tua 90% o’r bobl glywais i’n siarad ar y maes yn siarad Cymraeg hefyd! Hyfryd. Roedd y pnawn/nos Sadwrn yn fendigedig. Cyfle i gael ymlacio gyda pheint yn yr haul tra’n gwylio/gwrando ar Yws Gwynedd, Swnami, Huw M, Gareth Bonello ac ati. Siwrne fer at y stondinau lu a gwario amser ag arian wrth fwynhau. Da iawn Menter Caerdydd – gwych!
Wrth gyrraedd, ac o ddiddordeb i gerddor gwerin, roedd hyn yn eich disgwyl:
Bendigedig! Criw ifanc yn dangos y ffordd yn wych. Roeddwn MOR falch i mi fynd, os taw dim ond i weld a mwynhau y rhain yn unig! Ardderchog!
Diolch am drefnu griw Caerdydd. Byddaf yno eto’r flwyddyn nesaf.
Bu diwedd Awst yn gyfnod prysur o hamddena caled. Anodd yw gorfod mynd i fwynhau! 🙂
Yn ystod y cyfnod hwn bu sawl profiad ac aml i gyfnod hwyliog. Dyma rai ohonynt.
Bu’r gwyliau yn gyfnod o deithio o Amsterdam i Cologne i Frwsel, Waterloo ac yna Paris. Yno yn Paris ar y Metro cefais gyfle i fwynhau’r gŵr hwn yn mynd drwy’i bethau. Mae gen i Ffrangeg safon Lefel A (neu felly oedd hi, ond mae’n gwaethygu gyda diffyg ymarfer), ond cefais drafferth mawr deall hwn. Cefais wybod bod rapwyr Marseille a Paris yn defnyddio rhyw iaith Greolaidd newydd sydd yn llawn verlan Ffrengig wedi ei gymysgu gydag Arabeg. Ta waeth am hynny, roedd e’n ysgubol.
Nid rapio’n unig fu hanes y daith hon. Bu’n rhaid wrth ymweliad â’r Acoustic Music Company yn Brighton i gael mwynhau cwmni ambell i fandolin ryfeddol. Yn y fan hyn mae 4 wal sydd yn gyffelyb i hon:
Roedd mandolinau gwych o bob math yno. Y mwyafrif helaeth o gyfandir yr Amerig a’r prisiau yn ddychrynllyd braidd. Cefais y profiad hyfryd o ganu mandolin oedd yn werth dros £17k! Ac oedd, roedd hi’n swnio’n grêt. Yno hefyd roedd un fandolin fach hyfryd las gan Rigel (yngenir yn yr un modd a’r enw bachgen Nigel). Fe’i gwelir yn fan HYN, y fandolin gyntaf ar y ddalen – ac mae’n las! O Mam Bach! Sôn am offeryn hyfryd i’w chwarae! Y sain yn hollol fendigedig a’r offeryn yn teimlo’n iawn ac yn edrych yn wych. Trueni na fyddai gen i ddwy fil a hanner i’w sbario!
Lle rhyfedd yw’r Acoustic Music Company. Mae’n go debyg na fyddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n cerdded heibio fawr callach ei fod yn bodoli. Mae gitarau go fendigedig yno hefyd, ond nid oedd amser i wario’n edrych ar y rheiny.
Bu cyfle da am gwrw neu ddau ar fy nheithiau hefyd. Nid yw enw da y Belgiaid am gwrw yn un gwirion a daeth cyfle i fwynhau sawl math gwahanol gyda fy nghyfaill, Chris sydd yn byw yn Waterloo. Roedd hwn yn un o’r goreuon:
A chyda’r cwrw daeth platiad o giwbiau o gaws gyda dips mwstard a phupur hallt. Hyfryd iawn dros ben. Rhywbeth i gynhesu’r galon.
Ni chefais lyfu fy nghlwyfau’n hir yn ôl yng Nghymru. Roedd gŵyl gwrw Abertawe dros y penwythnos a bu’n rhaid ymweld â honno gyda hogia ni. Dean, Paul, a’r Eos. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gyflym ddatblygu blas am gwrw chwerw (chwerw go iawn) gyda hopys cryf. Mae Cwrw Celt o Gaerffili yn unigryw, blasys a da. Joio!
Awn yn ôl cyn bo hir at sesinau gwerin yr hydref. Wyt ti’n barod?
Bu Gareth Rees a John Davies yn arwain criw i greu bar newydd ar lawr gwaelod Tŷ Tawe ers rhai wythnosau ac er nad yw’n barod go iawn eto, roedd hwn yn gyfle ardderchog i ystyried addasrwydd y lle ar gyfer sesiwn werin.
Gosodwyd bar newydd pren, casgen gwrw tu ôl iddi, silffoedd pren a phren ar hyd y waliau, yn ogystal â haenau newydd o baent i sicrhau awyrgylch mwy werinol tafarn. Yno mae bwrdd dartiau hefyd a chyn bo hir bydd dodrefn newydd hefyd.
I’r awyrgylch newydd arbennig hwn daeth cerddorion i fwynhau a thaflu alawon i’r awyr gan adael iddynt hedfan fry. Daeth criw da ynghyd o gerddorion a gwrandawyr i lenwi’r dafarn. Sara, Geraint, Jacob, John, Caradog, Aneirin, Eos, Nuw, Michal, a minnau. Daeth Eleri Gwilym o’r Sgeti hefyd a chanu cân neu ddwy yn hyfryd, er nad oedd yn arddull draddodiadol werinol efallai.
Yna bu alawon ar aden a chaneuon yn morio’n donnog gyda’r criw cyfan yn ymuno. A chafwyd tawelwch persain ar gyfer canu sych Eos Hirwaun a chanu gwyllt ar adegau eraill.
Roedd y cwrw yn wych, cwrw 3 Cliffs Bay gan Gwmni Bragu Abertawe.
Noson ardderchog. Bydd y dafarn newydd hon yn gaffaeliad! 🙂