Amser cinio dydd Sul yn Abertawe yng nghanol haf a’r glaw yn tywallt i lawr does dim rhaid meddwl yn hir am ble i fynd – Galerie Simpson a sgwrs gan Rhys Mwyn ar ‘Counter Culture‘!
Mae’r Stryd Fawr yn Abertawe wedi bod ar i lawr ers degawdau, nid yno mae’r siopau poblogaidd, nid yno mae’r torfeydd yn tyrru na’r bwytai a’r tafarndai sy’n denu’r byd ifanc. Ond yn ddiweddar, dros y ddwy flynedd ddiwethaf daeth ychydig o dro ar fyd a hwnnw nid o dan nawdd llywodraeth na chyngor, ond drwy law artistiaid, cerddorion, arlunwyr, theatrau ac orielau newydd
Yno daethant â’u horielau, theatrau (gyda chymorth yr Evening Post), a gweithdai cerddorol a gweithdai arlunwyr. Na, nid yw’r lle wedi ei drawsnewid, ond mae ‘na deimlad gwahanol i’r lle a does dim rhaid dychmygu’n ormodol i weld y gallai’r Stryd Fawr ddatblygu’n ganolfan gelfyddydol newydd i Abertawe.
A heddiw, i ganol byd hanner dirwasgedig a hanner celfyddydol Stryd Fawr Abertawe daeth Rhys Mwyn i’n harwain ar daith seicoddaearyddol ar draws Cymru o’r Rhufeiniaid at y tywysogion Cymreig a thrwy’r chwyldro pync i S4C ddi-ddiwylliant, YouTube di-Gymraeg ac at yfory ble ceir gemau cyfrifiadurol treisgar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid wyf am wenieithu, ond byddai’n annheg ysgrifennu’r llith hon heb gydnabod dylanwad Rhys Mwyn a’r Anhrefn arnaf yn fy ieuenctid. Y nhw, yn anad neb arall, ddaeth a gwleidyddiaeth a chymdeithaseg ddealladwy a pherthnasol i fy myd, o gerddoriaeth wahanol i ‘anti-vivisection’, i’r ‘Anti-fascist Action’, i fwyta’n llysieuol, i sosialaeth a sylweddoli lle’r Gymraeg yng Nghymru yfory.
Yn Galerie Simpson a’u harddangosfa o waith Jamie Reid roedd cloriau recordiau, arlunweithiau, a phosteri oedd yn ymwneud â’r Sex Pistols, yr Anhrefn ac ambell sefydliad arall o’r byd pync. Ac yn uchafbwynt i’r cyfeiliant gweledol roedd Rhys yn trafod y byd a’i bethau archeolegol, chwyldroadol a gwleidyddol.
Mae Rhys Mwyn yn siaradwr naturiol apelgar, yn diddanu, syfrdanu a cellwair ar yr un pryd ac, er ei bod yn anodd dilyn trywydd unffurf i’r sgwrs, mae’n ddifyr tu hwnt a byddai’n anodd iawn rhagori arno. Y siaradwr gwâdd pync. Ni chytunais a phob dim ddywedwyd, ond dyna’r pwynt mae’n debyg, cyfle i Rhys gael dweud ei ddweud ac i ni wedyn ystyried, myfyrio a thrafod. Ysgogol.
I gynulleidfa o fwyafrif llethol o siaradwyr Saesneg llwyddodd i gynnal y Gymraeg yn ran hanfodol o’r digwyddiad yn naturiol iawn ac mae hynny’n beth clodwiw dros ben.
Nid oedd y bwyd yn ran o’r ‘counter-culture’ ac wedi cegiad o gaws haloumi, bara pitta, tomato a quiche, daeth yn amser ffarwelio a dychwelyd i’r beunyddiol. Da oedd yr ysbaid o fyfyrio chwyldroadol.
Anhrefn dros Gymru!