Y rhai nas rhagwelir yw’r gorau yn aml medde nhw. Ac yn wir dyma’r profiad y tro hwn. Roedd disgwyl i Tŷ Tawe fod yn dawel yn dilyn gwyliau’r Nadolig a’r Calan. Ond roedd y ‘Bardd Bach’ yn orlawn yn gynnar yn y noson a hwyliau mawr i groesawu sesiwn gyntaf y flwyddyn newydd.
Roedd accordion, dwy ffidil, gitar, dau fandolin, tair chwiban a sawl llais yn rhoi cyfoeth i’r gerddoriaeth a’r cyfan yn egni hwyliog.
Cwrw’r Original Wood oedd yn y gasgen a hwnnw’n hufenog dywyll fendigedig. Ceir cwrw arbennig gan y bragwr, Rory Gowland, o’r Swansea Brewing Company ac mae wedi llwyddo i greu cwrw cneuog chwerw sydd â blas caramel sawrus.
Erbyn diwedd y noson roedd yr alawon yn gwibio a’r offerynwyr fel petasent yn cynddeiriogi. Canwyd ambell i gân hefyd, rhai traddodiadol a rhai eraill megis Llawenydd Heb Ddiwedd (Y Cyrff), Y Dref Wen (Tecwyn Ifan), a Godro’r Fuwch (Tebot Piws), ymysg eraill.
Ni fu canu gwlad na chanu operatig y noson hon. Dim ond traddodiad Cymraeg fu yn Nhŷ Tawe, yng nghanol Abertawe, am noson gyfan.